- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae cynnwys gofynnol yr hyfforddiant wedi ei nodi mewn dogfennau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 1 yn darparu y bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 20 Medi 2013. Mae rheoliad 2 yn cynnwys y darpariaethau dehongli.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant ar gyfer cadeirydd corff llywodraethu. Mae’n nodi’r cyfnod amser ar gyfer cwblhau’r hyfforddiant, a’r esemptiadau i hynny. Mae cadeirydd y mae’n ofynnol iddo gwblhau’r hyfforddiant ond sy’n methu â gwneud hynny o fewn y cyfnod amser i beidio â dal swydd fel cadeirydd unrhyw gorff llywodraethu hyd oni fydd wedi cwblhau’r hyfforddiant.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant ymsefydlu ar gyfer llywodraethwyr sydd newydd eu penodi. Mae’n nodi’r cyfnod amser ar gyfer cwblhau’r hyfforddiant, a’r esemptiadau i hynny. Mae llywodraethwr y mae’n ofynnol iddo gwblhau’r hyfforddiant ond sy’n methu â gwneud hynny o fewn y cyfnod amser yn cael ei atal dros dro o’r corff llywodraethu hyd oni fydd wedi cwblhau’r hyfforddiant. Os bydd y llywodraethwr yn parhau wedi ei atal dros dro am 6 mis, caiff y llywodraethwr hwnnw ei symud o’i swydd.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion ar gyfer llywodraethwyr. Mae’n nodi’r cyfnod amser ar gyfer cwblhau’r hyfforddiant, a’r esemptiadau i hynny. Bydd llywodraethwr y mae’n ofynnol iddo gwblhau’r hyfforddiant ond sy’n methu â gwneud hynny o fewn y cyfnod amser yn cael ei atal dros dro o’r corff llywodraethu hyd oni fydd wedi cwblhau’r hyfforddiant. Os bydd y llywodraethwr yn parhau wedi ei atal dros dro am 6 mis, caiff y llywodraethwr hwnnw ei symud o’i swydd.
Mae rheoliadau 6 a 7 yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 ac Atodlen 7 i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010. Mae’r Atodlenni hynny wedi eu diwygio i gynnwys methiant â chwblhau’r hyfforddiant gofynnol o dan y Rheoliadau hyn fel rheswm i berson gael ei anghymhwyso rhag dal swydd llywodraethwr mewn ysgol. Maent hefyd yn darparu na chaniateir i berson a anghymhwyswyd gael ei benodi na’i ethol yn llywodraethwr hyd oni fydd y person hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: