xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1469 (Cy. 140) (C. 57)

Tai, Cymru

Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013

Gwnaed

12 Mehefin 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 322(2) a 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cytundeb awdurdod lleol” (“local authority agreement”) yw cytundeb y mae gan berson hawl oddi tano i osod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru;

ystyr “cytundeb presennol” (“existing agreement”) yw cytundeb awdurdod lleol a wnaed cyn y diwrnod penodedig;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act) yw Deddf Cartrefi Symuol1983(2);

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act) yw Deddf Tai ac Adfywio 2008;

ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan erthygl 2;

ystyr “llain” (“pitch”) yw tir, sy’n ffurfio rhan o safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru, ac sy’n cynnwys unrhyw ran ar gyfer gardd, y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arno;

ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo ac nad yw’n llain bontio;

ystyr “llain bontio” (“transit pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo, am gyfnod penodedig o hyd at 3 mis:

ystyr “safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol” (“local authority gypsy and traveller site”) yw unrhyw dir a feddiennir gan awdurdod lleol fel safle carafannau sy’n darparu llety i sipsiwn a theithwyr; ac

ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw personau sydd ag arferion byw nomadig, beth bynnag fo’u hil neu’u tarddiad, ond nid yw’n cynnwys aelodau o grŵp trefnedig o bobl sioe neu bobl sy’n ymwneud â syrcasau teithiol ac yn cyd-deithio fel y cyfryw(3).

(3Mae i ymadroddion eraill, a ddefnyddir ond nas diffinnir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Neddf 1983 yn ogystal, yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn â’r ymadroddion Saesneg hynny yn Neddf 1983.

Diwrnod penodedig: safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol

2.—(110 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

(a)adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) of the 2008 Act;

(b)adran 321(1) (diddymiadau) o Ddeddf 2008 ac Atodlen16 iddi, i’r graddau y mae a wnelont â’r diddymiadau canlynol—

Enw

Diddymiad

Deddf Cartrefi Symudol 1983 (p.34)Yn adran 5(1), yn y diffiniad o “protected site”, y geiriau o “does not include” i “that,”;
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33)Yn adran 80(4), y geiriau o “in the definition” i “1983 or”.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 3 i 7.

Lleiniau pontio: arbedion at ddibenion penodol o Ddeddf 1983

3.  Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn gymwys at ddibenion adrannau 1(3), (4) a (6) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983(4), i’r graddau y maent yn ymwneud â llain bontio.

Cytundebau presennol: darpariaeth drosiannol gyffredinol

4.  Mae Deddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol fel y byddai’n gymwys i gytundeb awdurdod lleol a wnaed wedi i’r darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 Ddiwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013(5) ddod i rym, ond mae hyn yn ddarostyngedig i erthygl 5.

Cytundebau presennol: datgymwysiadau trosiannol o delerau a rhwymedigaethau penodol

5.—(1Nid yw adrannau 1(2) i (9) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol.

(2Mewn perthynas â chytundeb presennol—

(i)os cychwynnir achos cyfreithiol y mae terfynu’r cytundeb yn fater sy’n codi ynddo cyn y diwrnod penodedig, nid yw paragraffau 3 a 4 (terfynu) o Bennod 3, na pharagraffau 3 i 6 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (pa bynnag Bennod sy’n gymwys yn yr achos penodol dan sylw) yn gymwys;

(ii)nid yw paragraff 8 (ailosod cartref symudol) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys i ofyniad bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy, am unrhyw gyfnod, mewn perthynas â llain arall os gwneir y gofyniad cyn y diwrnod penodedig;

(iii)nid yw paragraff 15(2) a (6) i (11) (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â’r adolygiad cyntaf o’r ffi llain o dan y cytundeb hwnnw os yw dyddiad adolygu’r ffi llain, ar gyfer yr adolygiad hwnnw, o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig;

(iv)nid yw paragraff 16 (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys os cyflawnwyd gwaith mewn perthynas â gwelliant cyn y diwrnod penodedig;

(v)ni cheir gorfodi paragraff 19(c) a (d) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno mewn perthynas ag unrhyw doriad o’r cytundeb sy’n digwydd o fewn 3 mis i’r diwrnod penodedig;

(vi)nid yw paragraff 19(e) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â chostau a threuliau a dynnwyd cyn y diwrnod penodedig;

(vii)nid yw paragraff 20(f) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys pan fo gwaith mewn perthynas â’r gwelliannau yn cychwyn cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig; a

(viii)nid yw paragraff 20(g) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n codi cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig.

Cytundebau presennol: dyletswydd awdurdod lleol i ddarparu datganiad ysgrifenedig

6.—(1Mewn perthynas â chytundeb presennol ynghylch llain sydd, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, yn dod yn llain barhaol, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig, roi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â’r paragraffau canlynol.

