2013 Rhif 2124 (Cy. 207)
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 20 Medi 2013.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cadeirydd corff llywodraethu” (“chair of a governing body”) yw rhywun a etholir i’r swydd honno yn unol â rheoliad 39 o Reoliadau 2005 neu reoliad 47 o Reoliadau 2010;
ystyr “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“the school performance data training”) yw’r hyfforddiant a nodir mewn dogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”4 sy’n nodi, at ddiben adran 22(4) o Fesur 2011, yr hyfforddiant a ragnodir;
ystyr “hyfforddiant awdurdod lleol ar ddata perfformiad ysgolion” (“local authority school performance data training”) yw hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ynghylch data am berfformiad ysgolion a ddarperir gan awdurdod lleol neu ar ei ran, ac a gwblheir yn y flwyddyn yn union cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “hyfforddiant awdurdod lleol i gadeirydd” (“local authority chair training”) yw hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion cyrff llywodraethu a ddarperir gan awdurdod lleol neu ar ei ran, ac a gwblheir yn y 2 flynedd yn union cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “yr hyfforddiant i gadeirydd” (“the chair training”) yw’r hyfforddiant a nodir mewn dogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys yr hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion llywodraethwyr yng Nghymru”5 sy’n nodi, at ddiben adran 22(4) o Fesur 2011, yr hyfforddiant a ragnodir;
ystyr “yr hyfforddiant ymsefydlu” (“the induction training”) yw’r hyfforddiant a nodir mewn dogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant ymsefydlu ar gyfer llywodraethwyr yng Nghymru”6 sy’n nodi, at ddiben adran 22(4) o Fesur 2011, yr hyfforddiant a ragnodir;
ystyr “hyfforddiant ymsefydlu awdurdod lleol” (“local authority induction training”) yw hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr newydd a ddarperir gan awdurdod lleol neu ar ei ran, ac a gwblheir yn y 2 flynedd yn union cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “llywodraethwr” (“a governor”) yw unrhyw un o’r categorïau o lywodraethwr, ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt, y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Reoliadau 2005 neu Ran 3 o Reoliadau 2010;
ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2011;
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20057;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 20108;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 20129;
ystyr “saib perthnasol mewn gwasanaeth fel cadeirydd” (“relevant break in service as a chair”) yw cyfnod o 5 mlynedd yn olynol o leiaf ers i lywodraethwr wasanaethu ddiwethaf fel cadeirydd corff llywodraethu;
ystyr “saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr” (“relevant break in service as a governor”) yw cyfnod o 5 mlynedd yn olynol o leiaf ers i berson wasanaethu ddiwethaf fel llywodraethwr mewn ysgol a gynhelir; ac
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru a gynhelir gan awdurdod lleol.
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.
3
At ddibenion Rheoliadau 2012—
a
mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i’w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”;
b
mae cyfeiriadau at wahanol gategorïau o lywodraethwyr i’w darllen fel cyfeiriadau at lywodraethwyr cysgodol o’r un categori.
Hyfforddiant i Gadeirydd3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gadeirydd corff llywodraethu gwblhau’r hyfforddiant i gadeirydd cyn pen 6 mis ar ôl cael ei ethol yn gadeirydd pan fo’r llywodraethwr hwnnw—
a
wedi ei ethol fel cadeirydd corff llywodraethu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym;
b
heb gwblhau’r hyfforddiant i gadeirydd yn y 2 flynedd cyn ei ethol yn gadeirydd corff llywodraethu;
c
heb gwblhau hyfforddiant awdurdod lleol i gadeirydd; neu
d
wedi ei ethol yn gadeirydd corff llywodraethu yn dilyn saib perthnasol mewn gwasanaeth fel cadeirydd.
2
Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i lywodraethwr sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant i gadeirydd neu hyfforddiant awdurdod lleol i gadeirydd, ac sydd wedi ei ethol i wasanaethu am gyfnod pellach fel cadeirydd ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ar yr amod nad yw’r llywodraethwr hwnnw wedi cael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel cadeirydd.
3
Mae llywodraethwr nad yw’n cwblhau’r hyfforddiant i gadeirydd yn unol â’r Rheoliadau hyn i beidio â dal swydd fel cadeirydd, ac nid yw’n gymwys i’w ethol yn gadeirydd corff llywodraethu hyd oni fydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol.
Hyfforddiant Ymsefydlu4
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i lywodraethwr gwblhau’r hyfforddiant ymsefydlu cyn pen blwyddyn ar ôl cael ei benodi neu ei ethol, neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (p’un bynnag yw’r diweddaraf) (“cyfnod yr hyfforddiant ymsefydlu”) pan fo’r llywodraethwr hwnnw—
a
wedi ei benodi neu ei ethol i gorff llywodraethu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym; neu
b
wedi bod yn llywodraethwr am lai na 2 flynedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym a heb gwblhau hyfforddiant ymsefydlu awdurdod lleol.
2
Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
a
pennaeth ysgol sydd hefyd yn llywodraethwr;
b
llywodraethwr sydd—
i
wedi bod yn llywodraethwr am fwy na 2 flynedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym;
ii
yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a
iii
heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr; neu
c
llywodraethwr sydd—
i
wedi bod yn llywodraethwr am lai na 2 flynedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac wedi cwblhau hyfforddiant ymsefydlu awdurdod lleol;
ii
yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a
iii
heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr; neu
d
llywodraethwr sydd—
i
wedi cwblhau’r hyfforddiant ymsefydlu;
ii
yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a
iii
heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr.
3
Mae llywodraethwr nad yw’n cwblhau’r hyfforddiant ymsefydlu yn unol â’r Rheoliadau hyn wedi ei atal dros dro o bob cyfarfod y corff llywodraethu oddi ar y diwrnod yn dilyn diwedd cyfnod yr hyfforddiant ymsefydlu hyd oni fydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant.
4
Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel pe bai’n effeithio ar hawl llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro i—
a
cael hysbysiadau am gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agenda ac adroddiadau neu bapurau eraill ar gyfer y cyfarfodydd hynny; neu
b
mynychu cyfarfod o’r corff llywodraethu sydd wedi ei alw yn unol â rheoliad 30 o Reoliadau 2005 neu reoliad 38 o Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) i ystyried symud y person hwnnw o’i swydd,
yn ystod y cyfnod y mae’r llywodraethwr hwnnw wedi ei atal dros dro.
5
Nid yw llywodraethwr wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 i Reoliadau 2005 nac o dan baragraff 5 o Atodlen 7 i Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) am fethu â mynychu unrhyw gyfarfod o’r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal dros dro o dan yn y rheoliad hwn.
6
Mae llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro o dan y rheoliad hwn am gyfnod parhaus o 6 mis i’w anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau mewn swydd o dan reoliad 24 o Reoliadau 2005, ac Atodlen 5 iddynt, neu o dan reoliad 32 o Reoliadau 2010, ac Atodlen 7 iddynt (yn ôl y digwydd).
Hyfforddiant ar Ddata Perfformiad Ysgolion5
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i lywodraethwr gwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion cyn pen blwyddyn ar ôl cael ei benodi neu ei ethol (p’un bynnag yw’r diweddaraf) (“cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”) pan fo’r llywodraethwr hwnnw wedi ei benodi neu ei ethol i gorff llywodraethu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
2
Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
a
pennaeth ysgol sydd hefyd yn llywodraethwr;
b
llywodraethwr sydd—
i
o fewn y flwyddyn yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cwblhau hyfforddiant awdurdod lleol ar ddata perfformiad ysgolion;
ii
yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a
iii
heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr; neu
c
llywodraethwr sydd—
i
wedi cwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion;
ii
yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a
iii
heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr.
3
Mae llywodraethwr sydd heb gwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn unol â’r Rheoliadau hyn wedi ei atal dros dro o bob cyfarfod o’r corff llywodraethu oddi ar y diwrnod yn dilyn diwedd cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion hyd oni fydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant.
4
Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel pe bai’n effeithio ar hawl llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro i wneud y canlynol—
a
cael hysbysiadau am gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agenda ac adroddiadau neu bapurau eraill ar gyfer y cyfarfodydd hynny; neu
b
mynychu cyfarfod o’r corff llywodraethu sydd wedi ei alw yn unol â rheoliad 30 o Reoliadau 2005 neu reoliad 38 o Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) i ystyried symud y llywodraethwr hwnnw o’i swydd,
yn ystod y cyfnod y mae’r person hwnnw wedi ei atal dros dro.
5
Nid yw llywodraethwr wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 i Reoliadau 2005 nac o dan baragraff 5 o Atodlen 7 i Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) am fethu â mynychu unrhyw gyfarfod o’r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal dros dro o dan y rheoliad hwn.
6
Mae llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro o dan y rheoliad hwn am gyfnod parhaus o 6 mis i’w anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau mewn swydd o dan reoliad 24 o Reoliadau 2005, ac Atodlen 5 iddynt, neu o dan reoliad 32 o Reoliadau 2010, ac Atodlen 7 iddynt (yn ôl y digwydd).
Diwygio Rheoliadau 20056
1
Yn Atodlen 5 i Reoliadau 2005, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—
Methu â chwblhau’r hyfforddiant gofynnol11A
1
Anghymhwysir llywodraethwr sydd wedi parhau’n un sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) am gyfnod parhaus o 6 mis, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, rhag dal swydd fel llywodraethwr unrhyw ysgol.
2
Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd fel llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (1) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu neu i’w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori mewn unrhyw ysgol hyd oni fydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau 2013.
2
Ym mharagraff 13(a) o Atodlen 5 i Reoliadau 2005, yn lle “11” rhodder “11A”.
Diwygio Rheoliadau 20107
1
Yn Atodlen 7 i Reoliadau 2010, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—
Methu â chwblhau’r hyfforddiant gofynnol11A
1
Anghymhwysir llywodraethwr sydd wedi parhau’n un sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) am gyfnod parhaus o 6 mis, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, rhag dal swydd fel llywodraethwr unrhyw ysgol.
2
Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd fel llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (1) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu neu i’w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori mewn unrhyw ysgol hyd oni fydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau 2013.
2
Ym mharagraff 13(a) o Atodlen 7 i Reoliadau 2010, yn lle “11” rhodder “11A”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)