2013 Rhif 1469 (Cy. 140) (C. 57)

Tai, Cymru

Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 322(2) a 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 20081, yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “cytundeb awdurdod lleol” (“local authority agreement”) yw cytundeb y mae gan berson hawl oddi tano i osod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru;

  • ystyr “cytundeb presennol” (“existing agreement”) yw cytundeb awdurdod lleol a wnaed cyn y diwrnod penodedig;

  • ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act) yw Deddf Cartrefi Symuol19832;

  • ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act) yw Deddf Tai ac Adfywio 2008;

  • ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan erthygl 2;

  • ystyr “llain” (“pitch”) yw tir, sy’n ffurfio rhan o safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru, ac sy’n cynnwys unrhyw ran ar gyfer gardd, y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arno;

  • ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo ac nad yw’n llain bontio;

  • ystyr “llain bontio” (“transit pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo, am gyfnod penodedig o hyd at 3 mis:

  • ystyr “safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol” (“local authority gypsy and traveller site”) yw unrhyw dir a feddiennir gan awdurdod lleol fel safle carafannau sy’n darparu llety i sipsiwn a theithwyr; ac

  • ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw personau sydd ag arferion byw nomadig, beth bynnag fo’u hil neu’u tarddiad, ond nid yw’n cynnwys aelodau o grŵp trefnedig o bobl sioe neu bobl sy’n ymwneud â syrcasau teithiol ac yn cyd-deithio fel y cyfryw3.

3

Mae i ymadroddion eraill, a ddefnyddir ond nas diffinnir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Neddf 1983 yn ogystal, yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn â’r ymadroddion Saesneg hynny yn Neddf 1983.

Diwrnod penodedig: safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol2

1

10 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

a

adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) of the 2008 Act;

b

adran 321(1) (diddymiadau) o Ddeddf 2008 ac Atodlen16 iddi, i’r graddau y mae a wnelont â’r diddymiadau canlynol—

Enw

Diddymiad

Deddf Cartrefi Symudol 1983 (p.34)

Yn adran 5(1), yn y diffiniad o “protected site”, y geiriau o “does not include” i “that,”;

Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33)

Yn adran 80(4), y geiriau o “in the definition” i “1983 or”.

2

Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 3 i 7.

Lleiniau pontio: arbedion at ddibenion penodol o Ddeddf 19833

Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn gymwys at ddibenion adrannau 1(3), (4) a (6) a 2(2) i (4) o Ddeddf 19834, i’r graddau y maent yn ymwneud â llain bontio.

Cytundebau presennol: darpariaeth drosiannol gyffredinol4

Mae Deddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol fel y byddai’n gymwys i gytundeb awdurdod lleol a wnaed wedi i’r darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 Ddiwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 20135 ddod i rym, ond mae hyn yn ddarostyngedig i erthygl 5.

Cytundebau presennol: datgymwysiadau trosiannol o delerau a rhwymedigaethau penodol5

1

Nid yw adrannau 1(2) i (9) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol.

2

Mewn perthynas â chytundeb presennol—

i

os cychwynnir achos cyfreithiol y mae terfynu’r cytundeb yn fater sy’n codi ynddo cyn y diwrnod penodedig, nid yw paragraffau 3 a 4 (terfynu) o Bennod 3, na pharagraffau 3 i 6 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (pa bynnag Bennod sy’n gymwys yn yr achos penodol dan sylw) yn gymwys;

ii

nid yw paragraff 8 (ailosod cartref symudol) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys i ofyniad bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy, am unrhyw gyfnod, mewn perthynas â llain arall os gwneir y gofyniad cyn y diwrnod penodedig;

iii

nid yw paragraff 15(2) a (6) i (11) (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â’r adolygiad cyntaf o’r ffi llain o dan y cytundeb hwnnw os yw dyddiad adolygu’r ffi llain, ar gyfer yr adolygiad hwnnw, o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig;

iv

nid yw paragraff 16 (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys os cyflawnwyd gwaith mewn perthynas â gwelliant cyn y diwrnod penodedig;

v

ni cheir gorfodi paragraff 19(c) a (d) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno mewn perthynas ag unrhyw doriad o’r cytundeb sy’n digwydd o fewn 3 mis i’r diwrnod penodedig;

vi

nid yw paragraff 19(e) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â chostau a threuliau a dynnwyd cyn y diwrnod penodedig;

vii

nid yw paragraff 20(f) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys pan fo gwaith mewn perthynas â’r gwelliannau yn cychwyn cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig; a

viii

nid yw paragraff 20(g) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n codi cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig.

