2013 Rhif 1657 (Cy. 155)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 23(9) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 20031 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 35(3), Tabl 1, o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd drafft o’r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 a daw i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.

Diwygio Deddf Addysg 19962

1

Yn adrannau 444A neu 444B o Ddeddf Addysg 1996 dileer y geiriau “in England” ym mhob man lle y maent yn digwydd.

2

Yn adran 569(2B) o Ddeddf Addysg 1996 yn lle “or 336” rhodder “, 336, 444A or 444B”.

Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 23(9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddileu’r geiriau “in England” o adrannau 444A a 444B o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”).

Mae adrannau 444A a 444B o Ddeddf 1996 yn darparu pŵer i gwnstabl heddlu, swyddog o’r awdurdod lleol neu’r pennaeth (neu aelod o staff a awdurdodir gan y pennaeth) i ddyroddi, yn unol â’r rheoliadau, hysbysiadau cosb mewn cysylltiad â thriwantiaeth o’r ysgol (ac o fannau eraill lle y caiff addysg ei darparu).

Mae dileu’r geiriau “in England” yn golygu y bydd y darpariaethau hynny yn gymwys i Gymru.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i adran 569 o Ddeddf Addysg 1996 er mwyn ei gwneud yn glir mai swyddogaethau Gweinidogion Cymru yw’r swyddogaethau o dan adrannau 444A a 444B o Ddeddf 1996.