xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013 a daw i rym yn unol ag erthyglau 2 a 3.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
2. Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013—
(a)adran 1 (trosolwg);
(b)adran 8 (sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer), i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cod ymarfer archwilio, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
(c)adran 10 (cod ymarfer archwilio);
(d)adran 12 (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori);
(e)adran 13 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud ag aelodau sy’n gyflogeion;
(f)adran 14 (pwerau);
(g)adran 15 (effeithlonrwydd);
(h)adran 16 (y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol);
(i)adran 17(2) a (3) (SAC i fonitro a darparu cyngor) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
(j)adran 18 (dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cynllun dirprwyo;
(k)adran 20 (gwariant) dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2014-2015;
(l)adran 24 (cynllun ar gyfer codi ffioedd);
(m)adran 25 (cynllun blynyddol);
(n)adran 26 (cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol);
(o)adran 27 (cynllun blynyddol: effaith);
(p)adran 28 (swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol);
(q)adran 29(1), (2), (3)(b) ac (c) a (4) (indemnio);
(r)adran 31 (cyfarwyddiadau);
(s)adran 32 (dehongli);
(t)adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc);
(u)yn Atodlen 1 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru)—
(i)paragraff 1 (aelodaeth) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(ii)paragraff 2 (penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(iii)paragraff 3 (statws) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(iv)paragraff 4 (penodi aelodau anweithredol);
(v)paragraff 5 (penodi cadeirydd ar SAC);
(vi)paragraff 6 (cyfnod penodi ac ailbenodi);
(vii)paragraff 7 (trefniadau talu cydnabyddiaeth);
(viii)paragraff 8 (telerau penodi eraill);
(ix)paragraff 9 (ymgynghori);
(x)paragraffau 10, 11 a 12 (dod â phenodiadau i ben);
(xi)paragraff 13 (talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol);
(xii)paragraff 26 (anghymhwyso fel aelod o SAC neu gyflogai iddi) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(xiii)paragraff 27 (cyffredinol);
(xiv)paragraff 28 (cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC);
(xv)paragraff 29(1) (pwyllgorau);
(xvi)paragraff 30 (cynnal pleidleisiau);
(xvii)paragraff 31 (dilysrwydd); a
(xviii)paragraff 32 (dirprwyo swyddogaethau) ac eithrio mewn cysylltiad â’r aelodau sy’n gyflogeion a chyflogeion;
(v)yn Atodlen 2 (y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC)—
(i)paragraff 1 (paratoi a chymeradwyo etc);
(ii)paragraff 2 (cynnwys); a
(iii)paragraffau 5 i 14 (person arall, dros dro, yn arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol);
(w)yn Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed)—
(i)paragraff 4 (rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1); a
(ii)paragraff 13 (indemnio); ac
(x)paragraff 79(2) o Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 12 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).
3.—(1) Daw pob un o ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2014 i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn yn unol ag erthygl 2.
(2) Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2014.
4.—(1) Mewn perthynas â’r cyfnod pan fo penodiad archwilydd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(2) yn cael ei barhau gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf, mae’r canlynol yn cael effaith fel petaent heb eu diwygio gan y Gorchymyn hwn—
(a)y diffiniad o “the auditor” yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997(3);
(b)rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002(4);
(c)rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002(5);
(d)rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002(6); ac
(e)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(7).
(2) Mae penodiad unrhyw berson fel archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8) yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y gwnaed y penodiad ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).
(3) Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998(9) gan y Gorchymyn hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymwyd iddynt ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny.
5. Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-2014.
Jane Hutt
Gweinidog dros Cyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2013