RHAN 1Rhagarweiniad
Enwi1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013.
Cymhwyso2
1
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2
Mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i ddaliad mewn parth perygl nitradau, a ddynodwyd fel y cyfryw gan y Rheoliadau hyn.
3
Yn achos daliad sydd yn rhannol mewn parth perygl nitradau a ddynodwyd fel y cyfryw gan y Rheoliadau hyn, mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i’r rhan o’r daliad sydd oddi mewn i’r parth, ac y mae cyfeiriad at ddaliad yn gyfeiriad at y rhan honno.
Dod i rym3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2013.
Mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau4
Mewn daliad neu ran o ddaliad na leolir o fewn parth perygl nitradau o dan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 20083 ond a leolir o fewn ardal a ddynodwyd yn barth perygl nitradau o dan y Rheoliadau hyn—
a
ni fydd rheoliadau 12 i 22, rheoliad 23(2), rheoliadau 24 a 25, 30 i 33 a rheoliadau 36 i 46 yn gymwys tan 1 Ionawr 2014;
b
ni fydd rheoliad 23(1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2016; ac
c
ni fydd rheoliadau 26 i 29 a 34 a 35 yn gymwys tan 1 Awst 2015.
Ystyr “dŵr llygredig”5
Mae dŵr wedi’i lygru—
a
os yw’n ddŵr croyw ac yn cynnwys crynodiad nitradau sy’n uwch na 50 mg/l, neu y gallai ei gynnwys pe na bai’r Rheoliadau hyn yn gymwys yno, neu
b
os yw’n ewtroffig neu y gallai ddod yn ewtroffig yn y dyfodol agos pe na bai’r Rheoliadau hyn yn gymwys yno.
Dehongli6
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “amaethyddiaeth” yr un ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947;
ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;
mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;
ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 14(1)(c);
ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;
ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;
ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir sydd o fewn parth perygl nitradau ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’r meddiannydd ac sy’n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dŵr sydd wedi’i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy’n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu’n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy’n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;
ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi’i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi’i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “porfa” (“grass”) yw—
- a
glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod llai na phedair blynedd);
- b
sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa; ac
- c
mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,
- d
ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50% neu ragor o feillion;
- a
“pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—
- a
yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—
- i
mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,
- ii
llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a
- iii
llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig; a
- i
- b
yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—
- i
mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm;
- ii
llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm;
- iii
llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;
- i
ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dŵr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda’r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi’u gwahanu i’w ffracsiynau hylifol a’u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw’r slyri);
- a
mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;
ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sydd â’u ffynhonnell yn anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw; ac
ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir:
- a
y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd);
- b
nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio); ac
- c
sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.
- a