Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1983 (Cy. 193)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013

Gwnaed

7 Awst 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Awst 2013

Yn dod i rym

2 Medi 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 444A(3) a (6), 444B a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1996 p.56; mewnosodwyd adrannau 444A a 444B gan adran 23(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38); mae adran 444A wedi ei diwygio gan adran 117 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) a pharagraff 3 o Atodlen 18 iddi, ac adran 110 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) Rhoddwyd cyfeiriadau at “local authority” yn lle “local education authority” gan O.S. 2010/1158. Mae cymhwysiad adrannau 444A a 444B yn gymwys i Gymru yn rhinwedd O.S. 2013/1657 (Cy.155).