4. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1334/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 2, fel y’i darllenir gydag Erthygl 4 (sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 872/2012 yn mabwysiadu’r rhestr o sylweddau cyflasu y darperir ar ei chyfer gan Reoliad (EC) Rhif 2232/96 Senedd Ewrop a’r Cyngor(1) a chyda mesurau trosiannol a geir yn Rheoliad 1334/2008 neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
OJ Rhif L267, 2.10.2012, t.1.