6. Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â lladd-dai neu geffylau nad ydynt yn rhai caeth.
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 5(1) a bod arolygydd milfeddygol yn barnu bod angen ymchwilio rhagor am y posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol.
(2) Rhaid i arolygydd milfeddygol roi gwybod (ar lafar neu fel arall) i’r person a roddodd yr hysbysiad fod angen ymchwilio rhagor.
(3) Pan fo’r person hwnnw wedi cael gwybod hynny, mae’r rheolaethau sydd ym mharagraff (7) yn gymwys mewn perthynas â’r fangre lle y mae’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig (yn ôl y digwydd) wedi ei leoli.
(4) Pan nad y fangre honno yw’r fangre lle y cedwir y ceffyl hysbysedig fel arfer neu, yn achos carcas hysbysedig, lle y cedwid y ceffyl fel arfer cyn iddo farw, caiff arolygydd milfeddygol roi gwybod hefyd (ar lafar neu fel arall) i brif feddiannydd y mangreoedd eraill hynny bod angen ymchwilio rhagor.
(5) Pan fo’r prif feddiannydd wedi cael gwybod hynny, mae’r rheolaethau sydd ym mharagraff (7), ac eithrio yn is-baragraff (a)(i), yn gymwys mewn perthynas â’r mangreoedd eraill hynny.
(6) O ran arolygydd milfeddygol—
(a)rhaid iddo fynd i’r fangre lle y mae’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig wedi ei leoli ac archwilio’r ceffyl neu’r carcas hwnnw, a chaiff archwilio unrhyw geffyl neu garcas arall yno;
(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, caiff fynd i’r mangreoedd eraill hynny ac archwilio unrhyw geffyl neu garcas yno.
(7) Dyma’r rheolaethau—
(a)rhaid i unrhyw berson sydd â cheffyl neu garcas hysbysedig yn ei feddiant neu o dan ei gyfrifoldeb sicrhau—
(i)nad yw’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig yn cael ei symud o’r fangre lle y mae wedi ei leoli,
(ii)nad oes dim cyfarpar na deunydd genetig yn cael ei symud o’r fangre,
(iii)nad oes unrhyw geffyl neu garcas arall yn cael ei symud o’r fangre nac iddi, ac eithrio y caiff unrhyw geffyl sydd fel arfer yn cael ei gadw yn y fangre ddychwelyd yno; a
(b)os yw hynny’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol ac i’r graddau y mae’n ymarferol gwneud hynny, rhaid i’r prif feddiannydd sicrhau—
(i)bod pob ceffyl yn cael ei symud ymaith o unrhyw ran o’r fangre lle y mae’r rhan fwyaf o fectorau yn debygol o fod yn bresennol;
(ii)bod ardaloedd a allai fod yn fagwrfeydd fectorau yn cael eu hadnabod, ac y rhoddir ar waith unrhyw fesurau sydd ar gael i reoli fectorau dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(8) Mae’r rheolaethau a osodir o dan y rheoliad hwn yn parhau i fod yn gymwys—
(a)hyd oni fydd arolygydd milfeddygol yn cadarnhau (ar lafar neu fel arall) i unrhyw feddiannydd y fangre nad oes amheuaeth fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol yn y fangre, neu
(b)hyd oni fydd y fangre’n dod yn fangre dan amheuaeth(1).
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd yn amau bod ceffyl neu garcas sydd wedi ei heintio neu a oedd wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn unrhyw fangre neu wedi bod mewn unrhyw fangre (yn dilyn hysbysiad o dan reoliad 5(1) neu fel arall).
(2) Caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r prif feddiannydd gan ddynodi’r fangre honno yn fangre dan amheuaeth, ac ar yr adeg honno mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn cael effaith(2).
(3) Rhaid i hysbysiad o’r fath a gyflwynir mewn perthynas â mangre gyswllt bennu bod y fangre yn fangre gyswllt.
(4) Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.
(5) Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i arolygydd milfeddygol—
(a)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, asesu mannau sy’n debygol o hwyluso parhad y fectorau, neu roi lle iddynt, a pha mor ymarferol fyddai defnyddio mesurau priodol i reoli fectorau mewn mannau o’r fath;
(b)cychwyn ymchwiliad epidemiolegol i geisio sefydlu o leiaf—
(i)faint o amser y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau fod wedi bodoli mewn ceffylau yn y fangre,
(ii)tarddiad y feirws hwnnw,
(iii)enw mangreoedd eraill lle y mae ceffylau a allai fod wedi cael eu heintio,
(iv)presenoldeb a gwasgariad fectorau,
(v)symudiad unrhyw geffyl i’r fangre neu oddi yno, neu unrhyw garcasau a dynnwyd ymaith ohoni, a
(vi)y posibilrwydd y gallai ceffylau nad ydynt yn rhai caeth fod yn gyfrannog yn ymlediad y feirws,
a pharhau â’r ymchwiliad hyd oni fydd y materion hyn wedi eu sefydlu i’r graddau y mae hynny’n ymarferol, neu hyd oni ddiystyrir y posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre, ac eithrio mangre gyswllt, wedi ei dynodi yn fangre dan amheuaeth.
(2) Rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i sefydlu a oes feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol ai peidio.
(3) At ddibenion paragraff (2), caiff arolygydd milfeddygol, os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu bod angen hynny, gymryd a threfnu i brofi—
(a)samplau o unrhyw geffyl neu garcas sydd yn y fangre neu wedi bod yn flaenorol yn y fangre,
(b)samplau amgylcheddol o’r fangre.
(4) Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, yn dilyn y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) nad yw mwyach yn briodol i’r fangre barhau’n un sydd wedi ei dynodi’n fangre dan amheuaeth, rhaid i arolygydd milfeddygol ddirymu’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 8(2).
(5) Pan fo’r hysbysiad hwnnw wedi ei ddirymu, mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion paragraff 1(4)(a) o’r Atodlen honno (y ddyletswydd i gadw cofnodion am chwe mis wedi i’r hysbysiad gael ei ddirymu).
(6) Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, yn dilyn profion o dan y rheoliad hwn, fod ceffylau serobositif yn y fangre, rhaid i arolygydd milfeddygol barhau i fonitro ceffylau yn y fangre, fel y bo’n briodol, a chaiff gymryd samplau pellach a threfnu iddynt gael eu profi.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, o ganlyniad i unrhyw brawf a gynhaliwyd o dan y rheoliad hwn neu unrhyw arwyddion clinigol arall yn unrhyw geffyl yn y fangre, fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas neu yn y fangre.
(8) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i’r prif feddiannydd yn datgan bod y fangre yn fangre heintiedig(3).
(9) Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (8), mae’r mesurau yn yr Atodlen yn parhau i gael effaith.
(10) Caiff yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (8) ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.
(11) Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu bod angen hynny er mwyn lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caiff yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (8) ei gwneud yn ofynnol i gael mesurau ychwanegol i’r rhai sydd yn yr Atodlen a pharagraff (10).
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre gyswllt wedi ei dynodi’n fangre dan amheuaeth.
(2) Os yw unrhyw geffyl yn y fangre yn dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau yn ystod y cyfnod perthnasol, o ran arolygydd milfeddygol—
(a)rhaid iddo gymryd samplau ohono a threfnu iddynt gael eu profi, a
(b)caiff gymryd samplau o unrhyw geffyl arall neu garcas yn y fangre a threfnu iddynt gael eu profi.
(3) Os na fydd unrhyw geffyl yn y fangre yn dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau, o ran arolygydd milfeddygol—
(a)rhaid iddo fonitro, fel y bo’n briodol, bob ceffyl yn y fangre hyd at ddiwedd y cyfnod perthnasol, a
(b)caiff gymryd samplau o unrhyw geffyl neu garcas yn y fangre a threfnu iddynt gael eu profi.
(4) Os nad oes unrhyw geffyl yn y fangre wedi dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, a bod y Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, yn dilyn unrhyw brofion o dan y rheoliad hwn, nad yw mwyach yn briodol i’r fangre barhau i gael ei dynodi’n fangre dan amheuaeth, rhaid i arolygydd milfeddygol ddirymu’r hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 8(2).
(5) Pan fo’r hysbysiad hwnnw’n cael ei ddirymu, mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion paragraff 1(4)(a) o’r Atodlen honno.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys pan fo’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, o ganlyniad i—
(a)unrhyw brawf a wneir o dan y rheoliad hwn,
(b)unrhyw arwyddion clinigol yn unrhyw geffyl yn y fangre, neu
(c)unrhyw gyswllt epidemiolegol â mangre heintiedig,
fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas yn y fangre.
(7) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i’r prif feddiannydd yn datgan bod y fangre yn fangre heintiedig(4).
(8) Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (7), mae’r mesurau yn yr Atodlen yn parhau i gael effaith.
(9) Caiff yr hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (7) ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.
(10) Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu bod angen hynny er mwyn lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i gael mesurau ychwanegol i’r rhai sydd yn yr Atodlen a pharagraff (9).
(11) Yn y rheoliad hwn, “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod y mae’r Prif Swyddog Milfeddygol yn penderfynu y mae ei angen ar gyfer sefydlu a oes clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas yn y fangre ai peidio.
11.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre yn fangre heintiedig a bod y Prif Swyddog Milfeddygol yn barnu ei bod yn briodol atal rhag dod â cheffylau i fangreoedd eraill oherwydd y risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.
(2) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i brif feddiannydd y mangreoedd eraill yn gosod y gwaharddiad sydd ym mharagraff (3).
(3) Y gwaharddiad yw na chaiff unrhyw berson symud unrhyw geffyl i’r fangre am y cyfnod hwnnw a fo wedi ei bennu yn yr hysbysiad, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol.
(4) Caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r prif feddiannydd godi a chynnal a chadw’r cyfryw arwyddion yn y fangre fel y bo’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol.
(5) Rhaid i arolygydd milfeddygol ddirymu unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) os yw wedi ei fodloni, ar ôl ystyried y risg epidemiolegol, nad oes angen y gwaharddiad mwyach i leihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.
12.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â cheffylau—
(a)mewn mangre dan amheuaeth sy’n fangre gyswllt,
(b)mewn mangre heintiedig.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru drefnu i ladd pob ceffyl sydd wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau neu sy’n dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau.
(3) Os yw unrhyw geffyl yn cael ei ladd o dan baragraff (2), o ran Gweinidogion Cymru—
(a)rhaid iddynt drefnu i gael gwared ar ei garcas, a
(b)cânt drefnu i gael gwared ar garcas unrhyw geffyl arall sydd wedi marw yn y fangre honno.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw broses o waredu o’r fath yn cael ei chynnal mewn ffordd sy’n osgoi’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.
13.—(1) Rhaid i arolygydd milfeddygol beidio â dirymu hysbysiad sy’n datgan bod mangre yn fangre heintiedig oni bai fod y Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni mai bach iawn yw’r risg o heintiad pellach o’r fangre honno.
(2) Os nad oes arolygydd milfeddygol wedi dirymu’r hysbysiad yn gynharach, mae hysbysiad sy’n datgan bod mangre yn fangre heintiedig yn cael ei ddirymu pan fo’r fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn peidio â bod o fewn unrhyw barth sydd wedi ei ddatgan o dan Ran 6.
(3) Pan fo hysbysiad sy’n datgan bod mangre yn fangre heintiedig yn cael ei ddirymu gan arolygydd milfeddygol neu yn rhinwedd paragraff (2), mae’r mesurau sydd yn yr Atodlen yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion paragraff 1(4)(a) o’r Atodlen honno.
Ar yr adeg honno, mae mesurau eraill yn cael effaith: gweler rheoliad 8(2).
Gweler hefyd bŵer Gweinidogion Cymru o dan reoliad 17 i ddatgan parth cyfyngu dros dro ar symud.
Gweler hefyd bŵer Gweinidogion Cymru o dan reoliad 18 i ddatgan parth rheoli, parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth.
Gweler hefyd bŵer Gweinidogion Cymru o dan reoliad 18 i ddatgan parth rheoli, parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth.