RHAN 2IS-DDEDDFWRIAETH

Diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 19965

1

Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 19965 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Mae rheoliad 2(1) (dehongli)6 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

yn lle’r diffiniad o “contributory employment and support allowance” rhodder—

  • “contributory employment and support allowance” means an allowance under Part 1 of the Welfare Reform Act 2007 (“the 2007 Act”) as amended by the provisions of Schedule 3, and Part 1 of Schedule 14, to the 2012 Act that remove references to an income-related allowance, and a contributory allowance under Part 1 of the 2007 Act as that Part has effect apart from those provisions;

b

ar ôl y diffiniad o “training allowance” mewnosoder—

  • “universal credit” means universal credit under Part 1 of the 2012 Act;

3

Yn rheoliad 10 (y swm cymwys)7

a

ym mharagraff (3)—

i

ar ôl is-baragraff (a)(v) hepgorer “or” ac ar ôl is-baragraff (a)(vi) mewnosoder—

; or

vii

universal credit;

ii

ar ôl is-baragraff (b) hepgorer “or” ac ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

; or

d

subject to paragraph (5), a relevant person who has a partner, where the partner is entitled to universal credit

b

ar ôl paragraff (4), mewnosoder—

5

For the purposes of paragraph (3)(d) and regulation 11(2)(b), where the relevant person and a partner of that person are parties to a polygamous marriage, the fact that they are partners will be disregarded if—

a

one of them is a party to an earlier marriage that still subsists; and

b

the other party to that earlier marriage is living in the same household.

4

Yn rheoliad 11 (adnoddau ariannol)—

a

ar y dechrau mewnosoder “(1) Subject to paragraph (2),”; a

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

2

Subject to regulation 10(5), where a relevant person in the case of the application—

a

is entitled to universal credit; or

b

is not entitled to universal credit but their partner is so entitled,

then the income of that relevant person for the purposes of paragraph (1) will be taken to be nil.

5

Yn rheoliad 19 (trin taliadau gofal plant)8, ym mharagraffau (3)(b) a (3)(c)(ii), ar ôl “Employment and Support Allowance Regulations 2008” mewnosoder “or the Employment and Support Allowance Regulations 2013”.

6

Yn rheoliad 31(10A)(b)(i) (incwm tybiannol) yn lle’r geiriau o “in accordance with” i’r diwedd rhodder “approved by the Welsh Ministers”.

Diwygio Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 20026

1

Mae Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 20029 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3(4) (cymhwyster i gael grant)10, ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

ca

personau sy’n cael credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;

Diwygio Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 20067

1

Mae Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 200611 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “Deddf 1996” mewnosoder—

  • ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Diwygio Lles 2012 (2012 p.5);

b

ar ddiwedd paragraff (3)(c)(ii), hepgorer y gair “a”;

c

ar ddiwedd paragraff (ch), dileer yr atalnod llawn a mewnosoder “; a”; a

d

ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—

d

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth o dan Ran 2 o Ddeddf 2012; ac

dd

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf 2012.

3

Yn rheoliad 3(1)(ff) (dosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

a

ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “, lwfans cyflogaeth a chymorth,”; a

b

yn lle “cymhorthdal” rhodder “credyd cynhwysol neu gymhorthdal”.

Diwygio Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 20088

1

Mae Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 200812 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli) rhodder—

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;

  • ystyr “dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol” (“relevant award of universal credit”) yw dyfarniad y cyfeirir ato yn adran 73(6A) o Ddeddf Tai 2004.

3

Yn rheoliad 2 (diwygio cais am orchymyn ad-dalu rhent i dynnu ymaith fudd-dal tai nad oedd yn briodol daladwy)—

a

ym mharagraff (1), ar ôl “budd-dal tai”, mewnosoder “neu ddyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol”; a

b

ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “yn lle cyfanswm y budd-dal” i’r diwedd rhodder—

a

yn achos budd-dal tai, yn lle cyfanswm y budd-dal tai a dalwyd, y rhan honno o’r swm hwnnw y mae’n credu sy’n briodol daladwy;

b

yn achos dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol, yn lle’r swm y cyfeirir ato yn adran 74(2A)(a) o’r Ddeddf y credid yn wreiddiol ei fod yn gymwys, y swm y credir bellach ei fod yn gymwys (os yw’n wahanol).

4

Yn lle paragraff (3), rhodder—

3

At ddibenion paragraffau (1) a (2)—

a

mae swm o fudd-dal tai yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, â hawl iddo o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006 (p’un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach); a

b

mae dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol yn briodol daladwy os yw’r person y’i telir iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, â hawl iddo o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (p’un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y’i diwygiwyd neu y’i disodlwyd ymhellach).