RHAN 2IS-DDEDDFWRIAETH

Diwygio Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006

7.—(1Mae Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “Deddf 1996” mewnosoder—

ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Diwygio Lles 2012 (2012 p.5);;

(b)ar ddiwedd paragraff (3)(c)(ii), hepgorer y gair “a”;

(c)ar ddiwedd paragraff (ch), dileer yr atalnod llawn a mewnosoder “; a”; a

(d)ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—

(d)ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth o dan Ran 2 o Ddeddf 2012; ac

(dd)ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf 2012.

(3Yn rheoliad 3(1)(ff) (dosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “, lwfans cyflogaeth a chymorth,”; a

(b)yn lle “cymhorthdal” rhodder “credyd cynhwysol neu gymhorthdal”.