(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 5 a 6 o Ddeddf Mordwyaeth 2013 (p.23) (“Deddf 2013”) i rym mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd yng Nghymru.
Mae adran 5 o Ddeddf 2013 yn mewnosod adrannau 40A i 40D newydd i Ddeddf Harbyrau 1964 (p.40) (“Deddf 1964”). Mae adran 40A o Ddeddf 1964 yn galluogi awdurdod harbwr dynodedig i wneud cyfarwyddiadau harbwr. Mae adran 40B o Ddeddf 1964 yn pennu’r weithdrefn sy’n gymwys mewn cysylltiad â gwneud cyfarwyddiadau harbwr. Mae adran 40C o Ddeddf 1964 yn darparu ar gyfer gorfodi cyfarwyddiadau harbwr ac mae adran 40D o Ddeddf 1964 yn gwneud darpariaethau atodol mewn cysylltiad â chyfarwyddiadau harbwr.
Mae adran 6 o Ddeddf 2013 yn mewnosod adrannau 17A i 17F newydd i Ddeddf 1964. Mae adran 17A o Ddeddf 1964 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn cau harbwr. Mae adran 17B yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chynnwys gorchmynion cau harbwr ac mae adran 17C yn darparu y caiff gorchmynion cau harbwr drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r awdurdod harbwr perthnasol. Mae adran 17D yn pennu’r weithdrefn sy’n gymwys mewn cysylltiad â gwneud gorchmynion cau. Mae adran 17E yn ymdrin â datganoli ac yn darparu, mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd yng Nghymru, mai Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i wneud gorchmynion cau harbwr. Mae adran 17F o Ddeddf 1964 yn gwneud darpariaethau atodol mewn cysylltiad â gorchmynion cau harbwr.