RHAN 2Gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain yng Nghymru

Gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain4

1

Yn y Rhan hon—

a

ystyr “gofyniad gwybodaeth i ddefnyddwyr” (“consumer information requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (7); a

b

ystyr “gofyniad gallu i olrhain” (“traceability requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), yn ddarostyngedig i baragraff (7).

2

At ddibenion paragraff (1)(a), y gofynion yw—

a

gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd â’r darpariaethau canlynol o Reoliad 2065/2001—

i

Erthyglau 2 a 3 (dynodiad masnachol),

ii

Erthygl 4(1) a (3) (dull cynhyrchu),

iii

Erthygl 5 (cylch y ddalfa), a

iv

Erthygl 6 (gwerthiannau cyfun);

b

gofyniad a bennir yn Erthygl 58(6) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthyglau 67(13) a 68 o Reoliad 404/2011.

3

At ddibenion paragraff (1)(b), y gofynion yw Erthygl 58(2), (3) a (5) o Reoliad 1224/2009 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(7) o’r Rheoliad hwnnw ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011.

4

Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 4(1) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 4(2) o Reoliad 2065/2001.

5

Nid yw’r gofyniad a bennir yn Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001 yn rhagwahardd nodi amrywiol Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd fel y’i disgrifir yn Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001.

6

Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff olaf Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000, fel y’i darllenir ar y cyd â brawddeg olaf Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, lle nad yw pob pryniant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 20 ewro mewn sterling neu, yn achos gwerthiant uniongyrchol o gwch pysgota, 50 ewro.

7

Nid yw’r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2)(b) a (3) yn gymwys mewn amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 67(14) o Reoliad 404/2011, lle nad yw’r gwerthiant yn fwy na’r hyn sy’n cyfateb i 50 ewro y diwrnod mewn sterling.