2012 Rhif 887 (Cy.118) (C.26)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU A LLOEGR
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2012

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 240(3), (4) a (7) o Ddeddf Lleoliaeth 20111.

Enwi a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2012.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20042; ac

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lleoliaeth 2011.

Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau ddod i rym o ran Cymru a Lloegr2

Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru a Lloegr, yw 1 Ebrill 2012—

a

adran 9(1) i'r graddau y mae'n mewnosod—

i

adrannau 5A a 5B newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru,

ii

adrannau 5C a 5D newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion, a

iii

adrannau 5F i 5L newydd yn Neddf 2004;

b

adran 9(2) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;

c

adran 9(3), (6) a (7)(a) ac (c);

d

adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(a) a (d) newydd yn Neddf 2004;

e

adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(b) newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y mae'n ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion;

f

adran 10(1) i (3) a (5) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;

g

adran 10(4);

h

i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, y cofnodion ar gyfer adrannau 5 ac 19 o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnodion hynny; ac

i

y cofnod ar gyfer adran 62(3) o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnod hwnnw.

Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau ddod i rym o ran Cymru3

Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yw 1 Ebrill 2012—

a

adran 46;

b

yn ddarostyngedig i erthygl 4, adran 162(3) (b) ac (c); ac

c

Rhannau 7 a 10 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhannau hynny.

Darpariaeth arbed4

1

Mae'r ddarpariaeth arbed ganlynol yn cael effaith.

2

Mae'r diwygiadau a wneir gan adran 162(3)(b) ac (c) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth os bu farw'r tenant diogel, y cyfeirir ato yn adran 89(1) neu 90(1) (yn ôl fel y digwydd) o Ddeddf Tai 19853 (“y tenant blaenorol”), ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.

3

Nid yw'r diwygiadau hynny yn gymwys os bu farw'r tenant blaenorol cyn y dyddiad hwnnw.

4

Mae i'r geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn yr erthygl hon, yr un ystyr a roddir i eiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 4 o Ddeddf Tai 1985 ac yn Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Carl SargeantY Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru a Lloegr, rannau o adrannau 9 a 10 sy'n ymwneud â phwerau awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru, adran 46 sy'n diddymu darpariaethau yn Neddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, ynghylch deisebau i awdurdodau lleol; adran 162(3)(b) ac (c), sy'n gwneud diwygiadau yn y seiliau ar gyfer adennill meddiant mewn perthynas â thenantiaethau diogel yn dilyn marwolaeth tenant blaenorol; a darpariaethau diddymu cysylltiedig yn adran 237 ac Atodlen 25.

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth arbed.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym ar 31 Ionawr 2012 o ran Cymru, gan Orchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012 (2012/193) (Cy.31) (C.6);

a

Adrannau 38 i 43; a

b

Adran 69.

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth

Dyddiad cychwyn

O.S. Rhif

Adran 1(1) i (6)

18.2.2012

2012/411 (C. 11)

Adrannau 2 i 7

18.2.2012

2012/411 (C. 11)

Adran 8(2)

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)

18.2.2012

2012/411 (C. 11)

Adrannau 9 a 10 (yn rhannol)

18.2.2012

2012/411 (C. 11)

Adrannau 11 i 14

18.2.2012

2012/411 (C. 11)

Adran 15

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Adran 19

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Adran 20 (yn rhannol)

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Pennod 4 o Ran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 21 (yn rhannol) ac Atodlen 2 (yn rhannol)

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Adran 21 ac Atodlen 2 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 22 (yn rhannol) ac Atodlen 3 (yn rhannol)

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Adran 22 (yn rhannol) ac Atodlen 3 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 24

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 26 (yn rhannol) ac Atodlen 4 (yn rhannol)

31.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 30 (yn rhannol)

31.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 36 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 70

15.1.2012

2012/57 (C.2)

Adrannau 72 i 79 ac Atodlenni 5 i 7

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Adran 115

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adrannau 116 (yn rhannol) a 121 (yn rhannol) ac Atodlenni 10 i 12 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 124(2) (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 128(2) * ac Atodlen 13 (yn rhannol) *

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 129 (yn rhannol) *

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 138(5) (yn rhannol) *

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 142(3) (yn rhannol) *

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 145 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 146 (yn rhannol) a 147(2), (3), (4) a (5) (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 147(1) a (6)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 150(1), (2) a (4) i (8)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adrannau 151 a 152

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 153 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 154 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 158 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 165 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 176

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 178 (yn rhannol) ac Atodlen 16 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 186 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 187(1) a (2)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 187(3) a (4) (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 190

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 191(2) i (5)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adrannau 193 a 194

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 195 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 197 (3)(e), (f) a (5)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adrannau 223 a 224

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 230

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 4 o Atodlen 25 (yn rhannol) a Rhannau 9, 11 i 13 a 25 o Atodlen 25

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 5 o Atodlen 25 (yn rhannol)

31.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 237 (yn rhannol) a Rhannau 2 a 3 (yn rhannol) o Atodlen 25

18.2.2012

2012/411 (C. 11)

*

Mae'r darpariaethau hyn yn gymwys i'r Alban yn ogystal (gweler adran 239 o'r Ddeddf) a dygwyd hwy i rym o ran yr Alban gan yr un Gorchymyn.

Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth

Dyddiad cychwyn

O.S. Rhif

Adran 68

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 69(8)

3.12.2011

2011/2896 (C. 103)

Adran 69 (yn rhannol)

15.1.2012

2012/57 (C. 2)

Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 9 o Atodlen 25

15.1.2012

2012/57 (C. 2)