Enwi, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 7) 2013.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw’r ardal ddaearyddol honno yng Nghymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

  • ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.