I1ATODLEN 1Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1333/2008
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 4.1 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 11.3 ac 11.4, 12, 13.2 a 18.1(a), 18.2 a 18.3) | Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008 a osodir ar y farchnad fel y cyfryw, ac y’u defnyddir yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Erthyglau hynny a’r Atodiad hwnnw. |
Erthygl 4.2 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12, 13.2 a 18.3) | Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad III i Reoliad 1333/2008 y caniateir eu defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion a hynny o dan yr amodau defnyddio a bennir yn yr Atodiad hwnnw. |
Erthygl 4.5 | Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd gydymffurfio â’r manylebau y cyfeirir atynt yn Erthygl 14 o Reoliad 1333/2008. |
Erthygl 5 | Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ychwanegion bwyd neu fwyd sy’n cynnwys ychwanegion bwyd, os nad yw defnyddio’r ychwanegyn bwyd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008. |
Erthygl 11.2 | Gofyniad bod rhaid defnyddio ychwanegion bwyd yn unol ag egwyddor quantum satis pan nad oes lefel uchaf rhifiadol wedi ei phennu ar gyfer yr ychwanegyn o dan sylw. |
Erthygl 15 | Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd nas prosesir ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008. |
Erthygl 16 | Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc (gan gynnwys bwydydd dietegol i fabanod a phlant ifanc at ddibenion meddygol arbennig) ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008. |
Erthygl 17 | Gofyniad bod rhaid defnyddio dim ond y lliwiau bwyd hynny a restrir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008, at ddibenion marcio iechyd ar gig neu gynhyrchion cig, lliwio addurniadol ar blisgyn wyau neu stampio plisgyn wyau. |
Erthygl 18.1(b) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2) | Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwyd yr ychwanegwyd ychwanegyn bwyd, ensym bwyd neu gyflasyn bwyd ato, onid yw’r ychwanegyn yn un a ganiateir yn yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn o dan Reoliad 1333/2008, ei fod wedi ei gludo drosodd i’r bwyd drwy gyfrwng yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn, ac nad oes iddo swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol. |
Erthygl 18.1(c) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2) | Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwydydd sydd i’w defnyddio yn unig i baratoi bwyd cyfansawdd, oni fydd y bwyd cyfansawdd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008. |
Erthygl 18.4 | Gofyniad na chaniateir defnyddio ychwanegion bwyd yn felysyddion mewn bwydydd cyfansawdd sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is, bwydydd dietegol cyfansawdd a fwriedir ar gyfer dietau calorïau isel, bwydydd cyfansawdd gwrth-gariogenig a bwydydd cyfansawdd sydd ag oes silff estynedig, oni fydd y melysydd yn un a ganiateir yn unrhyw un o gynhwysion y bwyd cyfansawdd. |
Erthygl 26.1 | Gofyniad bod rhaid i gynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd hysbysu’r Comisiwn ar unwaith ynghylch unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar yr asesiad o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd o dan sylw. |
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22) | Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol gael eu labelu, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad 1333/2008, yn weladwy, yn glir i’w darllen ac yn annileadwy mewn iaith a ddeellir yn hawdd gan y prynwyr. |
Erthygl 23.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.2 and 23.5) | Gwaharddiad ar farchnata ychwanegion bwyd, a werthir yn unigol neu’n gymysg â’i gilydd a/neu’n gymysg â chynhwysion bwyd eraill, ac y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol, oni ddangosir gwybodaeth benodedig ar eu pecynnau. |
Erthygl 23.3 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.5) | Gofyniad bod y labeli ar felysyddion pen-bwrdd sy’n cynnwys polyolau a/neu aspartame a/neu halen aspartame – acesulfame yn cynnwys rhybuddion penodedig |
Erthygl 23.4 | Gofyniad bod rhaid i weithgynhyrchwyr melysyddion pen-bwrdd drefnu, drwy fodd priodol, fod yr wybodaeth ar gael sy’n angenrheidiol er mwyn i ddefnyddwyr eu defnyddio’n ddiogel. |
Erthygl 24.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 24.2) | Gofyniad y dylai labeli’r bwyd sy’n cynnwys y lliwiau a restrir yn Atodiad V gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodiad hwnnw. |
Erthygl 26.2 | Gofyniad bod cynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd, ar gais y Comisiwn, yn ei hysbysu ynghylch y defnydd gwirioneddol o’r ychwanegyn bwyd o dan sylw |
Atod. 1 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1