2012 Rhif 934 (Cy.120)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2012
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21(6) a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20041.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub neu bersonau yr ystyrir eu bod yn eu cynrychioli hwy, personau yr ystyrir eu bod yn cynrychioli cyflogeion awdurdodau tân ac achub a phersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol: