25. Yn y Rhan hon ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” (“organic manure with high readily available nitrogen”) yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.
26. Yn ddarostyngedig i reoliadau 27 a 28, ni chaiff neb daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—
Hyd at 31 Rhag 2013 | Ar neu ar ôl 1 Ion 2014 | |||
---|---|---|---|---|
Math o bridd | Glaswelltir | Tir tro | Glaswelltir | Tir tro |
Pridd tywodlyd neu denau | 1 Medi i 31 Rhagfyr | 1 Awst i 31 Rhagfyr | 1 Medi i 31 Rhagfyr | 1 Awst i 31 Rhagfyr |
Pob math arall o bridd | 15 Hydref i 15 Ionawr | 1 Hydref I 15 Ionawr | 15 Hydref i 31 Ionawr | 1 Hydref i 31 Ionawr |
27. Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.
28. Caiff meddiannydd daliad sydd wedi’i gofrestru’n gynhyrchydd organig gyda chorff a gofrestrwyd gyda’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig(1) daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—
(a)ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu
(b)ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(2),
ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.
29. O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—
(a)30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg; a
(b)rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.
30.—(1) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—
(a)yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu
(b)yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.
(2) Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.
(3) Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
Corff cyhoeddus anadrannol anweithredol yw’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig, sy’n cymeradwyo cyrff arolygu organig.
Gweinyddir y cynllun gan Basis Registration Ltd, a gellir cael rhestr o bersonau cymwysedig drwy wneud cais i’r cwmni, neu ar ei wefan, www.basis-reg.com.