Cytundebau presennol: dyletswydd awdurdod lleol i ddarparu datganiad ysgrifenedig6

1

Mewn perthynas â chytundeb presennol ynghylch llain sydd, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, yn dod yn llain barhaol, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig, roi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â’r paragraffau canlynol.

2

Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig—

a

nodi enwau a chyfeiriadau’r partïon;

b

cynnwys manylion am y llain sy’n ddigonol ar gyfer ei hadnabod;

c

nodi’r telerau a gynhwysir yn benodol yn y cytundeb;

d

nodi’r telerau a fydd yn oblygedig yn rhinwedd cymhwyso Deddf 1983 i’r cytundeb; ac

e

bod yn y ffurf a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn neu ffurf sydd â’r un effaith o ran ei sylwedd.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw deler penodol a gynhwysir yn y cytundeb yn anorfodadwy gan awdurdod lleol neu gan unrhyw berson o fewn adran 3(1) o Ddeddf 1983, oni fydd y teler hwnnw wedi ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r parti arall yn unol â pharagraff (1).

4

Os yw’r awdurdod lleol yn methu â rhoi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), caiff y parti arall, ar unrhyw adeg wedi i’r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddod i ben, wneud cais i dribiwnlys am orchymyn sy’n gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol—

a

yn rhoi i’r parti hwnnw ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a) i (e), a

b

yn gwneud hynny ddim hwyrach na’r cyfryw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.

5

Ym mharagraff (4), mae i “tribiwnlys” yr ystyr a roddir i “tribunal” yn Neddf 1983 ac y mae awdurdodaeth tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw i’w thrin fel awdurdodaeth o dan Ddeddf 1983.

6

Ceir cyflwyno datganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr erthygl hon naill ai i’r person hwnnw’n bersonol neu ei anfon drwy’r post.

7

Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion adran 1 neu 2 o Ddeddf 1983.

8

Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion Pennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.

Cytundebau presennol: arbediad cyffredinol7

Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedigaeth sydd wedi cronni mewn perthynas â chytundeb presennol, nac unrhyw rwymedi mewn perthynas ag unrhyw hawl neu rwymedigaeth o’r fath.

Huw LewisY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENDatganiad Ysgrifenedig mewn perthynas â Deddf Cartrefi Symudol 1983

Erthygl 6(2)

Image_r00001

Image_r00002

Image_r00003

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn )

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu mai 10 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod y bydd adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) a diddymiadau perthynol yn Atodlen 16 i’r Ddeddf honno yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru.

Canlyniad cychwyn adran 318, fydd gwneud cytundebau mewn perthynas â lleiniau ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar safleoedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”). Mae hyn yn efelychu’r hyn a wnaed yn Lloegr gan Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) 20116, a gychwynnodd adran 318 o Ddeddf 2008 mewn perthynas â Lloegr ar 30 Ebrill 2011.

Mae erthyglau 3 i 7 yn gwneud darpariaethau trosiannol, darfodol ac arbed mewn perthynas â chytundebau ynghylch lleiniau ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar safleoedd awdurdodau lleol. Mae erthygl 3 yn arbed datgymwysiadau o ddarpariaethau penodol ynglŷn â chytundebau ynghylch lleiniau pontio. Yn fras, mae’r datgymwysiadau hyn yn peri nad yw’r terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer darparu datganiad ysgrifenedig, yr hawl i geisio gorchymyn tribiwnlys mewn perthynas â rhoi datganiad ysgrifenedig a’r hawl i wneud cais i’r tribiwnlys am ddiwygio telerau cytundeb o’r fath, yn gymwys i’r cytundebau hynny.

Mae erthygl 4 yn darparu y bydd Deddf 1983 yn gymwys i bob cytundeb ar gyfer gosod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol sy’n bodoli yng Nghymru pan gychwynnir adran 318 o Ddeddf 2008, fel y byddai’n gymwys i unrhyw gytundeb o’r fath a wneid ar ôl y cychwyn. O ganlyniad, bydd y telerau a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf 1983, fel y’u mewnosodwyd gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2013, yn oblygedig mewn cytundebau o’r fath.

Mae erthygl 5 yn datgymhwyso, mewn perthynas â chytundeb presennol, ddarpariaethau penodol yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf 1983 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (a fewnosodwyd yn Neddf 1983 gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2013).

