NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gorfodi yng Nghymru ofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr Pennod 2 o Deitl I o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (OJ Rhif L 17, 21.1.2000, t 22) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy’n gosod rheolau manwl ar gymhwysiad Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 o ran hysbysu defnyddwyr am gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (OJ Rhif L 278, 23.10.2001, t 6). Maent hefyd yn gorfodi yng Nghymru ofynion gallu i olrhain Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1) ac Erthygl 67 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 gan sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (OJ Rhif L 112, 30.4.2011, t 1).

Mae rheoliad 4 yn nodi’r gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a’r gofynion gallu i olrhain.

Mae rheoliad 5 yn cymhwyso adran 10 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16) gydag addasiadau fel y gall swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad gwella i weithredwr sy’n methu â chydymffurfio â’r gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr neu ofynion gallu i olrhain. Mae rheoliad 6 yn cymhwyso adran 37 o’r Ddeddf honno gydag addasiadau fel y gall gweithredwr apelio yn erbyn cyflwyno hysbysiad gwella i lys yr ynadon. Mae rheoliad 7 yn cymhwyso adran 39 o’r Ddeddf i alluogi’r llys i naill ai ddileu neu gadarnhau hysbysiad gwella.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gadw cofnodion o wybodaeth a bennir yn Erthygl 58(4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 67(4) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011) ac mae’n creu trosedd am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw. Mae rheoliad 9 yn creu trosedd am fethu â chyflwyno’r cofnodion hynny ar alw yn groes i’r Erthygl honno.

Mae rheoliad 11 a’r Atodlen yn cymhwyso darpariaethau penodol eraill o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i’r Rheoliadau hyn gydag addasiadau canlyniadol.

Mae rheoliad 12 yn darparu bod yn rhaid i bob awdurdod bwyd yng Nghymru weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.