xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1241 (Cy. 133)

Animals, Wales

Animal Health

Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013

Gwnaed

29 Mai 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Mai 2013

Yn dod i rym

24 Mehefin 2013

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at y dibenion o wneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau UE yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Yn unol ag adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(3), mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.

Yn unol ag adran 10(3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(4), mae’r ffioedd perthnasol wedi eu cymeradwyo gan y Trysorlys.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)

adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2(5) i’r Ddeddf honno;

(b)

adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(6);

(c)

adran 1 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(7); a

(d)

adran 10(3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(8).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2013.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(9); ac

ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at—

(a) Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Tachwedd 2003, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy’n ymledu drwy fwyd(10),

(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy’n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy’n gymwys i fasnach o fewn y Gymuned mewn semen anifeiliaid domestig o’r rhywogaethau mochaidd, ac i fewnforion o’r semen hwnnw(11), neu

(c) Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(12),

i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Ad-dalu ffioedd

3.   Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd pa bynnag gyfran o unrhyw ffi a dalwyd mewn perthynas â’r cais hwnnw sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.

Y rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela (milheintiau): diwygio a ffioedd

4.—(1Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008(13) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010” (“Commission Regulation (EU) No 200/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella mewn heidiau bridio llawn dwf o Gallusgallus(14);

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011” (“Commission Regulation (EU) No 517/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran targed yr Undeb ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau Salmonella penodol mewn ieir dodwyGallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010(15);.

(3Yn erthygl 3 (yr awdurdod cymwys), yn lle paragraffau (a) a (b) (ond nid yr “ac” ar y diwedd) rhodder—

(a)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010;

(b)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011;.

(4Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 8 (dull samplu yn ystod y cyfnod dodwy)—

(i)yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”, a

(ii)yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”; a

(b)ym mharagraff 12 (dyletswyddau’r person sydd â gofal labordy)—

(i)yn is-baragraff (3)(a), yn lle “3.1.2 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005” rhodder “3.1.3 o’r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2010”,

(ii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “3.1.3” rhodder “3.1.4”, a

(iii)yn is-baragraff (4)(a), yn lle “Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011”.

5.—(1Mae Atodlen 1 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoli Salmonella yn unol â’r Rhaglen Reoli Genedlaethol(16) berthnasol, a sefydlwyd gan neu o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor(17).

(2Yn Atodlen 1—

(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o ddaliad dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;

(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; ac

(c)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o heidiau dofednod, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.

Y Cynllun Iechyd Dofednod: ffioedd

6.  Mae ffioedd wedi eu pennu fel a ganlyn yn Atodlen 2, am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod(18) a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno ac a weithredwyd gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(19)

(a)yn Nhabl 1, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr, am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a

(b)yn Nhabl 2, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.

Semen buchol: ffioedd

7.—(1Mae Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008(20) (“Rheoliadau 2008”) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn lle rheoliad 41 rhodder—

41.  Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 7(4) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.

(3Hepgorer rheoliad 42.

(4Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn yn daladwy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno; ac y mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen honno ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliadau 2008 yr un ystyron ag yn Rheoliadau 2008.

Semen mochaidd: ffioedd

8.—(1Mae Atodlen 4 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau a chynnal profion ac archwiliadau o dan—

(a)Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964(21) (“Rheoliadau 1964”); neu

(b)Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE) 1992(22) (“Rheoliadau 1992”).

(2Mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geisydd am drwydded neu’r gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 4, neu gan ddeiliad y cyfryw drwydded neu gymeradwyaeth, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.

(3Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” (“artificial insemination centre”) yw mangre—

(a)y mae trwydded mewn grym mewn perthynas â hi, o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu

(b)sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.

Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo): ffioedd

9.—(1Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 5 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995(23) (“Rheoliadau 1995”).

(2Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth, o dan Reoliadau 1995 am weithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.

Gwirio llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin: ffioedd

10.—(1Mae’r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 6 yn daladwy pan gynhelir archwiliadau o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad mewn arolygfeydd ffin, yn unol â rheoliad 15 (gweithdrefn wrth fewnforio) o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (24).

(2Pennir y ffioedd sy’n daladwy am archwilio llwyth o anifeiliaid byw, a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 6, yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys os ymgymerir ag archwilio unrhyw anifail byw mewn arolygfa ffin (naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol)—

(a)yn ystod penwythnos;

(b)ar ôl 17:00 o’r gloch ond cyn 08:30 o’r gloch ar ddiwrnod gwaith; neu

(c)yn ystod gŵyl gyhoeddus.

