xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain yng Nghymru

Dehongli Rhan 3

3.  Yn y Rhan hon, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990.

Gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain

4.—(1Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “gofyniad gwybodaeth i ddefnyddwyr” (“consumer information requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (7); a

(b)ystyr “gofyniad gallu i olrhain” (“traceability requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), yn ddarostyngedig i baragraff (7).

(2At ddibenion paragraff (1)(a), y gofynion yw—

(a)gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd â’r darpariaethau canlynol o Reoliad 2065/2001—

(i)Erthyglau 2 a 3 (dynodiad masnachol),

(ii)Erthygl 4(1) a (3) (dull cynhyrchu),

(iii)Erthygl 5 (cylch y ddalfa), a

(iv)Erthygl 6 (gwerthiannau cyfun);

(b)gofyniad a bennir yn Erthygl 58(6) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthyglau 67(13) a 68 o Reoliad 404/2011.

(3At ddibenion paragraff (1)(b), y gofynion yw Erthygl 58(2), (3) a (5) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(7) o’r Rheoliad hwnnw ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011.

(4Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 4(1) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 4(2) o Reoliad 2065/2001.

(5Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001 yn rhagwahardd nodi amrywiol Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd fel y’i disgrifir yn Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001.

(6Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff olaf Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000, fel y’i darllenir ar y cyd â brawddeg olaf Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, lle nad yw pob pryniant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 20 ewro mewn sterling neu, yn achos gwerthiant uniongyrchol o gwch pysgota, 50 ewro.

(7Nid yw’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2)(b) a (3) yn gymwys mewn amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 67(14) o Reoliad 404/2011, lle nad yw’r gwerthiant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 50 ewro y diwrnod mewn sterling.

Hysbysiad gwella

5.—(1Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.

(2Yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that an operator has not complied with, or is not likely to comply with, a consumer information requirement or a traceability requirement, the officer may, by notice served on that operator (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for believing that the operator is failing to comply with those requirements;

(b)specify the matters which constitute the operator’s failure so to comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the operator must take in order to secure compliance; and

(d)require the operator to take those measures, or measures which are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

(3Yn lle is-adran (3), rhodder—

(3) In this section—

(a)“consumer information requirement” and “traceability requirement” have the meanings given by regulation 4(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013;

(b)“operator” has the same meaning as in the EU Regulations as defined in regulation 2(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013 as read with regulation 2(2)(a) of those Regulations.

Apelio i lys ynadon

6.—(1Mae adran 37 o’r Ddeddf(1) (apelau i lys ynadon neu siryf) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.

(2Yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10, as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, may appeal to the magistrates’ court.

(3Hepgorer is-adrannau (2) i (5).

(4Yn is-adran (6), yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1)”.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella

7.—(1Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol.

(2Yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10, as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, the court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.

(3Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.

Gofyniad i gadw cofnodion

8.—(1At ddibenion Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009, rhaid i weithredwr gadw cofnod o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Erthygl honno fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 67(4) o Reoliad 404/2011.

(2Rhaid cadw’r cofnod am dair blynedd o’r dyddiad y caiff y trafodyn ei gwblhau.

(3Mae’n drosedd i fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn.

Gofyniad i gyflwyno cofnodion

9.  Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio ag ail frawddeg Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009 yn euog o drosedd.

Cosbau

10.  Bydd person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 8 neu 9 yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cymhwyso ac addasu’r Ddeddf

11.  Mae’r Atodlen (cymhwyso ac addasu’r Ddeddf) yn cael effaith.

Gorfodi

12.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

(2Mae pob awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn ei ardal at ddibenion Erthygl 58(4) o Reoliad 1224/2009 ac Erthygl 67(5) o Reoliad 404/2011.

Dirymu

13.  Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2010(2) wedi eu dirymu.

(1)

Diwygiwyd adran 37 gan adran 48(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15) a pharagraff 13(1) a (3) o Atodlen 8 iddi a chan adran 146 o’r Ddeddf honno, a Rhan 1 o Atodlen 23 iddi.

(2)

O.S. 2010/797 (Cy.78), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1043.