xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2013 a daw i rym ar 31 Awst 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012(1); a
(b)mae i “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2012.
O.S. 2012/3097 (Cy.313) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/765 (Cy.91).