2013 Rhif 1241 (Cy. 133)
Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at y dibenion o wneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau UE yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Yn unol ag adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 19733, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
Yn unol ag adran 10(3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 19844, mae’r ffioedd perthnasol wedi eu cymeradwyo gan y Trysorlys.