
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 1 Chwefror 2013
2.—(1) Daw darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym mharagraff (2) i rym ar 1 Chwefror 2013 mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
(a)Castell-nedd Port Talbot;
(b)Pen-y-bont ar Ogwr; ac
(c)Abertawe.
(2) Y darpariaethau yw—
(a)adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);
(b)adran 58 (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd) ac eithrio is-adrannau (2) a (6)(b), (c) a (d);
(c)adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);
(d)adran 60(2) (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);
(e)adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(f)adran 62(1) (amcanion y byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(g)adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);
(h)adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).
Back to top