Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(1); ac

ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at—

(a) Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Tachwedd 2003, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy’n ymledu drwy fwyd(2),

(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy’n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy’n gymwys i fasnach o fewn y Gymuned mewn semen anifeiliaid domestig o’r rhywogaethau mochaidd, ac i fewnforion o’r semen hwnnw(3), neu

(c) Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(4),

i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(1)

1966 p.36. Diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919 a pharagraff 1 o’r Atodlen i’r offeryn hwnnw, a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824 a pharagraff 2(a) a (b) o’r Atodlen i’r offeryn hwnnw.

(2)

OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 (OJ Rhif L 281, 28.10.2011, t.7).

(3)

OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t.62, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 176/2012 (OJ Rhif L 61, 2.3.2012, t.1).

(4)

OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t.74, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/879/EU (OJ Rhif L 343, 23.12.2011, t.105).