Rheoliad 11

ATODLENCymhwyso ac addasu’r Ddeddf

RHAN 1Cyffredinol

1.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau canlynol—

Adran o’r Ddeddf

Yr addasiad

Adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi’i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl)

Adran 30(8)(1) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)

Adran 33 (rhwystro etc swyddogion)

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)

Yn yr adrannau hyn, yn lle “this Act”, ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013”
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation Error! Reference source not found. of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, or regulation 8 or 9 of those Regulations”
Adran 21(2) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)

Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 5 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, or regulation 8 or 9 of those Regulations”

Hepgorer is-adrannau (2) i (4)

Adran 29 (caffael samplau)Ym mharagraff (b)(ii), ar ôl “under section 32 below”, mewnosoder “as applied by regulation 13 of, and the Schedule to, the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013”
Adran 35(3) (cosbi troseddau)Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “as applied by regulation 11 of, and the Schedule to, the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013”

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation Error! Reference source not found. of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013, is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.

Yn is-adran (2)—

(a)

yn lle’r geiriau “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2) as applied by regulation 11 of, and the Schedule to, the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013”;

(b)

ym mharagraff (b), yn lle “the relevant amount” rhodder “the statutory maximum”

Hepgorer is-adrannau (3) a (4)
Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)Yn lle “this Act”, rhodder “section 10(2) as applied by regulation 7 of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013 or regulation 8 or 9 of those Regulations”

RHAN 2Pwerau mynediad

2.  At ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi i ganfod a oes unrhyw dramgwyddau, neu a oes unrhyw dramgwyddau wedi bod, o ran gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr neu ofynion gallu i olrhain, caiff adran 32 o’r Ddeddf(4) (pwerau mynediad) ei addasu yn ei gymhwysiad i’r Rheoliadau hyn fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “made under it” mewnosoder “, or of a consumer information requirement or a traceability requirement”;

(b)ar ôl is-adran (9), mewnosoder—

(10) In this section, “consumer information requirement” and “traceability requirement” have the meanings given by regulation 4(1) of the Fish Labelling (Wales) Regulations 2013.

(1)

Diwygiwyd adran 30 gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.

(2)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(3)

Diwygiwyd adran 35 gan adran 280(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44) a pharagraff 42 o Atodlen 26 iddi ac O.S. 1996/2235 a 2004/3279.

(4)

Diwygiwyd adran 32 gan adran 70 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p.16) a pharagraff 18 o Ran 2 o Atodlen 2 iddi.