Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2013

Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1653 (Cy. 154)

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

3 Gorffennaf 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Gorffennaf 2013

Yn dod i rym

4 Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir i’r cyfryw anifeiliaid.(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2013, deuant i rym ar 4 Gorffennaf 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008

2.—(1Mae’r Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008(3) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Ym mharagraff 1 o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad a ganlyn —

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy’n tarddu o Tsieina ac sy’n Benderfyniad sy’n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC(4), fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/287/EU(5);.

(3Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig gyntaf ar y farchnad), rhodder y canlynol —

3.(1) Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig ar y farchnad oni bai —

(a)mewn perthynas â’r cynnyrch —

(i)bod y gofyniad a gynhwysir yn Erthygl 3.2 o Benderfyniad y Comisiwn, mewn perthynas â chynhyrchion sy’n cynnwys reis, wedi ei gyfansoddi ohono neu wedi ei gynhyrchu ohono, i drosglwyddo dogfen mynediad gyffredin neu ddogfen mynediad milfeddygol gyffredin, fel y bo’n briodol, gyda’r rhannau priodol wedi eu cwblhau, wedi ei ddigoni, a

(ii)y cydymffurfiwyd â’r amodau a bennir yn Erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn; a

(b)pan fo’r llwyth sy’n cynnwys y cynnyrch penodedig wedi ei rannu yn dilyn rheolaeth swyddogol, bod copi dilysedig o’r dystysgrif iechyd a’r adroddiad dadansoddiadol yn dod gyda phob rhan o’r llwyth rhanedig..

(4Yn lle rheoliad 8 (darpariaeth drosiannol) rhodder y canlynol —

8.(1) Yn y rheoliad hwn, mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chynhyrchion penodedig ac eithrio’r rhai hynny sy’n cyfateb i Godau CN 1905 90 60, 1905 90 90 neu 2103 90 90, ac mae paragraff (3) yn gymwys i gynhyrchion penodedig sy’n cyfateb i’r Codau CN hynny yn unig.

(2) Hyd 5 Awst 2013, nid yw’r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys mewn perthynas â chynnyrch penodedig, ar yr amod bod —

(a)y cynnyrch wedi cyrraedd yr UE cyn 4 Gorffennaf 2013, a

(b)na fyddai rhoi’r cynnyrch ar y farchnad wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn sefyll yn union cyn i Reoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2013 ddod i rym.

(3) Nid yw’r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys hyd 5 Hydref 2013..

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Gorffennaf 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1.  Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n dod i rym ar 4 Gorffennaf 2013, yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1080 (Cy.114)) fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2012/64 (Cy.15)) (“Rheoliadau 2008”) er mwyn rhoi ar waith ofynion penodol a gyflwynir gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/287/EU sy’n diwygio Penderfyniad Gweithredu 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis sydd wedi ei addasu’n enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy’n tarddu o Tsieina (OJ Rhif L162, 14.6.2013, t.10) (“Penderfyniad 2013/287”).

2.  Yn benodol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008 drwy —

(a)diwygio’r diffiniad o “Benderfyniad y Comisiwn” er mwyn cynnwys cyfeiriad at Benderfyniad 2013/287 (rheoliad2(2));

(b)darparu na chaiff cynhyrchion reis o Tsieina eu rhoi ar y farchnad yn gyfreithlon os nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion penodol, gan gynnwys amodau newydd a gynhwysir yn Erthygl 3.2 o Benderfyniad y Comisiwn (rheoliad 2(3)); a

(c)darparu ar gyfer gwneud trefniadau trosiannol mewn perthynas â chynhyrchion reis a fewnforir i’r UE o Tsieina cyn 5 Awst 2013 yn achos rhai cynhyrchion a 5 Hydref 2013 yn achos cynhyrchion eraill (rheoliad 2 (4)).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei baratoi ac fe’i cyhoeddir cyn gynted ag y bydd wedi ei gwblhau. Oherwydd natur brys yr offeryn hwn, nid oedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gallu cwblhau’r asesiad effaith rheoleiddiol cyn i’r offeryn ddod i rym.

(2)

Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/1971) yw’r gorchymyn dynodi perthnasol. Roedd Erthygl 4 o’r gorchymyn hwnnw yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) (“y Cynulliad”) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran y materion a bennir yn Atodlen 3 i’r gorchymyn hwnnw sy’n cynnwys mesurau mewn perthynas â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir i’r cyfryw anifeiliaid. Mae’r swyddogaethau sy’n arferadwy gan y Cynulliad o dan y gorchymyn hwnnw wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 30(2)(b) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

OJ Rhif L343, 23.12.2011, t.140.

(5)

OJ Rhif L162, 14.6.2013 t.10