xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Ychwanegion, cyflasynnau ac ensymau bwyd

Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ychwanegion bwyd

3.  Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1333/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 1, fel y’i darllenir gyda mesurau trosiannol a geir yn y Rheoliad hwnnw neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch cyflasynnau, gan gynnwys cyflasynnau mwg

4.  Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1334/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 2, fel y’i darllenir gydag Erthygl 4 (sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 872/2012 yn mabwysiadu’r rhestr o sylweddau cyflasu y darperir ar ei chyfer gan Reoliad (EC) Rhif 2232/96 Senedd Ewrop a’r Cyngor(1) a chyda mesurau trosiannol a geir yn Rheoliad 1334/2008 neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

5.  Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 2065/2003 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 3, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ensymau bwyd

6.  Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1332/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 4, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 18 a 24 (mesurau trosiannol) neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

Hysbysiadau gwella – cymhwyso is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

7.—(1Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a provision of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013 specified in paragraph (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

(1A) Any EU provision specified in the first column of Table 2 of—

(a)Schedule 1;

(b)Schedule 2;

(c)Schedule 3; or

(d)Schedule 4; or

(e)regulation 13(2).

Apelio yn erbyn hysbysiad gwella – cymhwyso is-adrannau (1) a (6) o adran 37 ac adran 39 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

8.—(1Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelio) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by rheoliad 7 of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013, may appeal to a magistrates court.; a

(b)yn is-adran (6), yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1), (3) or (4)”.

(1)

OJ Rhif L267, 2.10.2012, t.1.