xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1830 (Cy. 184) (C. 78)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 7) 2013

Gwnaed

18 Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 7) 2013.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw’r ardal ddaearyddol honno yng Nghymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Cychwyn drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn

2.—(1Daw darpariaethau Mesur 2010 a bennir ym mharagraff (2), i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw:

(a)adran 58(10) (dosbarthu swyddogaethau ac atgyfeiriadau awdurdodau lleol); a

(b)adran 59(2) (cyllid a gwariant).

Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 31 Gorffennaf 2013

3.—(1Daw darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym mharagraff (2), i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym ar 31 Gorffennaf 2013 mewn perthynas â’r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—

(a)Blaenau Gwent;

(b)Caerffili;

(c)Sir y Fflint;

(d)Sir Fynwy; ac

(e)Torfaen.

(2Y darpariaethau yw—

(a)adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);

(b)adran 58 (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd) ac eithrio is-adran (6)(b), (c) a (d);

(c)adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);

(d)adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);

(e)adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);

(f)adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);

(g)adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);

(h)adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

18 Gorffennaf 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i ddarpariaethau Rhan 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) mewn perthynas â phum ardal awdurdod lleol.

Mae hefyd yn cychwyn pwerau penodol i wneud rheoliadau mewn perthynas â phob rhan o Gymru lle nad ydynt eisoes mewn grym. Mae erthygl 2 yn cychwyn adrannau 58(10) a 59(2) o’r Mesur sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodol i roi effaith i Ran 3 o’r Mesur, ac fe’u dygir i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Gorchymyn hwn ei wneud.

Mae’r darpariaethau yn Rhan 3 o’r Mesur eisoes mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, Caerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Powys, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Rhan 3 mewn perthynas â phum ardal awdurdod lleol pellach yng Nghymru, sef Blaenau Gwent, Caerffili, Sir y Fflint, Sir Fynwy a Thorfaen, ar 31 Gorffennaf 2013.

Mae darpariaethau Rhan 3 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol a restrir i sefydlu un neu fwy o dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan wrth sefydlu tîm ICiD. Mae adran 58 yn nodi’r mathau o achosion a all gael eu hatgyfeirio i dîm ICiD ac mae adran 58(6) yn nodi’r categorïau o oedolion a gaiff fod yn ddarostyngedig i atgyfeiriad teulu. Dim ond paragraff (a) o adran 58(6) sydd wedi ei gychwyn, felly dim ond atgyfeiriadau mewn perthynas â theuluoedd pan fo rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau sy’n gallu cael eu derbyn gan dîm ICiD. Mae adrannau 61 a 62 yn darparu ar gyfer sefydlu byrddau ICiD i oruchwylio’r timau ICiD.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 2 (i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdodau Cymreig)10 Ionawr 2011O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134)
Adrannau 4,5 a 610 Ionawr 2011O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134)
Adran 11 (ac eithrio is-adrannau (3) a (4))1 Tachwedd 2012O.S. 2012/2453 (Cy.267) (C.96)
Adran 1231 Ionawr 2012O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
Adrannau 17 ac 1810 Ionawr 2011O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134)
Adrannau 19-561 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)
Adrannau 57, 58 (1), (3)-(5), (6)(a), (7)-(14)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2)
Adran 58(2)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
Adrannau 59, 60(2), 61, 62(1), 64 a 651 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2)
Adrannau 60(1), 62(2) a 631 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1-18, paragraffau 21-281 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)
Adran 73 ac Atodlen 2 (i’r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006)1 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)