Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 31 Gorffennaf 20133
1
Daw darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym mharagraff (2), i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym ar 31 Gorffennaf 2013 mewn perthynas â’r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
a
Blaenau Gwent;
b
Caerffili;
c
Sir y Fflint;
d
Sir Fynwy; ac
e
Torfaen.
2
Y darpariaethau yw—
a
adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);
b
adran 58 (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd) ac eithrio is-adran (6)(b), (c) a (d);
c
adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);
d
adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);
e
adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
f
adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
g
adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);
h
adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).