(2Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig—

(a)nodi enwau a chyfeiriadau’r partïon;

(b)cynnwys manylion am y llain sy’n ddigonol ar gyfer ei hadnabod;

(c)nodi’r telerau a gynhwysir yn benodol yn y cytundeb;

(d)nodi’r telerau a fydd yn oblygedig yn rhinwedd cymhwyso Deddf 1983 i’r cytundeb; ac

(e)bod yn y ffurf a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn neu ffurf sydd â’r un effaith o ran ei sylwedd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw deler penodol a gynhwysir yn y cytundeb yn anorfodadwy gan awdurdod lleol neu gan unrhyw berson o fewn adran 3(1) o Ddeddf 1983, oni fydd y teler hwnnw wedi ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r parti arall yn unol â pharagraff (1).

(4Os yw’r awdurdod lleol yn methu â rhoi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), caiff y parti arall, ar unrhyw adeg wedi i’r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddod i ben, wneud cais i dribiwnlys am orchymyn sy’n gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol—

(a)yn rhoi i’r parti hwnnw ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a) i (e), a

(b)yn gwneud hynny ddim hwyrach na’r cyfryw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(5Ym mharagraff (4), mae i “tribiwnlys” yr ystyr a roddir i “tribunal” yn Neddf 1983 ac y mae awdurdodaeth tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw i’w thrin fel awdurdodaeth o dan Ddeddf 1983.

(6Ceir cyflwyno datganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr erthygl hon naill ai i’r person hwnnw’n bersonol neu ei anfon drwy’r post.

(7Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion adran 1 neu 2 o Ddeddf 1983.

(8Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion Pennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.

Cytundebau presennol: arbediad cyffredinol

7.  Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedigaeth sydd wedi cronni mewn perthynas â chytundeb presennol, nac unrhyw rwymedi mewn perthynas ag unrhyw hawl neu rwymedigaeth o’r fath.

Huw Lewis

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

12 Mehefin 2013

Erthygl 6(2)

YR ATODLENDatganiad Ysgrifenedig mewn perthynas â Deddf Cartrefi Symudol 1983

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn )

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu mai 10 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod y bydd adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) a diddymiadau perthynol yn Atodlen 16 i’r Ddeddf honno yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru.

Canlyniad cychwyn adran 318, fydd gwneud cytundebau mewn perthynas â lleiniau ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar safleoedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”). Mae hyn yn efelychu’r hyn a wnaed yn Lloegr gan Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) 2011(6), a gychwynnodd adran 318 o Ddeddf 2008 mewn perthynas â Lloegr ar 30 Ebrill 2011.

Mae erthyglau 3 i 7 yn gwneud darpariaethau trosiannol, darfodol ac arbed mewn perthynas â chytundebau ynghylch lleiniau ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar safleoedd awdurdodau lleol. Mae erthygl 3 yn arbed datgymwysiadau o ddarpariaethau penodol ynglŷn â chytundebau ynghylch lleiniau pontio. Yn fras, mae’r datgymwysiadau hyn yn peri nad yw’r terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer darparu datganiad ysgrifenedig, yr hawl i geisio gorchymyn tribiwnlys mewn perthynas â rhoi datganiad ysgrifenedig a’r hawl i wneud cais i’r tribiwnlys am ddiwygio telerau cytundeb o’r fath, yn gymwys i’r cytundebau hynny.

Mae erthygl 4 yn darparu y bydd Deddf 1983 yn gymwys i bob cytundeb ar gyfer gosod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol sy’n bodoli yng Nghymru pan gychwynnir adran 318 o Ddeddf 2008, fel y byddai’n gymwys i unrhyw gytundeb o’r fath a wneid ar ôl y cychwyn. O ganlyniad, bydd y telerau a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf 1983, fel y’u mewnosodwyd gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2013, yn oblygedig mewn cytundebau o’r fath.

Mae erthygl 5 yn datgymhwyso, mewn perthynas â chytundeb presennol, ddarpariaethau penodol yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf 1983 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (a fewnosodwyd yn Neddf 1983 gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2013).

Mae erthygl 6 yn ddarpariaeth ddarfodol sy’n gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn rhoi datganiad ysgrifenedig i feddianwyr lleiniau parhaol o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig; ac y mae’r erthygl (a’r Atodlen i’r Gorchymyn) yn pennu’r hyn y mae’n rhaid i’r datganiad ei gynnwys.

Mae erthygl 7 yn ddarpariaeth arbed gyffredinol, sy’n sicrhau nad effeithir ar hawliau a rhwymedigaethau o dan y cytundebau presennol, o ganlyniad i gymhwyso Deddf 1983 i’r trefniadau presennol.

