- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
4 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Chwefror 2013
Yn dod i rym
1 Mawrth 2013
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1).
Fel y mae’n ofynnol gan adran 39(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff hynny o gyfrifwyr yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Mawrth 2013.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (datganiad o gyfrifon) ym mharagraff (2)—
(a)yn lle is-baragraff (d) rhodder—
“(d)comisiynydd heddlu a throsedd;”;
(b)cyn is-baragraff (dd), mewnosoder—
“(da)prif gwnstabl a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(3);”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
4 Chwefror 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“Deddf 2004”) ac maent yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).
Mae Rheoliadau 2005 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae’n ofynnol i’w cyfrifon gael eu harchwilio yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 2004.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2005 drwy ddisodli’r cyfeiriad at awdurdodau heddlu gan gyfeiriad at gomisiynwyr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid. Bydd y cyrff hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i lunio datganiad o gyfrifon.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2013 ac maent yn cael effaith mewn perthynas â chyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13.
2004 p.23. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: