2013 Rhif 1662 (Cy. 158)

Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaehol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

O ran y Rheoliadau hyn—

a

eu henw yw Rheoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 2013;

b

maent yn gymwys o ran Cymru; ac

c

maent yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2013.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) ac “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw personau sydd wedi eu penodi felly at ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 19813;

  • ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas neu ran o garcas ceffyl, ond nid yw’n cynnwys sampl a gymerir o garcas;

  • ystyr “ceffyl” (“horse”) yw unrhyw anifail o’r teulu Equidae, ac mae’n cynnwys croesiadau o’r anifeiliaid hynny;

  • ystyr “cyfarpar” (“equipment”), ac eithrio yn rheoliad 29(8)(a), yw unrhyw gyfarpar sydd wedi bod mewn cyswllt â gwaed neu hylifau corfforol eraill o geffyl, gan gynnwys nodwyddau a chyfarpar llawfeddygol neu ddeintyddol, oni bai fod y cyfarpar hwnnw wedi ei sterileiddio yn dilyn cyswllt o’r fath neu wedi ei gau’n ddiogel mewn cynhwysydd cyfarpar miniog sy’n cydymffurfio â Safon Brydeinig 73204 (neu safon gyfatebol);

  • ystyr “deunydd genetig” (“genetic material”) yw unrhyw semen, ofwm neu embryo ceffyl;

  • ystyr “fector” (“vector”) yw pryf o’r genws Culicoides neu unrhyw rywogaeth arall o arthropod sy’n gallu trosglwyddo feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan;

  • ystyr “mangre dan amheuaeth” (“suspect premises”) yw mangre sydd wedi ei dynodi, o dan reoliad 8(2), yn fangre dan amheuaeth;

  • ystyr “mangre gyswllt” (“contact premises”) yw mangre sydd â chyswllt epidemiolegol â mangre heintiedig, gan gynnwys y rhai sydd, oherwydd eu bod yn agos at fangre heintiedig, yn rhai y mae’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu bod ganddynt gyswllt epidemiolegol â mangre heintiedig;

  • ystyr “mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre sydd wedi ei datgan, o dan reoliad 9(8) neu 10(7), yn fangre heintiedig;

  • ystyr “Prif Swyddog Milfeddygol” (“Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at geffyl neu garcas hysbysedig yn gyfeiriad at geffyl neu garcas (yn ôl y digwydd) sy’n destun hysbysiad a roddir o dan reoliad 5(1).

Cyfeiriadau at rwymedigaethau meddiannydd a rhwymedigaethau ychwanegol3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

a

mae cyfeiriad at feddiannydd mangre yn cynnwys cyfeiriad at berson sy’n berchen ar geffyl neu’n gyfrifol am geffyl yn y fangre;

b

prif feddiannydd y fangre yw’r person sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y fangre.

2

Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi o dan y Rheoliadau hyn—

a

sydd i’w gyflwyno i brif feddiannydd y fangre, i unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r person sy’n cyflwyno’r hysbysiad mai dyna’r prif feddiannydd;

b

sydd i’w gyflwyno i unrhyw feddiannydd arall y fangre, i unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r person sy’n cyflwyno’r hysbysiad mai dyna’r meddiannydd hwnnw.

3

Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno i berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y prif feddiannydd, neu yn ôl y digwydd, unrhyw feddiannydd arall y fangre yn cynnwys cyfeiriad at y person hwnnw.

4

Pan fo’n ofynnol i brif feddiannydd y fangre gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn neu yn eu rhinwedd, rhaid i unrhyw feddiannydd arall y fangre roi i’r prif feddiannydd y cymorth sydd ei angen yn rhesymol er mwyn galluogi cydymffurfio o’r fath.

5

Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno i brif feddiannydd y fangre o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r prif feddiannydd gymryd camau rhesymol i hysbysu (ar lafar neu fel arall) unrhyw feddiannydd arall y fangre ac unrhyw berson arall sy’n mynd i mewn i’r fangre am unrhyw gyfyngiadau ar symud unrhyw geffyl, carcas, cyfarpar neu ddeunydd genetig i’r fangre neu ohoni o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.

6

Caniateir cyflwyno hysbysiad sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi o dan y Rheoliadau hyn, sydd i’w gyflwyno i brif feddiannydd y fangre (yn ogystal â’i gyflwyno i’r prif feddiannydd), i unrhyw feddiannydd arall y fangre.

Esemptiadau4

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys—

a

i unrhyw beth a wneir o dan delerau trwydded a roddir o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 20085, na

b

yn unrhyw arolygfa ffin o fewn ystyr rheoliad 11 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20116 a chyhyd ag y mae’n parhau wedi ei gymeradwyo at ei ddibenion.

RHAN 2Hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd Affricanaidd y ceffylau

Gofynion hysbysu5

1

Rhaid i unrhyw berson sy’n amau bod ceffyl neu garcas wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith.

2

Rhaid i unrhyw berson sy’n archwilio sampl a gymerwyd o geffyl neu garcas ac sydd—

a

yn amau bod y ceffyl neu’r carcas wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau, neu

b

yn canfod tystiolaeth o wrthgyrff i’r feirws hwnnw neu antigenau ohono,

hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith.

3

Ond mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i baragraff (5).

4

Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i unrhyw feddiannydd mangre heintiedig gan nodi nad oes angen hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw achosion pellach lle y mae amheuaeth bod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn y fangre honno, cyhyd ag y bo’r hysbysiad yn parhau mewn grym.

5

Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (4)—

a

nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw geffyl neu garcas yn y fangre heintiedig, a

b

nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw sampl a gymerwyd o geffyl neu garcas yn y fangre heintiedig,

cyhyd ag y bo’r hysbysiad yn parhau mewn grym.

6

Oni bai ei fod wedi ei ddirymu yn gynharach gan arolygydd milfeddygol, mae hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (4) yn peidio â bod mewn grym pan fo’r hysbysiad sy’n datgan bod y fangre yn fangre heintiedig a gyflwynwyd o dan reoliad 9(8) neu 10(7) (yn ôl y digwydd) wedi ei dirymu gan arolygydd milfeddygol neu yn rhinwedd rheoliad 13(2).

RHAN 3Amheuaeth a chadarnhad o glefyd Affricanaidd y ceffylau

Cwmpas Rhan 36

Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â lladd-dai neu geffylau nad ydynt yn rhai caeth.

Rheolaethau cychwynnol yn dilyn hysbysiad7

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 5(1) a bod arolygydd milfeddygol yn barnu bod angen ymchwilio rhagor am y posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol.

2

Rhaid i arolygydd milfeddygol roi gwybod (ar lafar neu fel arall) i’r person a roddodd yr hysbysiad fod angen ymchwilio rhagor.

3

Pan fo’r person hwnnw wedi cael gwybod hynny, mae’r rheolaethau sydd ym mharagraff (7) yn gymwys mewn perthynas â’r fangre lle y mae’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig (yn ôl y digwydd) wedi ei leoli.

4

Pan nad y fangre honno yw’r fangre lle y cedwir y ceffyl hysbysedig fel arfer neu, yn achos carcas hysbysedig, lle y cedwid y ceffyl fel arfer cyn iddo farw, caiff arolygydd milfeddygol roi gwybod hefyd (ar lafar neu fel arall) i brif feddiannydd y mangreoedd eraill hynny bod angen ymchwilio rhagor.

5

Pan fo’r prif feddiannydd wedi cael gwybod hynny, mae’r rheolaethau sydd ym mharagraff (7), ac eithrio yn is-baragraff (a)(i), yn gymwys mewn perthynas â’r mangreoedd eraill hynny.

6

O ran arolygydd milfeddygol—

a

rhaid iddo fynd i’r fangre lle y mae’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig wedi ei leoli ac archwilio’r ceffyl neu’r carcas hwnnw, a chaiff archwilio unrhyw geffyl neu garcas arall yno;

b

pan fo paragraff (4) yn gymwys, caiff fynd i’r mangreoedd eraill hynny ac archwilio unrhyw geffyl neu garcas yno.

7

Dyma’r rheolaethau—

a

rhaid i unrhyw berson sydd â cheffyl neu garcas hysbysedig yn ei feddiant neu o dan ei gyfrifoldeb sicrhau—

i

nad yw’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig yn cael ei symud o’r fangre lle y mae wedi ei leoli,

ii

nad oes dim cyfarpar na deunydd genetig yn cael ei symud o’r fangre,

iii

nad oes unrhyw geffyl neu garcas arall yn cael ei symud o’r fangre nac iddi, ac eithrio y caiff unrhyw geffyl sydd fel arfer yn cael ei gadw yn y fangre ddychwelyd yno; a

b

os yw hynny’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol ac i’r graddau y mae’n ymarferol gwneud hynny, rhaid i’r prif feddiannydd sicrhau—

i

bod pob ceffyl yn cael ei symud ymaith o unrhyw ran o’r fangre lle y mae’r rhan fwyaf o fectorau yn debygol o fod yn bresennol;

ii

bod ardaloedd a allai fod yn fagwrfeydd fectorau yn cael eu hadnabod, ac y rhoddir ar waith unrhyw fesurau sydd ar gael i reoli fectorau dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

8

Mae’r rheolaethau a osodir o dan y rheoliad hwn yn parhau i fod yn gymwys—

a

hyd oni fydd arolygydd milfeddygol yn cadarnhau (ar lafar neu fel arall) i unrhyw feddiannydd y fangre nad oes amheuaeth fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol yn y fangre, neu

b

hyd oni fydd y fangre’n dod yn fangre dan amheuaeth7.

Gosod mesurau pan fo amheuaeth o glefyd8

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd yn amau bod ceffyl neu garcas sydd wedi ei heintio neu a oedd wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn unrhyw fangre neu wedi bod mewn unrhyw fangre (yn dilyn hysbysiad o dan reoliad 5(1) neu fel arall).

2

Caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r prif feddiannydd gan ddynodi’r fangre honno yn fangre dan amheuaeth, ac ar yr adeg honno mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn cael effaith8.

3

Rhaid i hysbysiad o’r fath a gyflwynir mewn perthynas â mangre gyswllt bennu bod y fangre yn fangre gyswllt.

4

Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.

5

Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i arolygydd milfeddygol—

a

i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, asesu mannau sy’n debygol o hwyluso parhad y fectorau, neu roi lle iddynt, a pha mor ymarferol fyddai defnyddio mesurau priodol i reoli fectorau mewn mannau o’r fath;

b

cychwyn ymchwiliad epidemiolegol i geisio sefydlu o leiaf—

i

faint o amser y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau fod wedi bodoli mewn ceffylau yn y fangre,

ii

tarddiad y feirws hwnnw,

iii

enw mangreoedd eraill lle y mae ceffylau a allai fod wedi cael eu heintio,

iv

presenoldeb a gwasgariad fectorau,

v

symudiad unrhyw geffyl i’r fangre neu oddi yno, neu unrhyw garcasau a dynnwyd ymaith ohoni, a

vi

y posibilrwydd y gallai ceffylau nad ydynt yn rhai caeth fod yn gyfrannog yn ymlediad y feirws,

a pharhau â’r ymchwiliad hyd oni fydd y materion hyn wedi eu sefydlu i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, neu hyd oni ddiystyrir y posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol.

Mesurau yn dilyn amheuaeth – mangre ac eithrio mangre gyswllt9

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre, ac eithrio mangre gyswllt, wedi ei dynodi yn fangre dan amheuaeth.

2

Rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i sefydlu a oes feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol ai peidio.

3

At ddibenion paragraff (2), caiff arolygydd milfeddygol, os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu bod angen hynny, gymryd a threfnu i brofi—

a

samplau o unrhyw geffyl neu garcas sydd yn y fangre neu wedi bod yn flaenorol yn y fangre,

b

samplau amgylcheddol o’r fangre.

4

Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, yn dilyn y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) nad yw mwyach yn briodol i’r fangre barhau’n un sydd wedi ei dynodi’n fangre dan amheuaeth, rhaid i arolygydd milfeddygol ddirymu’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 8(2).

5

Pan fo’r hysbysiad hwnnw wedi ei ddirymu, mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion paragraff 1(4)(a) o’r Atodlen honno (y ddyletswydd i gadw cofnodion am chwe mis wedi i’r hysbysiad gael ei ddirymu).

6

Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, yn dilyn profion o dan y rheoliad hwn, fod ceffylau serobositif yn y fangre, rhaid i arolygydd milfeddygol barhau i fonitro ceffylau yn y fangre, fel y bo’n briodol, a chaiff gymryd samplau pellach a threfnu iddynt gael eu profi.

7

Mae paragraff (8) yn gymwys os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, o ganlyniad i unrhyw brawf a gynhaliwyd o dan y rheoliad hwn neu unrhyw arwyddion clinigol arall yn unrhyw geffyl yn y fangre, fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas neu yn y fangre.

8

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i’r prif feddiannydd yn datgan bod y fangre yn fangre heintiedig9.

9

Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (8), mae’r mesurau yn yr Atodlen yn parhau i gael effaith.

10

Caiff yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (8) ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.

11

Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu bod angen hynny er mwyn lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caiff yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (8) ei gwneud yn ofynnol i gael mesurau ychwanegol i’r rhai sydd yn yr Atodlen a pharagraff (10).

Mesurau yn dilyn amheuaeth – mangre gyswllt10

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre gyswllt wedi ei dynodi’n fangre dan amheuaeth.

2

Os yw unrhyw geffyl yn y fangre yn dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau yn ystod y cyfnod perthnasol, o ran arolygydd milfeddygol—

a

rhaid iddo gymryd samplau ohono a threfnu iddynt gael eu profi, a

b

caiff gymryd samplau o unrhyw geffyl arall neu garcas yn y fangre a threfnu iddynt gael eu profi.

3

Os na fydd unrhyw geffyl yn y fangre yn dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau, o ran arolygydd milfeddygol—

a

rhaid iddo fonitro, fel y bo’n briodol, bob ceffyl yn y fangre hyd at ddiwedd y cyfnod perthnasol, a

b

caiff gymryd samplau o unrhyw geffyl neu garcas yn y fangre a threfnu iddynt gael eu profi.

4

Os nad oes unrhyw geffyl yn y fangre wedi dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, a bod y Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, yn dilyn unrhyw brofion o dan y rheoliad hwn, nad yw mwyach yn briodol i’r fangre barhau i gael ei dynodi’n fangre dan amheuaeth, rhaid i arolygydd milfeddygol ddirymu’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 8(2).

5

Pan fo’r hysbysiad hwnnw’n cael ei ddirymu, mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion paragraff 1(4)(a) o’r Atodlen honno.

6

Mae paragraff (7) yn gymwys pan fo’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, o ganlyniad i—

a

unrhyw brawf a wneir o dan y rheoliad hwn,

b

unrhyw arwyddion clinigol yn unrhyw geffyl yn y fangre, neu

c

unrhyw gyswllt epidemiolegol â mangre heintiedig,

fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas yn y fangre.

7

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i’r prif feddiannydd yn datgan bod y fangre yn fangre heintiedig10.

8

Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (7), mae’r mesurau yn yr Atodlen yn parhau i gael effaith.

9

Caiff yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (7) ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.

10

Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu bod angen hynny er mwyn lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i gael mesurau ychwanegol i’r rhai sydd yn yr Atodlen a pharagraff (9).

11

Yn y rheoliad hwn, “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod y mae’r Prif Swyddog Milfeddygol yn penderfynu y mae ei angen ar gyfer sefydlu a oes clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas yn y fangre ai peidio.

Pwerau i atal rhag dod â cheffylau i fangreoedd eraill11

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre yn fangre heintiedig a bod y Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu ei bod yn briodol atal rhag dod â cheffylau i fangreoedd eraill oherwydd y risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

2

Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i brif feddiannydd y mangreoedd eraill yn gosod y gwaharddiad sydd ym mharagraff (3).

3

Y gwaharddiad yw na chaiff unrhyw berson symud unrhyw geffyl i’r fangre am y cyfnod hwnnw a fo wedi ei bennu yn yr hysbysiad, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol.

4

Caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.

5

Rhaid i arolygydd milfeddygol ddirymu unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) os yw wedi ei fodloni, ar ôl ystyried y risg epidemiolegol, nad oes angen y gwaharddiad mwyach i leihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

Lladd ceffylau mewn mangre heintiedig a mangre gyswllt a chael gwared ar garcasau12

1

Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â cheffylau—

a

mewn mangre dan amheuaeth sy’n fangre gyswllt,

b

mewn mangre heintiedig.

2

Caiff Gweinidogion Cymru drefnu i ladd pob ceffyl sydd wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau neu sy’n dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau.

3

Os yw unrhyw geffyl yn cael ei ladd o dan baragraff (2), o ran Gweinidogion Cymru—

a

rhaid iddynt drefnu i gael gwared ar ei garcas, a

b

cânt drefnu i gael gwared ar garcas unrhyw geffyl arall sydd wedi marw yn y fangre honno.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw broses o waredu o’r fath yn cael ei chynnal mewn ffordd sy’n osgoi’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

Dirymu hysbysiadau sy’n datgan bod mangre yn fangre heintiedig13

1

Rhaid i arolygydd milfeddygol beidio â dirymu hysbysiad sy’n datgan bod mangre yn fangre heintiedig oni bai fod y Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni mai bach iawn yw’r risg o heintiad pellach o’r fangre honno.

2

Os nad oes arolygydd milfeddygol wedi dirymu’r hysbysiad yn gynharach, mae hysbysiad sy’n datgan bod mangre yn fangre heintiedig yn cael ei ddirymu pan fo’r fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn peidio â bod o fewn unrhyw barth sydd wedi ei ddatgan o dan Ran 6.

3

Pan fo hysbysiad sy’n datgan bod mangre yn fangre heintiedig yn cael ei ddirymu gan arolygydd milfeddygol neu yn rhinwedd paragraff (2), mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion paragraff 1(4)(a) o’r Atodlen honno.

RHAN 4Lladd-dai

Gosod rheolaethau cychwynnol mewn lladd-dai14

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan fo—

i

Gweinidogion Cymru wedi cael eu hysbysu o dan reoliad 5(1) fod amheuaeth fod ceffyl neu garcas mewn lladd-dy wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau, a

ii

arolygydd milfeddygol yn barnu bod angen ymchwilio rhagor i’r posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol; neu

b

pan fo arolygydd milfeddygol, am unrhyw reswm arall, yn barnu bod angen ymchwilio rhagor i’r posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn lladd-dy.

2

Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i arolygydd milfeddygol roi gwybod (ar lafar neu fel arall) i’r person a roddodd yr hysbysiad fod angen ymchwilio rhagor, ac yna bydd y rheolaethau sydd ym mharagraff (5) yn gymwys.

3

Rhaid i arolygydd milfeddygol fynd i’r lladd-dy ac archwilio’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig, a chaiff archwilio unrhyw geffyl neu garcas arall yno y mae’r arolygydd milfeddygol yn barnu sy’n briodol.

4

Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy, osod y rheolaethau sydd ym mharagraff (5).

5

Dyma’r rheolaethau, sef bod yn rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy sicrhau—

a

nad oes yr un ceffyl na charcas yn cael ei symud o’r lladd-dy,

b

nad yw unrhyw geffyl hysbysedig ac unrhyw geffyl arall o’r un fangre â’r ceffyl hysbysedig yn cael ei gigydda, oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, ac

c

os yw unrhyw geffyl hysbysedig neu unrhyw geffyl o’r un fangre â cheffyl hysbysedig eisoes wedi cael ei gigydda, neu’n cael ei gigydda wedi hynny, neu wedi marw, fod ei garcas yn cael ei nodi’n benodol a’i gadw yn y lladd-dy hyd oni fydd arolygydd milfeddygol wedi ei archwilio ac wedi cymryd samplau os yw’n barnu bod angen hynny.

Camau gweithredu yn dilyn archwiliad15

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol wedi gweithredu o dan reoliad 14(3).

2

Os yw arolygydd milfeddygol wedi ei fodloni nad oes feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bodoli mewn unrhyw geffyl neu garcas yn y lladd-dy, rhaid i arolygydd milfeddygol gadarnhau hyn (ar lafar neu fel arall) i’r person sydd â chyfrifoldeb am y lladd-dy.

3

Os na ellir diystyru presenoldeb feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau, caiff arolygydd milfeddygol—

a

drwy gyflwyno hysbysiad i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy, amrywio’r rheolaethau sy’n gymwys o dan reoliad 14(2) neu a osodwyd drwy hysbysiad o dan reoliad 14(4),

b

cymryd samplau a’u profi er mwyn sefydlu a yw’r feirws hwnnw yn bresennol yn y lladd-dy11.

4

Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni bod profion a wnaed o dan y rheoliad hwn yn dangos nad yw feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol yn y lladd-dy, rhaid i arolygydd milfeddygol gadarnhau hyn (ar lafar neu fel arall) i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy.

5

Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, o ganlyniad i—

a

unrhyw brawf a wneir o dan y rheoliad hwn, neu

b

unrhyw arwyddion clinigol yn unrhyw geffyl yn y lladd-dy, neu yn unrhyw fangre arall lle y bu unrhyw geffyl yn y lladd-dy yn ddiweddar,

fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas yn y lladd-dy.

6

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod carcas pob ceffyl heintiedig yn cael ei waredu mewn ffordd sy’n osgoi’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu12.

7

Pan fo cadarnhad wedi ei roi o dan baragraff (2) neu (4), neu ar ôl cael gwared ar garcasau o dan baragraff (6)—

a

mae unrhyw reolaethau sy’n gymwys o dan reoliad 14(2) (ac, os yw’n gymwys, fel y’u hamrywir o dan baragraff (3)(a)) yn peidio â chael effaith,

b

mae unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 14(4) (ac, os yw’n gymwys, fel y’u hamrywir o dan baragraff (3)(a)) wedi ei ddirymu.

RHAN 5Ceffylau nad ydynt yn rhai caeth

Amheuaeth ynghylch ceffylau nad ydynt yn rhai caeth16

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod ceffyl nad yw’n gaeth wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau.

2

Rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i sefydlu a yw’r amheuaeth honno yn gywir ai peidio.

3

Pan fo arolygydd milfeddygol yn dod i’r casgliad fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn debygol o fod yn bresennol mewn ceffyl o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol (a gaiff gynnwys datgan parth haint o dan reoliad 19) er mwyn lleihau’r risg y gallai’r feirws hwnnw ymledu i geffylau eraill.

4

At ddibenion paragraff (3), caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i brif feddiannydd y fangre, osod cyfyngiadau ar symud ceffylau neu osod y mesurau eraill hynny y mae’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu eu bod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r fangre honno.

5

Nid oes angen cymryd y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) neu (3) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw cymryd y camau hynny yn debygol o leihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

6

Caiff arolygydd milfeddygol, a phan fônt yn gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, arolygydd, un arall o swyddogion Gweinidogion Cymru, neu unrhyw berson arall sydd â’r arbenigedd angenrheidiol, fynd i mewn i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu yn bennaf fel annedd breifat)—

a

i gadw gwyliadwriaeth ar geffylau nad ydynt yn rhai caeth;

b

i’w dal a’u cadw;

c

i’w brechu;

d

i gymryd samplau ohonynt;

e

i’w lladd os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni fod angen hynny er mwyn rheoli clefyd Affricanaidd y ceffylau, ac yn benodol—

i

os nad yw’n rhesymol ymarferol cymryd samplau ohonynt heb eu lladd;

ii

os nad yw’n rhesymol ymarferol eu cadw wrth ddisgwyl canlyniadau unrhyw brofion neu samplau; neu

iii

os ydynt yn lledaenu neu y gallent ledaenu feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau neu dan risg o ddal feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau.

7

Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd milfeddygol a pherson y cyfeirir ato ym mharagraff (6) pan fo’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, fynd i mewn i unrhyw fangre, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

a

bod sail resymol i fynd i mewn i’r fangre honno at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn; a

b

bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (8) wedi eu bodloni.

8

Dyma’r amodau—

a

bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod y meddiannydd wedi cael hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant;

b

y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

c

bod angen mynediad ar fyrder; neu

d

bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.

9

Mae gwarant yn ddilys am dri mis.

10

Rhaid i berson sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu lle y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.

RHAN 6Rheolaethau ardal

Parth cyfyngu dros dro ar symud17

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre yn fangre dan amheuaeth neu pan fo arolygydd milfeddygol wedi cymryd samplau o dan reoliad 15(3) o geffyl neu garcas mewn lladd-dy.

2

Pan fo Gweinidogion Cymru yn barnu bod angen lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caniateir i barth cyfyngu dros dro ar symud gael ei ddatgan gan Weinidogion Cymru o amgylch y fangre dan amheuaeth neu’r lladd-dy (yn ôl y digwydd).

3

Rhaid i’r parth cyfyngu dros dro ar symud fod o’r maint hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod ei angen gan roi sylw i’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

4

O fewn y parth cyfyngu dros dro ar symud ni chaiff neb symud unrhyw geffyl na charcas i’r fangre nac ohoni, nac unrhyw gyfarpar na deunydd genetig o’r fangre, ac eithrio dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol.

5

Os yw Gweinidogion Cymru yn barnu bod angen lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caiff Gweinidogion Cymru osod unrhyw fesurau eraill wrth ddatgan y parth cyfyngu dros dro ar symud.

Parth rheolaeth, parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth18

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre yn fangre heintiedig neu pan fo profion o dan reoliad 15 yn dangos bod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas mewn lladd-dy.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth rheolaeth, a hefyd cânt ddatgan parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth o amgylch y fangre heintiedig neu’r lladd-dy (yn ôl y digwydd).

3

Rhaid i’r parth rheolaeth fod â radiws sydd o leiaf yn 20 cilometr, rhaid i’r parth gwarchod fod â radiws sydd o leiaf yn 100 cilometr a rhaid i’r parth gwyliadwriaeth fod â radiws sydd o leiaf yn 150 o gilometrau, gyda’r rhan o’r fangre y mae Gweinidogion Cymru yn barnu mai dyma’r mwyaf priodol ar gyfer rheoli clefydau yn ganol i bob un.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau o fewn y parthau hynny—

a

bod mangreoedd sy’n cynnwys ceffylau yn cael eu hadnabod i’r graddau ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol a heb ddargyfeirio adnoddau’n ormodol oddi wrth y gwaith o atal y clefyd rhag ymledu,

b

bod arolygydd milfeddygol yn ymweld mewn ffordd systematig dan gyfarwyddyd y Prif Swyddog Milfeddygol ag unrhyw fangre hysbysedig, a—

i

yn arolygu ac yn archwilio’r ceffylau yn ôl yr angen; a

ii

yn casglu ac yn profi’r samplau hynny a fernir yn angenrheidiol gan y Prif Swyddog Milfeddygol.

5

Mae’r Atodlen yn nodi mesurau sy’n gymwys mewn perthynas â mangreoedd mewn parth rheolaeth.

6

Pan fo’r parth rheolaeth yn cael ei ddirymu, mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion paragraff 1(4)(a) o’r Atodlen honno.

7

Ni chaiff neb symud unrhyw geffyl, nac unrhyw semen, ofwm nac embryo ceffyl—

a

allan o barth gwarchod, na

b

allan o barth gwyliadwriaeth i ardal y tu allan i unrhyw barth,

ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol.

8

Ni chaiff neb symud, o fangre sydd o fewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth—

a

unrhyw asyn, donci, sebra, mul neu groesiad arall o’r rhain ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol;

b

unrhyw geffyl arall sy’n dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau ar ddiwrnod y symud arfaethedig.

9

Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod unrhyw fesur arall, a fernir yn angenrheidiol i leihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, yn gymwys mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran o’r parth rheolaeth, y parth gwarchod neu’r parth gwyliadwriaeth.

Parthau haint19

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn dod i’r casgliad fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn debygol o fod yn bresennol mewn ceffyl nad yw’n un caeth.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth haint o’r maint hwnnw a fernir yn angenrheidiol gan Weinidogion Cymru er mwyn lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

3

Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan—

a

cyfyngiadau ar symud ceffylau i’r parth haint neu ohono;

b

bod unrhyw fesur arall, a fernir yn angenrheidiol i leihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, yn gymwys mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran o’r parth haint.

Datgan parthau lle y mae clefyd Affricanaidd y ceffylau yn cael ei amau neu wedi ei gadarnhau y tu allan i Gymru20

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan fo presenoldeb feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn cael ei amau neu wedi ei gadarnhau’n swyddogol at ddibenion Cyfarwyddeb y Cyngor 92/35/EEC, sy’n gosod rheolau a mesurau rheoli i drechu clefyd Affricanaidd y ceffylau13 y tu allan i Gymru, a

b

pan fo Gweinidogion Cymru yn barnu bod risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu i Gymru.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan, yng Nghymru, unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

parth cyfyngu dros dro ar symud;

b

parth rheolaeth;

c

parth gwarchod;

d

parth gwyliadwriaeth;

e

parth haint.

3

Rhaid i unrhyw barth a ddatgenir o dan y rheoliad hwn fod o’r maint hwnnw a fernir yn angenrheidiol gan Weinidogion Cymru i leihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

4

Mae rheoliadau 17(4) a (5), 18(5) i (9) a 19(3) yn gymwys i unrhyw barth a ddatgenir o dan y rheoliad hwn fel petai’n barth a ddatgenir o dan reoliad 17, 18 neu 19 (fel y bo’n gymwys).

Datgan parthau21

1

O ran datgan parth o dan y Rheoliadau hyn—

a

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

b

rhaid iddo ddynodi hyd a lled y parth a ddatgenir;

c

caniateir ei ddiwygio neu ei ddirymu gan ddatganiad pellach unrhyw bryd.

2

Oni bai fod Gweinidogion Cymru yn datgan yn wahanol wrth wneud unrhyw ddatganiad ynghylch parth, caniateir cwblhau unrhyw symudiad sydd wedi ei wahardd ond sydd eisoes wedi dechrau pan ddaw datganiad o’r fath i rym.

3

Rhaid i unrhyw berson y gosodir gwaharddiad neu fesur arall arno yn rhinwedd datganiad o dan reoliad 17(5), 18(9), neu 19(3) gydymffurfio ag ef.

4

Wrth benderfynu diwygio neu ddirymu unrhyw ddatganiad ynghylch parth, rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i’r sefyllfa epidemiolegol a’r mesurau sy’n angenrheidiol i reoli lledaeniad feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau.

Mangreoedd sy’n pontio parthau22

1

Mae mangre sydd yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth cyfyngu dros dro ar symud a ddatganwyd o dan reoliad 17 neu 20 yn cael ei thrin fel petai y tu mewn i’r parth cyfyngu dros dro ar symud.

2

Mae mangre sydd yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth rheolaeth a ddatgenir o dan reoliad 18 neu 20 yn cael ei thrin fel petai y tu mewn i’r parth rheolaeth.

3

Mae mangre sydd yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth gwarchod a ddatgenir o dan reoliad 18 neu 20 mewn ardal ac eithrio parth rheolaeth yn cael ei thrin fel petai y tu mewn i’r parth gwarchod.

4

Mae mangre sydd yn rhannol y tu mewn i barth gwyliadwriaeth a ddatgenir o dan reoliad 18 neu 20 ac sy’n rhannol mewn ardal ac eithrio parth gwarchod yn cael ei thrin fel petai y tu mewn i’r parth gwyliadwriaeth.

5

Mae mangre sydd yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth haint a ddatgenir o dan reoliad 19 neu 20 yn cael ei thrin fel petai y tu mewn i’r parth haint.

Cyhoeddusrwydd23

Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i’r canlynol—

a

hyd a lled unrhyw barth a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn;

b

natur y cyfyngiadau a’r gofynion sy’n ymwneud â’r parth hwnnw; a

c

dyddiadau datgan a diweddu’r parth hwnnw.

RHAN 7Brechu

Gwahardd brechu ac eithrio mewn rhai achosion penodol24

Ni chaiff neb frechu ceffyl rhag clefyd Affricanaidd y ceffylau ac eithrio yn unol â’r Rheoliadau hyn neu o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.

Brechu gorfodol25

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu, ac eithrio mewn parth gwyliadwriaeth.

2

Pan fo parth brechu wedi ei ddatgan, rhaid i feddiannydd unrhyw fangre o fewn y parth hwnnw sicrhau bod y ceffylau yn ei fangre yn cael eu brechu yn unol â’r datganiad hwnnw, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4).

3

Caiff mangre sydd yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ei thrin fel petai y tu mewn i’r parth hwnnw.

4

Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson â cheffyl yn ei feddiant neu o dan ei gyfrifoldeb, ac eithrio un a gedwir mewn parth gwyliadwriaeth, i’w gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw frechu’r ceffyl yn unol â’r hysbysiad (p’un a ddatganwyd parth brechu o dan baragraff (1) ai peidio).

Ceffylau wedi eu brechu26

1

Rhaid i’r person sydd â cheffyl wedi ei frechu rhag clefyd Affricanaidd y ceffylau yn ei feddiant neu o dan ei gyfrifoldeb sicrhau bod modd adnabod y ceffyl drwy ficrosglodyn ac y cedwir cofnod fod y ceffyl hwnnw wedi ei frechu.

2

Ni chaiff neb symud ceffyl sydd wedi ei frechu o’r fangre lle y cafodd ei frechu hyd oni fydd 60 o ddiwrnodau wedi mynd heibio er—

a

dyddiad y brechiad, neu

b

dyddiad y dos diwethaf os yw’r brechiad yn cynnwys cwrs o ddosau,

ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.

RHAN 8Arolygu, gorfodi a darpariaethau amrywiol

Hysbysiadau27

1

Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir neu a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu unrhyw bryd.

2

Caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i berson drwy—

a

ei draddodi yn bersonol;

b

ei adael yng nghyfeiriad cywir y person; neu

c

ei anfon drwy’r post neu drwy ddull electronig i gyfeiriad cywir y person.

3

Yn achos corff corfforaethol, caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i un o swyddogion y corff hwnnw.

4

Yn achos partneriaeth, caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i bartner neu berson sydd â rheolaeth ar fusnes y bartneriaeth, neu sy’n ei reoli.

5

Yn achos cymdeithas anghorfforedig, caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i un o swyddogion y gymdeithas.

6

At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 197814 (cyflwyno dogfennau drwy’r post), o ran y modd y mae’n gymwys i’r rheoliad hwn, ystyr “cyfeiriad cywir” (“proper address”) yw—

a

yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff hwnnw—

i

swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw, neu

ii

cyfeiriad e-bost y swyddog;

b

yn achos partneriaeth neu bartner neu berson sydd â rheolaeth ar fusnes y bartneriaeth, neu sy’n ei reoli—

i

prif swyddfa’r bartneriaeth, neu

ii

cyfeiriad e-bost partner neu berson sydd â’r rheolaeth honno neu sy’n rheoli felly;

c

yn achos cymdeithas anghorfforedig neu un o swyddogion y gymdeithas—

i

swyddfa’r gymdeithas, neu

ii

cyfeiriad e-bost y swyddog;

d

ymhob achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person, sy’n cynnwys cyfeiriad e-bost.

7

At ddibenion paragraff (6), prif swyddfa corff corfforaethol a gofrestrwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth a sefydlwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

8

Os na ellir, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, ganfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y cyflwynir neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan y Rheoliadau hyn, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei osod yn amlwg ar adeilad neu wrthrych yn y fangre.

9

Rhaid i berson gydymffurfio â thelerau unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn.

10

Yn y rheoliad hwn—

  • mae “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;

  • ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol;

  • nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;

  • ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu un o swyddogion tebyg eraill y corff corfforaethol.

Trwyddedau28

1

Rhaid i drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddi—

a

bod yn gyffredinol neu benodol;

b

bod yn ddarostyngedig i amodau; ac

c

cael ei diwygio, ei hatal neu ei dirymu, yn ysgrifenedig, unrhyw bryd.

2

Rhaid i berson sy’n symud unrhyw geffyl, cyfarpar neu ddeunydd genetig o dan awdurdod trwydded benodol—

a

bod â’r drwydded neu gopi ohoni arno drwy’r amser wrth symud, a

b

os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, dangos y drwydded neu gopi ohoni a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei wneud.

3

Pan fo trwydded yn ofynnol neu wedi ei hawdurdodi o dan y Rheoliadau hyn i’w rhoi gan arolygydd milfeddygol, mae modd iddi hefyd gael ei rhoi gan arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

4

Rhaid i berson sy’n symud unrhyw geffyl, cyfarpar neu ddeunydd genetig o dan awdurdod trwydded gyffredinol—

a

drwy’r amser wrth symud, fod â dogfen sy’n cynnwys manylion ynghylch—

i

yr hyn sy’n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono sydd,

ii

dyddiad y symud,

iii

enw’r person sy’n gyfrifol am y ceffyl neu’r cyfarpar yn y man gadael a’r gyrchfan;

iv

cyfeiriad y man gadael a’r gyrchfan;

b

os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, dangos y ddogfen a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei wneud; ac

c

cadw’r ddogfen am chwe mis o leiaf.

5

Os yw unrhyw geffyl, cyfarpar neu ddeunydd genetig wedi ei symud i fangre o dan drwydded, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i unrhyw feddiannydd y fangre sy’n gyrchfan gan osod y cyfyngiadau angenrheidiol ar symud ar y fangre honno er mwyn atal y risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

6

Ac eithrio pan fo cyfarwyddyd fel arall gan Weinidogion Cymru, mae trwyddedau a roddir yn Lloegr neu’r Alban ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn, ac mae darpariaethau’r rheoliad hwn yn gymwys yn unol â hynny.

Pwerau arolygwyr29

1

Caiff arolygydd, drwy ddangos awdurdodiad wedi ei ddilysu’n briodol os gofynnir amdano, fynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd, llestr neu ôl-gerbyd (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu yn bennaf fel annedd breifat) ar unrhyw adeg resymol o’r dydd at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn.

2

Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd milfeddygol fynd i mewn i unrhyw fangre, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

a

bod sail resymol i fynd i mewn i’r fangre honno at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn; a

b

bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.

3

Dyma’r amodau—

a

bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod y meddiannydd wedi cael hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant;

b

y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

c

bod angen mynediad ar fyrder; neu

d

bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.

4

Mae gwarant yn ddilys am dri mis.

5

Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu lle y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.

6

Caiff arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd, llestr neu ôl-gerbyd—

a

arolygu unrhyw geffyl neu beth yno;

b

cymryd samplau;

c

ymafael yn unrhyw gyfarpar neu ddeunydd genetig a’i ddifa;

d

cadw neu ynysu unrhyw anifail neu beth;

e

gosod marc neu ficrosglodyn at ddibenion adnabod unrhyw anifail neu beth;

f

cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

g

cadw gwyliadwriaeth am fectorau a gweithredu mesurau rheoli fectorau (gan gynnwys cyflwyno unrhyw geffyl dangos clwy);

h

cyrchu, arolygu a chopïo unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha bynnag ffurf y maent) sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn, a’u symud er mwyn gallu eu copïo;

i

arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion;

j

ei gwneud yn ofynnol drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre—

i

bod unrhyw anifail yn cael ei farcio neu’n cael microsglodyn at ddibenion ei adnabod;

ii

bod unrhyw anifail neu beth (gan gynnwys cerbyd neu ôl-gerbyd) yn cael ei symud i le penodedig neu ei symud i ran arbennig o’r fangre neu ei gadw mewn rhan arbennig o’r fangre;

iii

bod gwyliadwriaeth yn cael ei chadw am bresenoldeb pryfed;

iv

bod mesurau rheoli fectorau y mae’r arolygydd yn barnu eu bod yn ymarferol ac yn angenrheidiol yn cael eu gweithredu;

v

bod ceffylau yn cael eu cadw i’w defnyddio fel ceffylau dangos clwy neu fod ceffylau dangos clwy yn cael eu cyflwyno i’r fangre.

7

Pan fo arolygydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd, llestr neu ôl-gerbyd ac nad yw’n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau yn y fangre honno yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ai peidio, caiff yr arolygydd ymafael ynddynt er mwyn canfod a ydynt yn berthnasol ai peidio.

8

Caiff yr arolygydd—

a

mynd ag unrhyw gyfarpar, ceffyl dangos clwy, neu gerbyd sy’n angenrheidiol i’r fangre;

b

mynd â’r canlynol gydag ef—

i

y personau eraill hynny y mae’r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol, a

ii

unrhyw un sy’n cynrychioli’r Comisiwn Ewropeaidd.

9

Mae unrhyw bŵer neu rwymedigaeth i gymryd sampl a’i brofi yn cynnwys pŵer i—

a

ailbrofi’r sampl, a

b

cymryd samplau pellach (o’r anifeiliaid neu garcasau sy’n ddarostyngedig i’r pŵer hwnnw neu, yn achos samplau amgylcheddol, gymryd samplau amgylcheddol pellach) a phrofi ac ailbrofi’r samplau hynny.

10

Yn y rheoliad hwn, ceffyl dangos clwy yw ceffyl a ddefnyddir ar gyfer cadw gwyliadwriaeth am feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau nad oes ganddo wrthgyrff i’r feirws hwnnw pan gyflwynwyd ef i’r fangre neu pan gadwyd ef yn y fangre at y diben hwnnw.

Hysbysiad yn dilyn torri’r cyfyngiad ar symud30

1

Os yw ceffyl wedi ei symud i unrhyw fangre drwy dorri unrhyw un o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn, neu unrhyw drwydded neu hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i brif feddiannydd y fangre honno i’w gwneud yn ofynnol—

a

i’r ceffyl hwnnw, neu unrhyw geffyl arall yn y fangre, gael ei gadw yn y fangre, neu

b

i unrhyw geffyl yn y fangre gael ei symud i fangre arall a bennir yn yr hysbysiad.

2

Os yw ceffyl wedi ei symud i fangre arall o dan hysbysiad o’r fath, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw feddiannydd y fangre arall honno i osod y cyfyngiadau ar symud mewn perthynas â cheffylau yn y fangre honno y mae’r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

Newid prif feddiannydd mangre sydd o dan gyfyngiad – mynediad at ddibenion lles31

Os yw prif feddiannydd mangre sydd o dan gyfyngiad o dan y Rheoliadau hyn yn newid, rhaid i’r prif feddiannydd newydd ganiatáu i berchennog unrhyw geffyl yn y fangre, neu unrhyw berson yn gweithredu ar ran y perchennog, fynd i mewn i’r fangre i fwydo’r ceffyl neu ymorol fel arall am ei les yn ystod cyfnod y cyfyngiad ac am saith niwrnod wedi iddo ddod i ben.

Pwerau arolygwyr mewn achos o fethu â chydymffurfio32

Os yw unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd hwnnw yn barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y bydd y gofyniad yn cael ei fodloni ar draul y person hwnnw.

Digolledu am geffylau a laddwyd a phethau yr ymafaeliwyd ynddynt33

1

O ran Gweinidogion Cymru, yn unol â’r rheoliad hwn—

a

cânt ddigolledu am ladd unrhyw geffyl o dan reoliad 12 neu 16(6)(e);

b

rhaid iddynt ddigolledu am ymafael yn unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn, oni ddychwelir ef.

2

Ni ddigolledir am geffyl a oedd, pan gafodd ei ladd, wedi ei effeithio gan glefyd Affricanaidd y ceffylau.

3

O ran swm y digollediad sy’n daladwy o dan baragraff(1)(a)—

a

yn ddarostyngedig i is-baragraff (b) gwerth y ceffyl yn union cyn iddo gael ei ladd yw hwnnw;

b

ni chaiff, mewn unrhyw achos, fod yn fwy na £2500 am unrhyw geffyl.

4

O ran swm y digollediad sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b)—

a

yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), gwerth y peth yr ymafaeliwyd ynddo ar yr adeg pryd yr ymafaeliwyd ynddo yw hwnnw;

b

yn achos unrhyw ddeunydd genetig sy’n dod o’r un ceffyl, ni chaiff, mewn unrhyw achos, fod yn fwy na £2500 (ni waeth beth fo natur na nifer yr eitemau o ddeunydd genetig yr ymafaeliwyd ynddynt).

5

Gwerth y ceffyl neu’r peth yr ymafaelir ynddo (yn ôl y digwydd) yw—

a

y swm a benderfynir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru (“prisiad Gweinidogion Cymru”), neu

b

y swm a benderfynir yn ysgrifenedig gan y prisiwr hwnnw yn lle hynny, pan fo’r penderfyniad ynghylch y gwerth wedi ei gyfeirio o dan baragraff (6) at brisiwr penodedig.

6

Os yw—

a

prisiad Gweinidogion Cymru yn llai na £2500, a

b

perchennog y ceffyl a laddwyd neu (yn ôl y digwydd) y peth yr ymafaeliwyd ynddo yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn dadlau yn erbyn y prisiad hwnnw, gyda rhesymau, a hynny o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl derbyn prisiad Gweinidogion Cymru,

rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r penderfyniad ynghylch y gwerth at brisiwr penodedig.

7

Rhaid i’r prisiwr penodedig fod yn berson—

a

sydd wedi ei benodi ar y cyd gan y perchennog a Gweinidogion Cymru at ddiben cynnal prisiad o dan y rheoliad hwn, neu

b

sydd, o fethu cytuno ar benodiad o’r fath o fewn 10 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (6), wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

8

Mae penderfyniad y prisiwr penodedig ynghylch y gwerth yn derfynol ac yn rhwymo Gweinidogion Cymru a’r perchennog (ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (3)(b) a (4)(b))

9

Rhaid i ffioedd a godir neu dreuliau a dynnir gan brisiwr penodedig am waith a wneir o dan y rheoliad hwn gael eu talu—

a

gan y perchennog, pan fo penderfyniad y prisiwr yn gyfwerth â phrisiad Gweinidogion Cymru neu’n is,

b

gan Weinidogion Cymru, fel arall.

10

Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw oedi o ran lladd ceffyl at ddibenion rheoli clefyd Affricanaidd y ceffylau.

Rhwystro34

Ni chaiff neb—

a

mynd ati’n fwriadol i rwystro neu atal unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn;

b

heb achos rhesymol, y mae ei brofi yn fater i’r person a gyhuddir, fethu â rhoi unrhyw gymorth na gwybodaeth sy’n rhesymol angenrheidiol i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn;

c

darparu unrhyw wybodaeth y gŵyr ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol neu heb gredu ei bod yn wir i unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn; neu

d

methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Troseddau a chosbau35

1

Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau canlynol—

a

rheoliad 3(4) (meddiannydd i roi cymorth rhesymol i alluogi’r prif feddiannydd i gydymffurfio â rhwymedigaethau);

b

rheoliad 3(5) (y prif feddiannydd i gymryd camau rhesymol i hysbysu meddianwyr eraill am y cyfyngiadau ar symud sy’n deillio o hysbysiad);

c

rheoliad 5(1) neu (2) (gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru am geffyl neu garcas etc dan amheuaeth);

d

rheoliad 7(7)(a)(i), (ii) neu (iii) (gwaharddiad ar symud ceffyl neu garcas hysbysedig; cyfarpar neu ddeunydd genetig; neu geffylau eraill);

e

rheoliad 7(7)(b)(i) neu (ii) (rhwymedigaeth i symud ceffylau ac adnabod fectorau etc);

f

rheoliad 11(3) (gwaharddiad ar bersonau sy’n symud ceffylau i fangre);

g

rheoliad 14(5)(a), (b) neu (c) (rheolaethau sy’n ymwneud â lladd-dai);

h

rheoliad 17(4) (gwaharddiad ar symud didrwydded o fewn parth cyfyngu dros dro ar symud);

i

rheoliad 18(7) (gwaharddiad ar symud didrwydded allan o barth gwarchod neu allan o barth gwyliadwriaeth i ardal sy’n rhydd o gyfyngiadau);

j

rheoliad 18(8)(a) neu (b) (gwaharddiad ar symud asynnod etc yn ddidrwydded neu symud ceffylau sy’n dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau);

k

rheoliad 21(3) (rhwymedigaeth i gydymffurfio â chyfyngiadau a mesurau a osodir drwy ddatganiad o dan reoliad 17(5), 18(9), neu 19(3));

l

rheoliad 24 (gwaharddiad ar frechu);

m

rheoliad 25(2) (gofyniad i frechu yn unol â datganiad ynghylch parth brechu);

n

rheoliad 26(1) neu (2) (gofyniad i adnabod ceffylau sydd wedi eu brechu ac i gadw cofnodion; gwaharddiad ar symud yn ddidrwydded geffyl sydd wedi ei frechu);

o

rheoliad 27(9) (gofyniad i gydymffurfio â hysbysiad);

p

rheoliad 28(2)(a) neu (b) (gofyniad i fod â thrwydded neu gopi ohoni; gofyniad i ddangos etc trwydded);

q

rheoliad 28(4)(a), (b) neu (c) (gofyniad i fod â dogfen arnoch; gofyniad i ddangos etc dogfen; gofyniad i gadw dogfen);

r

rheoliad 31 (rhwymedigaeth ar brif feddiannydd newydd i ganiatáu mynediad at ddibenion bwydo neu ymorol am les);

s

rheoliad 34 (rhwystro);

t

paragraff 1, 2 neu 4 o’r Atodlen (gofyniad i gadw cofnodion etc; gofyniad ynghylch lletya ceffylau; gofyniad ynghylch gweithredu rheolaeth ar fectorau);

u

paragraff 3 o’r Atodlen (gwaharddiad ar symud yn ddidrwydded).