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn))

Mae’r darpariaethau o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2008 hefyd wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan yr Offerynnau Statudol canlynol:

O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803, O.S. 2009/2096 ac O.S. 2011/1002.

Gweler hefyd adran 325(6) o Ddeddf 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 22 Gorffennaf 2008 (y diwrnod y pasiwyd Deddf 2008).

Gweler hefyd adran 325(2) o Ddeddf 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 22 Medi 2008 (sef ar ddiwedd cyfnod o 2 fis ar ôl pasio Deddf 2008).

Mae’r darpariaethau yn Neddf 2008 sydd yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif yr O.S.

adrannau 1 i 3 ac Atodlen 18 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 48 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862
adrannau 5 i 18 ac Atodlenni 2 i 41 Rhagfyr 2008O.S. 2008/3068
adran 191 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862
adrannau 20 i 301 Rhagfyr 2008O.S. 2008/3068
adran 311 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adrannau 32 a 331 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adran 341 Ebrill 2009O.S. 2009/803
adran 351 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 361 Ebrill 2009O.S. 2009/803
adran 378 Medi 2008O.S. 2008/2358
adrannau 38 i 431 Rhagfyr 2008
adran 448 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 451 Rhagfyr 2008
adrannau 46 a 478 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 481 Rhagfyr 2008O.S. 2008/3068
adran 498 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 50 ac Atodlen 58 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2009O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2009/803
adran 51 ac Atodlenni 6 a 78 Medi 2008O.S. 2008/2358
adrannau 52 i 558 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 56 ac Atodlen 88 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adran 578 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862
adran 588 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adran 598 Medi 2008O.S. 2008/2358
adrannau 60 i 631 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 6416 Chwefror 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/363 ac O.S. 2010/862
adrannau 65 i 71 ac Atodlenni 6 a 78 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adran 728 Medi 2008O.S. 2008/2358
adrannau 73 i 808 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 81 i 858 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 868 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 87 i 928 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 938 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2009/803
adran 941 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adrannau 95 i 988 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 99 i 1048 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 1058 Medi 2008O.S 2008/2358
adrannau 106 i 1111 Ebrill 2010O.S 2010/862
adrannau 112 a 1138 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adran 1148 Medi 2008 ac 7 Medi 2009O.S. 2008/2358 ac O.S. 2009/2096
adran 1151 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 1168 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adran 1178 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S 2008/2358 ac O.S 2010/862
adran 1181 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 1198 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 120 i 1261 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 1278 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 128 i 1301 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 1318 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 132 i 1431 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adrannau 144 a 1451 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adrannau 146 i 1731 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adran 1748 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 175 i 1911 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adrannau 192 i 1978 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 1988 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adrannau 199 i 2011 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 2028 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S 2010/862
adrannau 203 i 2111 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 2128 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S 2010/862
adran 2131 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 2148 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adran 2158 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862
adran 2168 Medi 2008O.S. 2008/2358
adrannau 217 i 2271 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 2281 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adrannau 229 i 2331 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 2341 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adrannau 235 i 2391 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 2401 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adrannau 241 i 2431 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 2441 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adrannau 245 i 2741 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adrannau 275 a 2768 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358, O.S. 2010/862
adran 277 ac Atodlen 98 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862
adran 2781 Ebrill 2010O.S. 2010/862
adran 299 ac Atodlen 111 Rhagfyr 2008 ac 20 Mai 2009O.S. 2008/3068, O.S. 2009/1261
adran 311 ac Atodlen 141 Rhagfyr 2008O.S. 2008/3068
adran 314 ac Atodlen 15 (yn rhannol)2 Mawrth 2009O.S. 2009/415
adran 3167 Medi 2009O.S. 2009/2096
adran 31722 Medi 2008O.S. 2008/2358
adran 321 ac Atodlen 16 (yn rhannol)22 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 2 Mawrth 2009, 1 Ebrill 2009, 20 Mai 2009 ac 7 Medi 2009O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/415, O.S. 2009/803, O.S. 2009/1261 ac O.S 2009/2096
(3)

Mae adran 5 o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983, cyn ei diwygio gan adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p.17), yn darparu nad yw Deddf 1983 yn gymwys i dir a feddiennir gan awdurdod lleol fel safle carafannau sy’n darparu llety i ‘gipsies’. Diddymwyd y diffiniad o ‘gipsies’ y dibynnai’r eithriad hwnnw arno gan adran 80 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33), er diffiniad gael ei arbed at y diben o ddehongli adran 5. Mae’r diffiniad hwn o ‘sipsiwn a theithwyr’ yn deillio o’r diffiniad hwnnw a arbedwyd.

(4)

1983 p.34. Yng Nghymru a Lloegr, amnewidiwyd adran 1 a diwygiwyd adran 2 gan adrannau 206 a 265 o Ddeddf Tai 2004 (p.34) a pharagraff 9 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno.