2013 No. 2139 (Cy. 209)
Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)1, 16(1)2, 17(2)3, 26(2)(a) a (3)4 a 48(1)5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19906, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19727.
Yn unol ag adran 48(4A)8 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Rheoliadau canlynol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd—
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu9;
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy’n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 o ran hysbysu defnyddwyr am gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu10;
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 yn sefydlu system o reolaeth Gymunedol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin11; a
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar weithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/ 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin12.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd13, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo’r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a’u gwerthuso.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, cychwyn, cymhwyso a rhychwant1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Medi 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 104/2000, Rheoliad 2065/2001, Rheoliad 1224/2009 a Rheoliad 404/2011;
ystyr “Rheoliad 104/2000” (“Regulation 104/2000”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu;
ystyr “Rheoliad 2065/2001” (“Regulation 2065/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 o ran hysbysu defnyddwyr am gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu;
ystyr “Rheoliad 1224/2009” (“Regulation 1224/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;
ystyr “Rheoliad 404/2011” (“Regulation 404/2011”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
2
Yn y Rheoliadau hyn—
a
mae’r cyfeiriadau at unrhyw un neu ragor o Reoliadau’r UE yn gyfeiriadau at Reoliadau’r UE dan sylw fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd; a
b
mae gan y termau a ddefnyddir hefyd yn unrhyw un neu ragor o Reoliadau’r UE yr un ystyr ag a roddir yn Rheoliadau’r UE dan sylw.
RHAN 2Gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain yng Nghymru
Dehongli Rhan 33
Yn y Rhan hon, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990.
Gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain4
1
Yn y Rhan hon—
a
ystyr “gofyniad gwybodaeth i ddefnyddwyr” (“consumer information requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (7); a
b
ystyr “gofyniad gallu i olrhain” (“traceability requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), yn ddarostyngedig i baragraff (7).
2
At ddibenion paragraff (1)(a), y gofynion yw—
a
gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd â’r darpariaethau canlynol o Reoliad 2065/2001—
i
Erthyglau 2 a 3 (dynodiad masnachol),
ii
Erthygl 4(1) a (3) (dull cynhyrchu),
iii
Erthygl 5 (cylch y ddalfa), a
iv
Erthygl 6 (gwerthiannau cyfun);
b
gofyniad a bennir yn Erthygl 58(6) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthyglau 67(13) a 68 o Reoliad 404/2011.
3
At ddibenion paragraff (1)(b), y gofynion yw Erthygl 58(2), (3) a (5) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(7) o’r Rheoliad hwnnw ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011.
4
Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 4(1) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 4(2) o Reoliad 2065/2001.
5
Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001 yn rhagwahardd nodi amrywiol Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd fel y’i disgrifir yn Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001.
6
Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff olaf Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000, fel y’i darllenir ar y cyd â brawddeg olaf Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, lle nad yw pob pryniant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 20 ewro mewn sterling neu, yn achos gwerthiant uniongyrchol o gwch pysgota, 50 ewro.
7
Nid yw’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2)(b) a (3) yn gymwys mewn amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 67(14) o Reoliad 404/2011, lle nad yw’r gwerthiant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 50 ewro y diwrnod mewn sterling.
Hysbysiad gwella5
1
Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.
2
Yn lle is-adran (1), rhodder—
1
If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that an operator has not complied with, or is not likely to comply with, a consumer information requirement or a traceability requirement, the officer may, by notice served on that operator (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
a
state the officer’s grounds for believing that the operator is failing to comply with those requirements;
b
specify the matters which constitute the operator’s failure so to comply;
c
specify the measures which, in the officer’s opinion, the operator must take in order to secure compliance; and
d
require the operator to take those measures, or measures which are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.
3
Yn lle is-adran (3), rhodder—
3
In this section—
a
“consumer information requirement” and “traceability requirement” have the meanings given by regulation 4(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013;
b
“operator” has the same meaning as in the EU Regulations as defined in regulation 2(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013 as read with regulation 2(2)(a) of those Regulations.
Apelio i lys ynadon6
1
Mae adran 37 o’r Ddeddf14 (apelau i lys ynadon neu siryf) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.
2
Yn lle is-adran (1), rhodder—
1
Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10, as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, may appeal to the magistrates’ court.
3
Hepgorer is-adrannau (2) i (5).
4
Yn is-adran (6), yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1)”.
Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella7
1
Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.
2
Yn lle is-adran (1), rhodder—
1
On an appeal against an improvement notice served under section 10, as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, the court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.
3
Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.
Gofyniad i gadw cofnodion8
1
At ddibenion Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009, rhaid i weithredwr gadw cofnod o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Erthygl honno fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 67(4) o Reoliad 404/2011.
2
Rhaid cadw’r cofnod am dair blynedd o’r dyddiad y caiff y trafodyn ei gwblhau.
3
Mae’n drosedd i fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn.
Gofyniad i gyflwyno cofnodion9
Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio ag ail frawddeg Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009 yn euog o drosedd.
Cosbau10
Bydd person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 8 neu 9 yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Cymhwyso ac addasu’r Ddeddf11
Mae’r Atodlen (cymhwyso ac addasu’r Ddeddf) yn cael effaith.
Gorfodi12
1
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
2
Mae pob awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn ei ardal at ddibenion Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009 ac Erthygl 67(5) o Reoliad 404/2011.
Dirymu13
Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 201015 wedi eu dirymu.
ATODLENCymhwyso ac addasu’r Ddeddf
RHAN 1Cyffredinol
1
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol—
Adran o’r Ddeddf | Yr addasiad |
---|---|
Adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi’i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl) Adran 30(8)16 (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd) Adran 33 (rhwystro etc swyddogion) Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) | Yn yr adrannau hyn, yn lle “this Act”, ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013” |
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall) | Yn lle “any of the preceding provisions of this Part”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation Error! Reference source not found. of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, or regulation 8 or 9 of those Regulations” |
Adran 2117 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) | Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, or regulation 8 or 9 of those Regulations” Hepgorer is-adrannau (2) i (4) |
Adran 29 (caffael samplau) | Ym mharagraff (b)(ii), ar ôl “under section 32 below”, mewnosoder “as applied by regulation 13 of, and the Schedule to, the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013” |
Adran 3518 (cosbi troseddau) | Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “as applied by regulation 11 of, and the Schedule to, the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013” |
Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
| |
Yn is-adran (2)—
| |
Hepgorer is-adrannau (3) a (4) | |
Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol) | Yn lle “this Act”, rhodder “section 10(2) as applied by regulation 7 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013 or regulation 8 or 9 of those Regulations” |
RHAN 2Pwerau mynediad
2
At ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi i ganfod a oes unrhyw dramgwyddau, neu a oes unrhyw dramgwyddau wedi bod, o ran gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr neu ofynion gallu i olrhain, caiff adran 32 o’r Ddeddf19 (pwerau mynediad) ei addasu yn ei gymhwysiad i’r Rheoliadau hyn fel a ganlyn—
a
yn is-adran (1)(a), ar ôl “made under it” mewnosoder “, or of a consumer information requirement or a traceability requirement”;
b
ar ôl is-adran (9), mewnosoder—
10
In this section, “consumer information requirement” and “traceability requirement” have the meanings given by regulation 4(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)