RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn, cymhwyso a rhychwant

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Medi 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 104/2000, Rheoliad 2065/2001, Rheoliad 1224/2009 a Rheoliad 404/2011;

ystyr “Rheoliad 104/2000” (“Regulation 104/2000”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu;

ystyr “Rheoliad 2065/2001” (“Regulation 2065/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 o ran hysbysu defnyddwyr am gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu;

ystyr “Rheoliad 1224/2009” (“Regulation 1224/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;

ystyr “Rheoliad 404/2011” (“Regulation 404/2011”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae’r cyfeiriadau at unrhyw un neu ragor o Reoliadau’r UE yn gyfeiriadau at Reoliadau’r UE dan sylw fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd; a

(b)mae gan y termau a ddefnyddir hefyd yn unrhyw un neu ragor o Reoliadau’r UE yr un ystyr ag a roddir yn Rheoliadau’r UE dan sylw.