Mae erthygl 6 yn ddarpariaeth ddarfodol sy’n gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn rhoi datganiad ysgrifenedig i feddianwyr lleiniau parhaol o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig; ac y mae’r erthygl (a’r Atodlen i’r Gorchymyn) yn pennu’r hyn y mae’n rhaid i’r datganiad ei gynnwys.

Mae erthygl 7 yn ddarpariaeth arbed gyffredinol, sy’n sicrhau nad effeithir ar hawliau a rhwymedigaethau o dan y cytundebau presennol, o ganlyniad i gymhwyso Deddf 1983 i’r trefniadau presennol.

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn))

Mae’r darpariaethau o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2008 hefyd wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan yr Offerynnau Statudol canlynol:

O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803, O.S. 2009/2096 ac O.S. 2011/1002.

Gweler hefyd adran 325(6) o Ddeddf 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 22 Gorffennaf 2008 (y diwrnod y pasiwyd Deddf 2008).

Gweler hefyd adran 325(2) o Ddeddf 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 22 Medi 2008 (sef ar ddiwedd cyfnod o 2 fis ar ôl pasio Deddf 2008).

Mae’r darpariaethau yn Neddf 2008 sydd yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif yr O.S.

adrannau 1 i 3 ac Atodlen 1

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 4

8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862

adrannau 5 i 18 ac Atodlenni 2 i 4

1 Rhagfyr 2008

O.S. 2008/3068

adran 19

1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862

adrannau 20 i 30

1 Rhagfyr 2008

O.S. 2008/3068

adran 31

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adrannau 32 a 33

1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adran 34

1 Ebrill 2009

O.S. 2009/803

adran 35

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 36

1 Ebrill 2009

O.S. 2009/803

adran 37

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adrannau 38 i 43

1 Rhagfyr 2008

adran 44

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 45

1 Rhagfyr 2008

adrannau 46 a 47

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 48

1 Rhagfyr 2008

O.S. 2008/3068

adran 49

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 50 ac Atodlen 5

8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2009

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2009/803

adran 51 ac Atodlenni 6 a 7

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adrannau 52 i 55

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 56 ac Atodlen 8

8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adran 57

8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862

adran 58

8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adran 59

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adrannau 60 i 63

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 64

16 Chwefror 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/363 ac O.S. 2010/862

adrannau 65 i 71 ac Atodlenni 6 a 7

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adran 72

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adrannau 73 i 80

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 81 i 85

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 86

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 87 i 92

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 93

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2009/803

adran 94

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adrannau 95 i 98

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 99 i 104

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 105

8 Medi 2008

O.S 2008/2358

adrannau 106 i 111

1 Ebrill 2010

O.S 2010/862

adrannau 112 a 113

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adran 114

8 Medi 2008 ac 7 Medi 2009

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2009/2096

adran 115

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 116

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adran 117

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S 2008/2358 ac O.S 2010/862

adran 118

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 119

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 120 i 126

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 127

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 128 i 130

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 131

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 132 i 143

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adrannau 144 a 145

1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adrannau 146 i 173

1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adran 174

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 175 i 191

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adrannau 192 i 197

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 198

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adrannau 199 i 201

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 202

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S 2010/862

adrannau 203 i 211

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 212

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S 2010/862

adran 213

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 214

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adran 215

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862

adran 216

8 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adrannau 217 i 227

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 228

1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adrannau 229 i 233

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 234

1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adrannau 235 i 239

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 240

1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adrannau 241 i 243

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 244

1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adrannau 245 i 274

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adrannau 275 a 276

8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358, O.S. 2010/862

adran 277 ac Atodlen 9

8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862

adran 278

1 Ebrill 2010

O.S. 2010/862

adran 299 ac Atodlen 11

1 Rhagfyr 2008 ac 20 Mai 2009

O.S. 2008/3068, O.S. 2009/1261

adran 311 ac Atodlen 14

1 Rhagfyr 2008

O.S. 2008/3068

adran 314 ac Atodlen 15 (yn rhannol)

2 Mawrth 2009

O.S. 2009/415

adran 316

7 Medi 2009

O.S. 2009/2096

adran 317

22 Medi 2008

O.S. 2008/2358

adran 321 ac Atodlen 16 (yn rhannol)

22 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 2 Mawrth 2009, 1 Ebrill 2009, 20 Mai 2009 ac 7 Medi 2009

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/415, O.S. 2009/803, O.S. 2009/1261 ac O.S 2009/2096