Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

  • Sch. 6 applied in part (with modifications) by S.I. 2023/959 reg. 4(b) Sch. 2 (This amendment not applied to legislation.gov.uk. Amended S.I. does not contain a Sch. 6.)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1.  Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliadau canlynol yr UE—LL+C

(a)Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt (OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1);

(b)Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7);

(c)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16);

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34).

2.  Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd (OJ Rhif L141, 6.6.2009, t.3).LL+C

3.  Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, y Rheoliadau a ganlyn—LL+C

(a)Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658);

(b)Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1350 (Cy.98));

(c)Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/23315 (Cy.186));

(d)Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy.299));

(e)Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300));

(f)Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1198 (Cy.2922)).

4.  Mae’r Rheoliadau hyn, yn Rhan 2, yn darparu mai trosedd, yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau trosiannol sy’n gymwys, yw torri gofynion penodol yn y canlynol neu ddefnyddio cynnyrch neu osod ar y farchnad gynnyrch sy’n torri gofynion penodol yn y canlynol—LL+C

(a)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 ynghylch ychwanegion bwyd (rheoliad 3 a Thabl 1 o Atodlen 1);

(b)Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 ynghylch cyflasynnau bwyd a bwydydd ac iddynt briodweddau cyflasyn (rheoliad 4 a Thabl 1 o Atodlen 2);

(c)Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 ynghylch cyflasynnau mwg (rheoliad 5 a Thabl 1 o Atodlen 3); a

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 ynghylch ensymau bwyd (rheoliad 6 a Thabl 1 o Atodlen 4).

5.  Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu yn Rhan 2 y caiff swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi, yn achos mathau penodol o ddiffyg cydymffurfio, o ran labelu, gyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gamau penodol gael eu cymryd, ac yn niffyg hynny y bydd trosedd wedi ei gyflawni (rheoliad 7 a Thabl 2 o Atodlenni 1 i 4). Caiff person y cyflwynir hysbysiad gwella iddo apelio yn ei erbyn i lys ynadon (rheoliad 8).LL+C

6.  Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC ynghylch toddyddion echdynnu, drwy wneud y canlynol yn benodol—LL+C

(a)pennu’r amgylchiadau lle nad yw’r rheolaethau ar doddyddion echdynnu yn gymwys (rheoliad 10);

(b)diffinio beth yw toddydd echdynnu a ganiateir (rheoliad 11);

(c)gwahardd unrhyw berson rhag defnyddio toddydd echdynnu heblaw toddydd echdynnu a ganiateir, fel y’i diffinnir, wrth gynhyrchu bwyd (rheoliad 12);

(d)gwahardd unrhyw berson rhag gosod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir neu nad oes gwybodaeth benodol yn cyd-fynd ag ef ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label (rheoliadau 13 a 14).

7.  Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 4 —LL+C

(a)yn dynodi’r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys at ddibenion ceisiadau am awdurdodi cyflasyn mwg (rheoliad 15);

(b)yn rhoi’r ddyletswydd o orfodi’r Rheoliadau hyn i awdurdodau bwyd (rheoliad 16);

(c)yn darparu ar gyfer y gosb uchaf y gall person fod yn agored iddi o’i gollfarnu am drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 17);

(d)yn darparu, lle’r ardystir bod bwyd yn fwyd y mae’n drosedd ei osod ar y farchnad, y trinnir y bwyd at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel petai’n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 18); ac

(e)yn cymhwyso, ag addasiadau penodol, amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 19).

8.  Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 5 —LL+C

(a)yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 20); a

(b)yn dirymu offerynnau penodol yn gyfan gwbl neu’n rhannol (rheoliad 21 ac Atodlen 5).

9.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.LL+C

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources