xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GYMRAEG, CYMRU
Gwnaed
27 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 4) 2012.
2. Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Ebrill 2012—
(a)adrannau 2, 23, 138, 139 a 146 i'r graddau nad yw'r adrannau hyn eisoes mewn grym;
(b)Atodlenni 1, 4 a 12 i'r graddau nad yw'r Atodlenni hyn eisoes mewn grym;
(c)adrannau 3, 5 a 6;
(d)adran 7 ac eithrio
(i)isadrannau (2) a (6) lle mae'r isadrannau hynny'n ymwneud â Rhan 5,
(ii)is-adrannau (3)(b), (4), (8) a (10);
(e)Atodlen 2 ac eithrio paragraff 8(2)(a);
(f)adrannau 8 i 10 a 12 i 15;
(g)adran 16 ac eithrio isadrannau (2)(a) a (b);
(h)adrannau 17 i 19;
(i)cychwynnir Rhan 4 fel a ganlyn:
(i)Penodau 2 i 5,
(ii)Pennod 8, a
(iii)Pennod 9 ac eithrio adran 69;
(j)Atodlenni 5 i 9;
(k)Rhan 6;
(l)paragraffau 9 a 18 o Atodlen 11 ac adran 120(4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny;
(m)adrannau 134 i 137;
(n)adran 140 ac eithrio'r canlynol:
(i)isadran (1)(c), a
(ii)isadrannau (1)(d) ac (e) lle mae'r isadrannau hynny yn cyfeirio at ymchwiliadau o dan Ran 5;
(o)adran 141 ac eithrio'r canlynol:
(i)isbaragraff (a) o'r diffiniad o “achwynydd”, a
(ii)isbaragraff (b) o'r diffiniad o “ymchwiliad”;
(p)adrannau 142, 143, 144(3)(b) a 147.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Mawrth 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 156(2) a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac mae'n dwyn i rym ddarpariaethau yn y Mesur sy'n diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Bydd y darpariaethau a gychwynnir gan y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod swyddogaethau'r Bwrdd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn trosglwyddo i'r Comisiynydd. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn darpariaethau sy'n rhoi pwerau ychwanegol i'r Comisiynydd gan gynnwys pwerau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i wneud y gwaith paratoadol sydd ei angen ar gyfer cyflwyno safonau sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
adran 2(2) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 2(3) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 23(1) (yn rhannol) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy.10) |
adran 23(4) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy.10) |
adrannau 138 a 139 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 146 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adrannau 148 a 149 | 5 Chwefror 2012 | 2012/223 (Cy.37) |
Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy.10) |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |