- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gwnaed
10 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwer a roddwyd gan adran 241(3) o Ddeddf Cynllunio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012.
2. Bydd darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym o ran Cymru ar 30 Ebrill 2012—
(a)adran 188;
(b)adran 197 ac Atodlen 11; ac
(c)adran 238 ac Atodlen 13, i'r graddau y maent yn rhoi effaith i'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2012
Erthygl 2
Cyfeiriad | Graddau'r diddymu |
---|---|
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) | Adran 61A(1) Yn Atodlen 4A, paragraff 2(4) a (5) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 30 Ebrill 2012, ddarpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 o ran Cymru, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
adran 188 (gorchmynion datblygu lleol: dileu'r gofyniad i weithredu polisïau);
adran 197 ac Atodlen 11 (apelau: diwygiadau amrywiol); ac
adran 238 ac Atodlen 13 i'r graddau y maent yn rhoi effaith i'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sy'n ymwneud â gorchmynion datblygu lleol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 wedi eu dwyn i rym gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 |
Paragraffau 24 i 27 o Atodlen 1 | 1 Hydref 2009 | 2009/2573 |
Adrannau 5 i 12 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 14 yn rhannol (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 14 yn rhannol (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 8 Mawrth 2011 | 2011/705 |
Adran 14 yn rhannol (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 18 Awst 2011 | 2011/2054 |
Adrannau 15 i 20 o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 21 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 22 i 26 o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 29 | 8 Mawrth 2011 | 2011/705 |
Adrannau 31 i 35 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 36 ac Atodlen 2 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 37 i 40 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 |
Adrannau 41 i 50 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 |
Adrannau 51 i 54 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 |
Adran 55 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 56 i 59 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 |
Adrannau 60 i 117 ac Atodlen 3 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 118 o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 119 ac Atodlen 4 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 120 i 121 ac Atodlen 5 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 122 i 132 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 133 o ran ymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 134 i 138 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 139 i 149 o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 150 i 152 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 153 ac Atodlen 6 | 18 Awst 2011 | 2011/2054 |
Adrannau 154 i 159 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adrannau 160 i 174 | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 175 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 175 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 176 yn rhannol o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 176 yn rhannol o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 |
Adran 177 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 178 o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 179 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adrannau 180 i 182 o ran Cymru a Lloegr (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 183 o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 184 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 185 o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 187 a pharagraffau 1, 2(1) a (2), 3(1), (2) a (4) a 4 i 6 o Atodlen 7 o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Paragraffau 2(3) a (4) a 3(3) o Atodlen 7 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 188 o ran Lloegr | 23 Mehefin 2009 | 2009/1303 |
Adran 189 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 |
Adran 190 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 |
Adran 190(4) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 |
Adran 191(1) a (3) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 191(2) o ran Cymru | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 194 a pharagraffau 1 i 4 a pharagraff 6 o Atodlen 9 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 195 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 196 a pharagraffau 1, 3 i 6, a 10 i 14 o Atodlen 10 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 197 ac Atodlen 11, adran 198 ac 199 o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 200 o ran Lloegr, (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 |
Adran 206 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 206 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 |
Adran 211(7) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 224(1) a (4) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 |
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Lloegr | 23 Mehefin 2009 | 2009/1303 |
Adran 238 ac Atodlen 13 yn rhannol o ran Lloegr | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 |
Gweler hefyd adran 241(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 26 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: