- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“Gorchymyn 1995”). Mae Gorchymyn 1995 yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â datblygu penodol. Pan fo’r hawliau hynny yn gymwys, nid oes angen gwneud cais penodol am ganiatâd cynllunio.
Mae erthygl 2 a’r Atodlen yn rhoi Rhan 1 newydd yn lle Rhan 1 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995. Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â datblygu o fewn cwrtil tŷ annedd. Mae’r Rhan 1 newydd o Atodlen 2 yn gwneud newidiadau i’r hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas ag ehangu, gwella neu addasu tŷ annedd (Dosbarth A); ehangu tŷ annedd sy’n cynnwys ychwanegiad neu addasiad i’r to (Dosbarth B); unrhyw addasiad arall i do tŷ annedd (Dosbarth C); y ddarpariaeth o fewn cwrtil unrhyw adeilad, clostir, bwll neu gynhwysydd (Dosbarth E); a’r ddarpariaeth o fewn cwrtil arwyneb caled (Dosbarth F). Caiff y Dosbarth G blaenorol (adeilad neu ddarpariaeth o fewn cwrtil cynhwysydd) ei gynnwys yn y Dosbarth E newydd. Mae Dosbarth G newydd yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â gosod, addasu neu amnewid simnai. Caiff Dosbarth H (gosod, addasu neu amnewid antena microdon) ei ddiwygio i ddarparu ar gyfer pan gaiff antena ei drin fel bod yn weladwy o briffordd.
Mae Dosbarth D (codi neu adeiladu porth) heb ei newid.
Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: