2013 Rhif 1722 (Cy. 166)

Tai, Cymru

Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013

Gwnaed

Yn dod i rym

Gwneir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 320 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 20081.

Yn unol ag adran 320(8)(a) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013, a daw i rym ar 10 Gorffennaf 2013.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

3

Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gytundeb y mae Deddf Cartrefi Symudol 19832yn gymwys iddo, cyn dyfodiad i rym adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008.

Diwygiadau canlyniadol2

1

Mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn

2

Yn adran 1(8A) ar ôl “England” rhodder “and Wales”

3

Yn adran 2(6) ar ôl “England” rhodder “and Wales”

Jeff CuthbertY Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) yn diwygio adran 5 o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”), er mwyn dwyn tir, a feddiennir gan awdurdod lleol ar gyfer safle carafannau sy’n darparu llety i sipsiwn a theithwyr, o fewn y diffiniad o safleoedd gwarchodedig at ddibenion Deddf 1983. Pwrpas y Gorchymyn hwn yw gwneud diwygiadau yn Neddf 1983 sy’n ganlyniadol ar ddwyn i rym adran 318 o Ddeddf 2008 mewn perthynas â Chymru ac ar wneud darpariaethau trosiannol perthynol, a wnaed o dan adran 322 o’r Ddeddf honno. Mae’r diwygiadau canlyniadol hyn yn efelychu’r diwygiadau a wnaed yn Neddf 1983 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) 20113

Effaith y diwygiadau canlyniadol a bennir yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yw—

a

bod hawl meddiannydd i wneud cais i’r llys neu i dribiwnlys, os yw’r perchennog yn methu â darparu datganiad ysgrifenedig, wedi ei datgymhwyso ar gyfer meddianwyr lleiniau pontio ar safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol yng Nghymru; a

b

bod hawl sydd gan barti i’r cytundeb, i wneud cais i’r llys neu i dribiwnlys ynglŷn â thelerau’r cytundeb, o fewn 6 mis ar ôl gwneud y cytundeb neu ar ôl rhoi’r datganiad ysgrifenedig, wedi ei datgymhwyso ar gyfer lleiniau pontio yng Nghymru.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.