Hyfforddiant ar Ddata Perfformiad Ysgolion5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i lywodraethwr gwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion cyn pen blwyddyn ar ôl cael ei benodi neu ei ethol (p’un bynnag yw’r diweddaraf) (“cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”) pan fo’r llywodraethwr hwnnw wedi ei benodi neu ei ethol i gorff llywodraethu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

2

Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

a

pennaeth ysgol sydd hefyd yn llywodraethwr;

b

llywodraethwr sydd—

i

o fewn y flwyddyn yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cwblhau hyfforddiant awdurdod lleol ar ddata perfformiad ysgolion;

ii

yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a

iii

heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr; neu

c

llywodraethwr sydd—

i

wedi cwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion;

ii

yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a

iii

heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr.

3

Mae llywodraethwr sydd heb gwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn unol â’r Rheoliadau hyn wedi ei atal dros dro o bob cyfarfod o’r corff llywodraethu oddi ar y diwrnod yn dilyn diwedd cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion hyd oni fydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant.

4

Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel pe bai’n effeithio ar hawl llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro i wneud y canlynol—

a

cael hysbysiadau am gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agenda ac adroddiadau neu bapurau eraill ar gyfer y cyfarfodydd hynny; neu

b

mynychu cyfarfod o’r corff llywodraethu sydd wedi ei alw yn unol â rheoliad 30 o Reoliadau 2005 neu reoliad 38 o Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) i ystyried symud y llywodraethwr hwnnw o’i swydd,

yn ystod y cyfnod y mae’r person hwnnw wedi ei atal dros dro.

5

Nid yw llywodraethwr wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 i Reoliadau 2005 nac o dan baragraff 5 o Atodlen 7 i Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) am fethu â mynychu unrhyw gyfarfod o’r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal dros dro o dan y rheoliad hwn.

6

Mae llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro o dan y rheoliad hwn am gyfnod parhaus o 6 mis i’w anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau mewn swydd o dan reoliad 24 o Reoliadau 2005, ac Atodlen 5 iddynt, neu o dan reoliad 32 o Reoliadau 2010, ac Atodlen 7 iddynt (yn ôl y digwydd).