(4Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae ffi o £80 yn daladwy am bob cyflenwad sy’n ddarostyngedig i’w archwilio (yn ychwanegol at unrhyw ffi sy’n daladwy o dan Atodlen 6).

(5Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 6—

(a)ystyr “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yw porthladd neu faes awyr a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd(25);

(b)ystyr “llwyth” (“consignment”) yw casgliad o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif neu ddogfen filfeddygol;

(c)ystyr “cyflenwad” (“load”) yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn yr arolygfa ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio;

(d)ystyr “gŵyl gyhoeddus” (“public holiday”) yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(26); ac

(e)ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.

Dirymiadau

11.  Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987(27);

(b)Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) (Ffioedd) 1995(28);

(c)Rheoliadau Anifeiliaid (Mewnforion o Drydydd Gwledydd) (Ffioedd) 1997(29);

(d)Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008(30); ac

(e)Rheoliadau’r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011(31).

Alun Davies

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

29 Mai 2013

Rydym yn cydsynio

Mark Lancaster

Robert Goodwill

Dau oArglwyddi Gomisiynwyr Trysorlys EiMawrhydi

20 May 2013

Rheoliad 5

ATODLEN 1Y rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela (milheintiau): ffioedd

Tabl 1

Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o ddaliad ieir neu dyrcwn, y mae sampl swyddogol wedi ei gymryd ohono, ei brosesu a’i archwilio

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd yn cymryd sampl rheoli swyddogol i’w archwilio mewn labordy (yn ychwanegol at y ffioedd a bennir isod) 23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir dodwy60
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir bridio96
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid)89
Cymryd sampl rheoli swyddogol o heidiau o dyrcwn pesgi a bridio87
Archwilio sampl rheoli swyddogol mewn labordy15 am bob sampl a archwilir

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Prosesu cais am gymeradwyaeth ddechreuol i labordy, neu am adnewyddiad blynyddol o gymeradwyaeth labordy 43
Cynnal archwiliadau a sicrwydd ansawdd, yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwywyd y labordy ar eu cyfer un prawf642
dau brawf661
tri phrawf681
pedwar prawf700
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer salmonela, fel sy’n ofynnol ar gyfer cael a chadw cymeradwyaeth fel labordy profi37 y prawf

Tabl 3

Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal o heidiau dofednod, am gynnal profion o dan bwynt 4(b) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid15 am bob sampl a brofir
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid3,560
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid2,310

Rheoliad 6

ATODLEN 2Y cynllun iechyd dofednod: ffioedd

Tabl 1

Ffioedd am gofrestru a chymeradwyo sefydliad at ddibenion y cynllun iechyd dofednod

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo sydd yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn), yn ychwanegol at y ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2 nad yw’r ffi amser hon yn gymwys 23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd
Cofrestriad blynyddol fel aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn) 61 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun210
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan wneir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol233
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, pan wneir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol74 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan wneir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol78 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, pan gyflawnir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol 178
Ailgymeradwyaeth flynyddol ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun, ar un safle, pan gyflawnir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol183

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyo at ddiben y cynllun iechyd dofednod

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Prosesu cais am gymeradwyaeth ddechreuol i labordy neu adnewyddiad blynyddol o gymeradwyaeth labordy43
Prawf hyfedredd mewn perthynas â bacterioleg Salmonella ( pullorum, gallinarum ac arizonae ) 131 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg Salmonella ( pullorum a gallinarum ) 336 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg Mycoplasma mewn ieir ( gallisepticum ) 336 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas â meithrin Mycoplasma ( gallisepticum a meleagridis ) 281 y prawf
Prawf hyfedredd mewn perthynas â seroleg Mycoplasma mewn tyrcwn ( gallisepticum a meleagridis ) 336 y prawf

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 3Semen buchol: ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr o dan Reoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”)

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo yn y Tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a restrir isod)swyddog nad yw’n swyddog milfeddygol12 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
swyddog milfeddygol23 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
Ystyried cais o dan reoliadau 7 a 10 o Reoliadau 2008 am gymeradwyo anifail buchol ar gyfer ei ddefnyddio mewn canolfannau casglu domestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu38
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 am gymeradwyo anifail buchol ar gyfer ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu UEAnifail buchol o dan 6 mis oed187
Anifail buchol dros 6 mis oed ac mewn grŵp o’r un rhyw187
Anifail buchol dros 6 mis oed ac mewn grŵp cymysg o ran rhyw368
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantin UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008114
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008146
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan storio UE o dan reoliad 4 o Reoliadau 200863
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 200814

Rheoliad 8

ATODLEN 4Semen mochaidd: ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (“Rheoliadau 1964”) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE)1992

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd yn cyflawni’r gweithgareddau trwyddedu neu gymeradwyo sydd yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn), yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a restrir isod, oni phennir yng ngholofn 2 nad yw’r ffi amser hon yn gymwysswyddog nad yw’n swyddog milfeddygol12 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
swyddog milfeddygol23 am bob hanner awr neu ran o hanner awr a dreuliwyd
Cais am gymeradwyo baeddod i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial
Ystyried cais am gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen na fydd yn destun masnachu o fewn yr UE92
Ystyried cais am gymeradwyo pob baedd ychwanegol a archwilir yr un pryd19 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Profi baeddod yn rheolaidd
Profion rheolaidd gorfodol ar faeddod yn unol â pharagraff 1 o Bennod II o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC mewn canolfannau ffrwythloni artiffisial y gall semen ohonynt fod yn destun masnachu o fewn yr UEhyd at uchafswm o 10 baedd201
am bob baedd ychwanegol a brofir yn y fangre26
Profion rheolaidd ar faeddod mewn canolfannau ffrwythloni artiffisial na fydd semen ohonynt yn destun masnachu o fewn yr UEhyd at uchafswm o 10 baedd140
am bob baedd ychwanegol a brofir yn y fangre19
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial
Ystyried cais gan weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial29
Ystyried cais am gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig (yn unol ag amodau a atodir i’r drwydded)29
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial9

Rheoliad 9

ATODLEN 5Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo): ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (“Rheoliadau 1995”)

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni archwiliadau a gwiriadau (yn ychwanegol at y ffioedd sylfaenol a restrir yn y Tabl hwn pan fo’n ofynnol archwilio’r cyfleusterau perthnasol neu’r fangre berthnasol, neu wirio’r cofnodion) 23 am bob hanner awr, neu ran o hanner awr, a dreuliwyd
Ystyried cais am gymeradwyo un tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, pan fo’n cynnwys archwilio un labordy131
Ystyried cais gan yr un ceisydd am gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol, pan fo pellter y labordy hwnnw neu’r storfa honno oddi wrth y timau embryonau eraill a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo yn fwy nag 8 cilometr86
Ystyried cais gan yr un ceisydd am gymeradwyo labordy neu storfa ychwanegol, pan wneir yr archwiliad ar yr un diwrnod a phan fo pellter y labordy neu’r storfa oddi wrth y timau embryonau eraill a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo yn 8 cilometr neu’n llai27

Ystyried cais am gymeradwyo:

- tîm trosglwyddo embryonau buchol; neu

- storfa o dan reoliad 13;

- storfa o dan reoliad 16; neu

- storfa a’i goruchwyliwr o dan reoliadau 16 a 19,

o Reoliadau 1995

60
Ystyried cais am ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau71
Cynnal archwiliad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarchwilio un labordy neu storfa70
Cynnal archwiliad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol ac ailarchwilio pob labordy neu storfa ychwanegol41 am bob tîm a labordy neu storfa ychwanegol
Ystyried cais am gymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, heb archwilio labordy168

Rheoliad 10

ATODLEN 6Gwirio llwythi o anifeiliaid byw o drydydd gwledydd mewn arolygfeydd ffin: ffioedd

Ffioedd am archwilio llwythi o anifeiliaid o drydydd gwledydd a gwirio dogfennau mewnforio mewn arolygfeydd ffin yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Colofn 1

Archwilio math o anifail a gwirio dogfennau

Colofn 2

Ffi (£) am bob llwyth

Dofednod, ratidau ac adar hela bach44
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol ac ymlusgiaid 40
Cwningod a chnofilod44
dAdar caeth44
Gwenyn, pryfed eraill ac infertebratau40
Anifeiliaid anwes digwmni44
Equidae54
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt54
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall44
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho44

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfuno a chynyddu nifer o ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid, o fewn un offeryn statudol. Cesglir y ffioedd gan asiantaeth weithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sef yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AIALM). Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Mae’r ffioedd yn rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn daladwy mewn perthynas â gweithgareddau sy’n ofynnol o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 ac yn unol â rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela ar gyfer dofednod. Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008 (O.S. 2008/524 (Cy.50)).

Mae’r ffioedd yn rheoliad 6 ac Atodlen 2 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at ddiben y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy.252)).

Mae’r ffioedd yn rheoliad 7 ac Atodlen 3 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen buchol yn unol â Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1040 (Cy.110)), a ddiwygir gan reoliad 7.

Mae’r ffioedd yn rheoliad 8 ac Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen moch, yn unol â Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (O.S. 1964/1172) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (CEE) 1992 (O.S. 1992/3161).

Mae’r ffioedd yn rheoliad 9 ac Atodlen 5 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gasglu, cynhyrchu a throsglwyddo embryonau buchol, yn unol â Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (O.S. 1995/2478).

Mae’r ffioedd yn rheoliad 10 ac Atodlen 6 yn daladwy mewn perthynas ag archwilio llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin, yn unol â Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy.252)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu offerynnau ffioedd presennol mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid (rheoliad 11).

Fel yr esbonnir yn y Memorandwm Esboniadol, mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn wedi eu pennu fel rhan o symudiad fesul cam tuag at ffioedd a fydd yn adennill y gost lawn. Cynyddir rhai ffioedd yn sylweddol o gymharu â’r ffioedd presennol, gan eu bod wedi aros yn ddigyfnewid ers llawer o flynyddoedd. Mae cymhariaeth fanwl rhwng y ffioedd presennol a’r ffioedd newydd wedi ei darparu mewn atodiad i’r Memorandwm Esboniadol

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono drwy anfon e-bost at endemics@wales.gsi.gov.uk.

(2)

1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51), a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7) a Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno.

(3)

1973 p.51 Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(6)

1973 p.51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)

(7)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 1 o Ddeddf 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae’r swyddogaethau hynny a oedd yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(8)

1984 p.40; mae adran 10(8) yn diffinio’r “appropriate Minister” o ran Cymru at ddibenion adran 10 fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(9)

1966 p.36. Diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919 a pharagraff 1 o’r Atodlen i’r offeryn hwnnw, a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824 a pharagraff 2(a) a (b) o’r Atodlen i’r offeryn hwnnw.

(10)

OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 (OJ Rhif L 281, 28.10.2011, t.7).

(11)

OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t.62, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 176/2012 (OJ Rhif L 61, 2.3.2012, t.1).

(12)

OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t.74, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/879/EU (OJ Rhif L 343, 23.12.2011, t.105).

(14)

OJ Rhif L 61, 11.3.2010, t.1, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 517/2011 (OJ Rhif L 138, 26.5.2011, t.45).

(15)

OJ Rhif L 138, 26.5.2011, t.45.

(16)

Mae rhaglenni cenedlaethol yn bodoli ar gyfer rheoli salmonela mewn ieir dodwy sy’n cynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl, ieir bridio, brwyliaid a thyrcwn; cynlluniwyd y rhaglenni ar gyfer gostwng nifer yr achosion o wahanol fathau o salmonela sy’n arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd, yn unol â thargedau’r UE.

(17)

OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 (OJ Rhif L 281, 28.10.2011, t.7).

(18)

Mae’r cynllun iechyd dofednod yn cynnig system gofrestru a chymeradwyo sy’n galluogi sefydliadau i wirio’u cydymffurfiaeth â deddfwriaeth UE, fel eu bod yn gymwys wedyn i allforio mwy nag 20 o gywion neu wyau deor i Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Yn ychwanegol, mae’n darparu ar gyfer cynnal profion ar hyfedredd y labordai sy’n profi samplau ar ran aelodau’r cynllun iechyd dofednod.

(21)

O.S. 1964/1172, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(23)

O.S. 1995/2478, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(25)

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi rhestrau o’r arolygfeydd ffin yn rheolaidd. Pennir y rhestr o arolygfeydd ffin cymeradwy ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2009/821/EC (OJ Rhif L 296, 12.11.2009, t.1) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/762/EU (OJ Rhif L 336, 8.12.2012, t.94).

(26)

1971 p.80. Gwnaed diwygiadau i’r Ddeddf hon, nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.