Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 934 (Cy.120)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2012

Gwnaed

24 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Mawrth 2012

Yn dod i rym

20 Ebrill 2012

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21(6) a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub neu bersonau yr ystyrir eu bod yn eu cynrychioli hwy, personau yr ystyrir eu bod yn cynrychioli cyflogeion awdurdodau tân ac achub a phersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(1)

2004 p.21. Mae'r pwerau o dan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Yr oeddent wedi eu breinio'n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.