ATODLEN 4Ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio

Erthyglau 14 a 15

TABL

Paragraff

Disgrifiad o'r datblygiad

Ymgynghorai

(a)

Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar dir yn ardal awdurdod cynllunio lleol arall

Yr awdurdod cynllunio lleol arall hwnnw

(b)

Datblygiad, y gwnaed cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas ag ef i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)58, pan fo'r datblygiad hwnnw'n debygol o effeithio ar dir o fewn ardal cyngor cymuned

Y cyngor cymuned

(c)

Datblygiad, o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at ddiben y ddarpariaeth hon, oherwydd presenoldeb sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy o fewn ei chyffiniau, ac sy'n cynnwys darparu—

  1. (i)

    llety preswyl;

  2. (ii)

    mwy na 250 metr sgwâr o arwynebedd llawr manwerthu;

  3. (iii)

    mwy na 500 metr sgwâr o arwynebedd llawr swyddfa; neu

  4. (iv)

    mwy na 750 metr sgwâr o arwynebedd llawr i'w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu sydd, rywfodd arall, yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y personau sy'n gweithio yn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch neu'n ymweld â hi

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

(ch)

Datblygiad sy'n debygol o arwain at gynnydd sylweddol ym maint, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig—

  1. (i)

    sy'n ymuno neu'n ymadael â chefnffordd; neu

Gweinidogion Cymru

(ii)

yn defnyddio croesfan dros reilffordd

Gweithredwr y rhwydwaith sy'n cynnwys y rheilffordd dan sylw neu a gyfansoddir o'r rheilffordd honno, a Gweinidogion Cymru

(d)

Datblygiad sy'n debygol o arwain at gynnydd sylweddol ym maint, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig sy'n ymuno neu'n ymadael â ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedig

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

(dd)

Datblygiad sy'n debygol o beryglu'r gwaith o wella neu adeiladu ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedig

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

(e)

Datblygiad sy'n cynnwys—

  1. (i)

    ffurfio, llunweddu neu newid unrhyw fynedfa i briffordd (ac eithrio cefnffordd); neu

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

(ii)

adeiladu priffordd neu fynedfa breifat i fangre, sy'n darparu mynediad i ffordd y mae gorchymyn tollau mewn grym mewn perthynas â hi

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol, ac yn achos ffordd sy'n ddarostyngedig i gonsesiwn, y consesiynydd

(f)

Datblygiad a gyfansoddir o lunweddu neu adeiladu, neu sy'n cynnwys llunweddu neu adeiladu, stryd newydd.

Yr awdurdod priffyrdd lleol

(ff)

Datblygiad sy'n ymwneud â darparu adeilad neu biblinell mewn ardal o weithfeydd glo, yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan yr Awdurdod Glo

Yr Awdurdod Glo

(g)

Datblygiad sy'n cynnwys neu'n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio

Asiantaeth yr Amgylchedd

(ng)

Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar safle heneb gofrestredig

Gweinidogion Cymru

(h)

Datblygiad sy'n ymwneud â chyflawni gwaith neu weithrediadau yng ngwely neu ar lannau afon neu ffrwd

Asiantaeth yr Amgylchedd

(i)

Datblygiad at y diben o buro neu storio olewau mwynol a'u deilliadau

Asiantaeth yr Amgylchedd

(j)

Datblygiad sy'n ymwneud â defnyddio tir ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff

Asiantaeth yr Amgylchedd

(l)

Datblygiad mewn cysylltiad â chadw, trin neu waredu carthion, gwastraff masnachu, slyri neu slwtsh (ac eithrio gosod carthffosydd, adeiladu gorsafoedd pwmpio ar linell o garthffosydd, adeiladu tanciau carthion a charthbyllau i wasanaethu tai annedd sengl neu garafannau sengl neu a deiladau sengl lle na fydd mwy na deg person fel arfer yn preswylio, yn gweithio neu'n ymgasglu, a gweithiau atodol i'r cyfryw)

Asiantaeth yr Amgylchedd

(ll)

Datblygiad mewn perthynas â defnyddio tir fel mynwent

Asiantaeth yr Amgylchedd

(m)

Datblygiad sydd—

  1. (i)

    mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu'n debygol o effeithio ar safle o'r fath; neu

  2. (ii)

    o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac sydd o fewn dau gilometr i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,

y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch, neu sy'n cael effaith fel pe bai hysbysiad wedi ei roi yn ei gylch, i'r awdurdod cynllunio lleol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig)59

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

(n)

Datblygiad sy'n ymwneud ag unrhyw dir sydd â theatr arno

Yr Ymddiriedolaeth Theatrau

(o)

Datblygiad nad yw'n ddatblygiad at ddibenion amaethyddol ac nad yw'n cydweddu â darpariaethau cynllun datblygu ac yn ymwneud ag—

  1. (i)

    colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol o'r graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir am y tro (neu a ddefnyddid ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu

  2. (ii)

    colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir am y tro (neu a ddefnyddid ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo'r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a thrwy hynny'n cyrraedd cyfanswm cronnol o 20 hectar neu ragor

Gweinidogion Cymru

(p)

Datblygiad o fewn 250 metr i dir—

  1. (i)

    a ddefnyddir, neu sydd wedi ei ddefnyddio, ar unrhyw adeg yn ystod y 30 mlynedd cyn y cais perthnasol, ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff; a

  2. (ii)

    yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Asiantaeth yr Amgylchedd at ddibenion y ddarpariaeth hon

Asiantaeth yr Amgylchedd

(ph)

Datblygiad at ddibenion ffermio pysgod

Asiantaeth yr Amgylchedd

(r)

Datblygiad—

  1. (i)

    sy'n debygol o beryglu'r defnydd, neu o arwain at golli'r defnydd, o dir a ddefnyddir fel maes chwarae; neu

  2. (ii)

    sydd ar dir:

    1. (aa)

      a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn gwneud y cais perthnasol, ac sy'n parhau heb ei ddatblygu; neu

    2. (bb)

      a neilltuwyd i'w ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o'r fath neu addasu neu ddisodli cynllun o'r fath; neu

  3. (iii)

    sy'n cynnwys disodli'r arwyneb o laswellt ar lain chwarae o faes chwarae gan arwyneb artiffisial, arwyneb o waith llaw neu arwyneb cyfansawdd

Cyngor Chwaraeon Cymru

(rh)

Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar—

  1. (i)
    unrhyw ddyfrffordd fewndirol (boed naturiol neu artiffisial) neu gronfa ddŵr sy'n eiddo i, neu a reolir gan Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain60; neu
  2. (ii)

    unrhyw sianel cyflenwi camlas, cwrs dŵr, dihangfa neu gwlfert,

sydd o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain at ddibenion y ddarpariaeth hon

Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain

(s)

Datblygiad—

  1. (i)

    sy'n cynnwys lleoli sefydliadau newydd; neu

  2. (ii)

    yn cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol a allai arwain at ôl-effeithiau sylweddol ar beryglon o ddamweiniau mawr; neu

  3. (iii)

    sy'n cynnwys cysylltiadau trafnidiaeth, lleoliadau a fynychir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle y byddai'r lleoli neu'r datblygu yn cynyddu'r risg o ddamwain fawr, neu'n ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd, ac os yw'n ymddangos i'r awdurdod cynllunio lleol y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd neu ddiddordeb naturiol penodol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Dehongli'r Tabl

Yn y Tabl uchod—

(a)

ym mharagraff (c)(iv), ystyr “proses ddiwydiannol” (“industrial process”) yw proses sydd ar gyfer, neu'n atodol i, unrhyw un o'r dibenion canlynol—

  1. (i)

    gwneud unrhyw wrthrych neu ran o unrhyw wrthrych (gan gynnwys llong neu gwch, neu ffilm, fideo neu recordiad sain);

  2. (ii)

    newid, atgyweirio, cynnal, addurno, gorffen, glanhau, golchi, pacio, canio, addasu ar gyfer gwerthu, datgymalu neu chwalu unrhyw wrthrych; neu

  3. (iii)

    cael, naddu neu drin mwynau yng nghwrs unrhyw fasnach neu fusnes heblaw amaethyddiaeth, ac eithrio proses a ymgymerir ar dir a ddefnyddir fel mwynglawdd neu sy'n gyfagos i fwynglawdd ac a feddiennir ynghyd â'r mwynglawdd (ac yn yr is-baragraff hwn, ystyr “mwynglawdd” (“mine”) yw unrhyw safle lle y cyflawnir gweithrediadau mwyngloddio);

(b)

ym mharagraff (ch)(ii), mae i “rhwydwaith a “gweithredwr”, yn eu trefn, yr un ystyr ag a roddir i “network” ac “operator” yn Rhan I o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd)61;

(c)

ym mharagraffau (d) ac (dd), ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig—

  1. (i)
    sy'n ffordd ddosbarthiadol neu'n brif ffordd yn rhinwedd adran 12(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol o ran prif ffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol)62; neu
  2. (ii)

    a ddosbarthwyd at ddibenion unrhyw ddeddfiad gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 12(3) o'r Ddeddf honno;

(ch)

ym mharagraff (e), mae i “consesiynydd”, “ffordd sy'n ddarostyngedig i gonsesiwn” a “gorchymyn tollau”, yn eu trefn, yr un ystyr a roddir i “concessionaire”, “road subject to a concession” a “toll order” yn Rhan I o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (ffyrdd newydd yng Nghymru a Lloegr)63;

(d)

ym mharagraff (f), mae i “stryd” yr un ystyr a roddir i “street” yn adran 48(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (strydoedd, gwaith stryd ac ymgymerwyr), ac y mae “stryd newydd” (“new street”) yn cynnwys parhad o stryd bresennol;

(dd)

ym mharagraff (ng), mae i “heneb gofrestredig” yr un ystyr a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion)64;

(e)

ym mharagraff (l), ystyr “slyri” (“slurry”) yw ysgarthion a throeth anifeiliaid (pa un a ychwanegwyd dŵr er mwyn eu trin ai peidio), ac y mae i “carafán” yr un ystyr a roddir i “caravan” at ddibenion Rhan I o Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (safleoedd carafannau)65;

(f)

ym mharagraff (m), ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw tir y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) yn gymwys iddo;

(ff)

ym mharagraff (n), mae i “theatr” yr un ystyr a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli)66;

(g)

ym mharagraff (r)—

  1. (i)

    ystyr “maes chwarae” (“playing field”) yw'r cyfan o safle sy'n cwmpasu o leiaf un llain chwarae;

  2. (ii)

    ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw man wedi ei amlinellu y mae ei arwynebedd ynghyd ag unrhyw redegfa iddo, yn 0.2 hectar neu'n fwy, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pêl-droed, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Wyddelig, bando, hyrli, polo neu bolo beiciau; ac

(ng)

mae i'r ymadroddion a ddefnyddir ym mharagraff (s) yr un ystyr a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC ar reoli'r peryglon o ddamweiniau mawr yn ymwneud â sylweddau peryglus67 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC68.