2

Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

a

o’i gollfarnu’n ddiannod—

i

yn achos collfarn am drosedd o dan baragraff (1)(b), (c), (d), (e), (f), (g), (h), (i), (j), (k), (m), (o), (s) neu (u), i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, neu’r ddau,

ii

yn achos collfarn am unrhyw drosedd arall o dan baragraff (1) i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu

b

o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na chwe mis neu’r ddau.

Troseddau gan gyrff corfforaethol36

1

Os profir bod trosedd a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol o dan y Rheoliadau hyn—

a

wedi cael ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog, neu

b

i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

2

Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw—

a

cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu un o swyddogion tebyg eraill y corff, neu

b

person a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath.

3

Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli’r aelod hwnnw fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforaethol.

Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig37

1

Caniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

2

At ddibenion achos o’r fath—

a

mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel petai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol; a

b

mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192515 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198016 yn gymwys mewn perthynas â phartneriaeth neu gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

3

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas pan gawsant eu collfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

4

Pan brofir bod trosedd a gyflawnwyd gan bartneriaeth o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei bod i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

5

At y dibenion hyn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

6

Os profir bod trosedd a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig o dan y Rheoliadau hyn—

a

wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu

b

i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, un o swyddogion y gymdeithas,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

7

Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—

a

un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i gorff llywodraethu, neu

b

person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath.

Gorfodi38

1

Yr awdurdod lleol sy’n gorfodi’r Rheoliadau hyn.

2

Ond caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad arbennig neu mewn perthynas ag achosion arbennig, mai Gweinidogion Cymru fydd yn gorfodi’r Rheoliadau hyn yn lle’r awdurdod lleol.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Amgylchiadau eithriadol39

Caiff arolygydd milfeddygol, at ddibenion sicrhau iechyd neu les unrhyw geffyl—

a

trwyddedu person i gyflawni unrhyw weithred sydd, fel arall, wedi ei gwahardd o dan y Rheoliadau hyn; neu

b

esemptio person, drwy hysbysiad, rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau40

1

Yn y Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 199217, yn erthygl 2 hepgorer y cyfeiriad at glefyd Affricanaidd y ceffylau.

2

Yn y Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 199618, yn Rhan 1 o Atodlen 1 hepgorer y cyfeiriad at glefyd Affricanaidd y ceffylau.

Alun DaviesY Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

YR ATODLENMesurau mewn mangre sydd dan amheuaeth a mangre heintiedig ac mewn mangre mewn parth rheolaeth

Rheoliadau 8(2), 9(9), 10(8) a 18(5)

Cofnodion1

1

Rhaid i’r prif feddiannydd gadw cofnod o bob ceffyl sydd yn y fangre.

2

Rhaid i’r prif feddiannydd gymryd pob cam rhesymol i ddiweddaru’r cofnod i ddangos nifer y ceffylau yn y fangre sydd—

a

wedi marw;

b

yn dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau;

c

wedi cael eu geni er pan osodwyd cyfyngiadau yn y fangre o dan y Rheoliadau hyn; a

d

wedi mynd i mewn i’r fangre neu ddod ohoni o dan drwydded.

3

Rhaid i’r prif feddiannydd ofyn i unrhyw feddiannydd arall adrodd ynghylch unrhyw newidiadau ym manylion ei geffylau yn y fangre sy’n berthnasol i’r cofnod.

4

Rhaid i’r prif feddiannydd gadw cofnod am gyfnod o chwe mis o leiaf wedi (yn ôl y digwydd)—

a

i’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 8(2), 9(8), neu 10(7) gael ei ddirymu, neu

b

i’r fangre beidio â bod o fewn y parth rheoli,

p’un bynnag yw’r diweddaraf.

Lletya Ceffylau2

Rhaid i feddiannydd sicrhau bod pob ceffyl yn y fangre yn cael ei gadw—

a

i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, yn y rhan neu’r rhannau o’r fangre lle y gallent fod yn llai agored i fectorau; neu

b

yn ôl cyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Cyfyngu ar symud ceffylau, carcasau, cyfarpar neu ddeunydd genetig3

Ni chaiff neb symud unrhyw geffyl neu garcas i’r fangre neu ohoni, nac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd genetig o’r fangre, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Rheoli fectorau4

Rhaid i’r prif feddiannydd weithredu unrhyw fesurau ymarferol i reoli fectorau y caiff arolygydd milfeddygol eu gwneud yn ofynnol.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu, o ran Cymru, ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 92/35/EEC, sy’n gosod rheolau a mesurau rheoli i drechu clefyd Affricanaidd y ceffylau (OJ L Rhif 157, 10.6.1992 t19). Maent yn dirymu darpariaethau Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 a Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 i’r graddau y maent yn gymwys i glefyd Affricanaidd y ceffylau ac i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Rhagarweiniad yw Rhan 1, ac mae’n cynnwys diffiniadau.

Mae Rhan 2 yn ymdrin â hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd Affricanaidd y ceffylau.

Mae Rhan 3 a’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefyllfa pan fo clefyd Affricanaidd y ceffylau yn cael ei amau neu ei gadarnhau mewn mangre. Mae Rhan 3 hefyd yn ymdrin â mangre sydd â chyswllt â mangre heintiedig, ac mae’n gwneud darpariaeth, yn dilyn datgan bod mangre yn fangre heintiedig, i atal rhag dod â cheffylau i fangreoedd eraill oherwydd y risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.

Mae Rhan 4 yn ymdrin â lladd-dai.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer ceffylau nad ydynt yn rhai caeth.

Mae Rhan 6 a’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu rheolaethau ardal drwy ddatgan gwahanol barthau.

Mae Rhan 7 yn gwahardd brechu rhag clefyd Affricanaidd y ceffylau ac eithrio yn yr amgylchiadau a nodir yno, ac mae’n cynnwys pwerau i ddatgan parth brechu.

Mae Rhan 8 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud ag arolygu, gorfodi a materion eraill.

Yr awdurdod lleol sy’n gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Mae torri unrhyw un o’r darpariaethau a restrir yn rheoliad 35 yn drosedd a gaiff ei chosbi drwy gollfarn ddiannod neu gollfarn ar dditiad. O gollfarnu’n ddiannod, mae’r drosedd i’w chosbi naill ai â dirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol yn unig, neu (pan fo mwy o risg y gallai’r clefyd ymledu oherwydd y toriad) ddirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol a charchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis neu’r ddau. O gollfarnu ar dditiad, mae’r drosedd i’w chosbi â dirwy neu garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na chwe mis neu’r ddau.

Mae rheoliad 2(1) yn cyfeirio at Safon Brydeinig 7320, a gellir cael copïau ohoni oddi ar wefan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI), gan unrhyw un o’r safleoedd gwerthu a weithredir gan y BSI, neu drwy’r post gan Wasanaethau Cwsmeriaid y BSI, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision tebygol o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth: Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.