2013 Rhif. 1800 (Cy. 182) (C. 74)
Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 20131 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19982; ac
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 19 Gorffennaf 20132
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i rym yw 19 Gorffennaf 2013, i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 20133
Yn ddarostyngedig i erthyglau 4 a 5 y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 1 Hydref 2013—
a
Pennod 2 o Ran 3 (cynigion trefniadaeth ysgolion);
b
Pennod 3 o Ran 3 (rhesymoli lleoedd ysgol);
c
Pennod 4 o Ran 3 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig);
d
Pennod 5 o Ran 3 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth);
e
Pennod 6 o Ran 3 (darpariaethau amrywiol ac atodol);
f
Atodlen 2 (newid rheoleiddiedig);
g
Atodlen 3 (gweithredu cynigion statudol);
h
paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 (gweithredu cynigion i newid categori ysgol);
i
adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5; a
j
Rhan 2 o Atodlen 5.
Arbedion mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 19984
Er bod Penodau 2 a 6 o Ran 3 o Ddeddf 2013 a’r diddymiadau canlyniadol yn Rhan 2 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno yn dod i rym—
a
bydd darpariaethau adrannau 28, 29, 31 a 35 o Ddeddf 1998 ac Atodlenni 6 ac 8 iddi yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyhoeddir o dan yr adrannau hynny cyn 1 Hydref 2013;
b
bydd darpariaethau adran 30 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 30 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013;
c
bydd darpariaethau adran 32 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwyd a roddir o dan yr adran honno cyn 1 Hydref 2013; a
d
bydd darpariaethau adran 33 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 28, 29, 31 neu 35 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013.
Darpariaeth Drosiannol5
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
38, 39, 97 a 98 | 26 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â gwneud a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion | |
97 a 98 | 4 Mai 2013 yn llawn |