2013 No. 2591 (Cy. 255)
Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a),(e) ac (f),17(1) a (2), 26(1), (2)(e) ac (f) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2, fel y’u darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a bennir yn rheoliad 2(4) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.
Yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd4, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu paratoi a’u gwerthuso.
RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi, cymhwyso a chychwynI11
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Hydref 2013.
DehongliI22
1
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw —
- a
cyngor sir; a
- b
cyngor bwrdeistref sirol;
- a
ystyr “Cyfarwyddeb 2009/32” (“Directive 2009/32”) yw Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd5;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Rheoliad 2065/2003” (“Rheoliad2065/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt6;
ystyr “Rheoliad 1332/2008” (“Rheoliad1332/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd 7;
ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd8, fel y’i darllenir gyda’r canlynol —
- a
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1129/2011 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd9,
- b
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1130/2011 sy’n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion10, ac
- c
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n nodi manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor11;
- a
ystyr “Rheoliad 1334/2008” (“Rheoliad 1334/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn bwyd i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt12, fel y’i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 873/2012 ynghylch mesurau trosiannol sy’n ymwneud â rhestr yr Undeb o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell a nodir yn Atodiad I i Reoliad (EC) 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor13;
ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 2065/2003, Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi mewn ysgrifen, naill ai yn gyffredinol neu’n benodol, gan awdurdod bwyd i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn.
2
Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn offerynnau’r UE sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (4) yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offerynnau hynny.
3
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a restrir ym mharagraff (4) yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.
4
Offerynnau’r UE yw Cyfarwyddeb 2009/32, Rheoliad 2065/2003, Rheoliad (EC) Rhif 1331/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ynglŷn ag ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd14, Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008.
5
Pan aseinir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—
a
drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 198415, i awdurdod iechyd porthladd; neu
b
drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 193616, i gyd-fwrdd ardal unedig;
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i’w ddehongli, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu haseinio felly iddo.
RHAN 2Ychwanegion, cyflasynnau ac ensymau bwyd
Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ychwanegion bwydI33
Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1333/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 1, fel y’i darllenir gyda mesurau trosiannol a geir yn y Rheoliad hwnnw neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch cyflasynnau, gan gynnwys cyflasynnau mwg
I44
Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1334/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 2, fel y’i darllenir gydag Erthygl 4 (sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 872/2012 yn mabwysiadu’r rhestr o sylweddau cyflasu y darperir ar ei chyfer gan Reoliad (EC) Rhif 2232/96 Senedd Ewrop a’r Cyngor17 a chyda mesurau trosiannol a geir yn Rheoliad 1334/2008 neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
I55
Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 2065/2003 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 3, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ensymau bwydI66
Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1332/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 4, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 18 a 24 (mesurau trosiannol) neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Hysbysiadau gwella – cymhwyso is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990I77
1
Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn.
2
Yn lle is-adran (1), rhodder—
1
If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a provision of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013 specified in paragraph (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
a
state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;
b
specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;
c
specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
d
require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.
1A
Any EU provision specified in the first column of Table 2 of—
a
Schedule 1;
b
Schedule 2;
c
Schedule 3; or
d
Schedule 4; or
e
regulation 13(2)
Apelio yn erbyn hysbysiad gwella – cymhwyso is-adrannau (1) a (6) o adran 37 ac adran 39 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990I88
1
Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelio) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn—
a
yn lle is-adran (1), rhodder—
1
Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by rheoliad 7 of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013, may appeal to a magistrates court.
b
yn is-adran (6), yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1), (3) or (4)”.
RHAN 3Toddyddion echdynnu
Rheolaethau ar doddyddion echdynnu
I99
Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2009/32.
I1010
Nid yw darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys i unrhyw doddydd echdynnu—
a
a ddefnyddir wrth gynhyrchu unrhyw ychwanegion bwyd, fitaminau neu unrhyw ychwanegion maethol eraill, oni bai bod yr ychwanegion bwyd, y fitaminau neu’r ychwanegion maethol eraill hynny wedi eu rhestru yn Atodiad I; neu
b
y bwriedir ei allforio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
I1111
Yn y Rhan hon ystyr “toddydd echdynnu a ganiateir” yw —
a
toddydd echdynnu—
i
a restrir yn Atodiad I,
ii
a ddefnyddir yn unol â’r amodau defnyddio ac o fewn unrhyw derfynau uchaf ynglŷn â gweddillion a bennir yn yr Atodiad hwnnw,
iii
nad yw’n cynnwys swm sy’n beryglus yn wenwynegol o unrhyw elfen neu sylwedd,
iv
nad yw, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau sy’n deillio o feini prawf penodol ynglŷn â phurdeb, yn cynnwys mwy nag 1 mg/kg o arsenig neu fwy nag 1 mg/kg o blwm, a
v
sy’n bodloni gofynion Erthygl 3(c) o ran y meini prawf ynglŷn â phurdeb; neu
b
dŵr y gall sylweddau sy’n rheoleiddio asidedd neu alcalinedd fod wedi eu hychwanegu iddo; neu
c
sylweddau bwyd sydd â phriodweddau toddydd.
I1212
Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir yn doddydd echdynnu wrth gynhyrchu bwyd.
I1313
1
Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad—
a
toddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir; na
b
unrhyw fwyd ac ynddo neu arno doddydd echdynnu wedi ei ychwanegu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir.
2
Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 14.
I1414
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r wybodaeth a ganlyn ymddangos ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label —
a
yr enw masnachol fel y’i nodir yn Atodiad I;
b
awgrym clir bod y deunydd o ansawdd sy’n addas i’w defnyddio at echdynnu bwyd neu gynhwysion bwyd;
c
cyfeiriad a all gael ei ddefnyddio i adnabod y swp neu’r lot;
d
enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd neu’r paciwr neu enw neu enw busnes a chyfeiriad gwerthwr sydd wedi ei sefydlu yn nhiriogaeth yr UE;
e
y swm net ar ffurf unedau o gyfaint; ac
f
os oes angen hynny, yr amodau storio arbennig neu’r amodau defnyddio.
2
Caniateir i’r manylion a bennir yn is-baragraffau (c), (d), (e) ac (f) o baragraff (1) ymddangos fel arall ar y dogfennau masnach sy’n cyfeirio at y swp neu’r lot y maent i’w cyflenwi gydag ef wrth eu dosbarthu neu cyn eu dosbarthu.
3
Rhaid i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) fod yn hawdd i’w weld, yn glir i’w ddarllen ac yn annileadwy.
4
Caniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) gael ei darparu mewn mwy nag un iaith, ond rhaid i un o leiaf o’r ieithoedd hynny fod yn hawdd i’r prynwr ei deall oni bai bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau bod y prynwr yn cael gwybod am yr wybodaeth benodedig.
RHAN 4Gweinyddu a gorfodi
Awdurdodau cymwysI1515
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad 2065/2003.
Awdurdodau gorfodiI1616
Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau’r UE yn ei ardal neu ei ranbarth.
Troseddu a chosbiI1717
1
Mae unrhyw berson sy’n torri rheoliad 12 neu 13(1) yn cyflawni trosedd.
2
Mae unrhyw berson sy’n euog o drosedd o dan reoliad 3, 4, 5, 6 neu 17(1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Condemnio bwydI1818
Os bydd dadansoddydd bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y mae’n drosedd ei osod ar y farchnad, rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o’r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a’i ddifa ar orchymyn ynad heddwch odani) fel bwyd sy’n methu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990I1919
1
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
a
adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
b
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)18 gyda’r addasiad—
i
bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran trosedd o dan reoliad 3, 4, 5, 6, 7(4) neu 17(1) fel y maent yn gymwys o ran trosedd o dan adran 14 neu 15, a
ii
y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4) at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
c
adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
d
adran 35(1) (cosbi troseddau)19, i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan baragraff (3)(b);
e
adran 35(2) a (3)20, i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (2)(c);
f
adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol); ac
g
adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)21.
2
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at Reoliadau’r UE a’r Rheoliadau hyn—
a
adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta) gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn y drefn honno;
b
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
c
adran 33(2), gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (b); a
d
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll).
3
Mae adran 34 o’r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i droseddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae’n gymwys i droseddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o’r Ddeddf.
RHAN 5Cyffredinol
Diwygiadau canlyniadol ac eraillI2020
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 199622, yn y diffiniad o “the additives regulations” hepgorer yr ymadrodd “the Food Additives (Wales) Regulations 2009,”.
DirymuI2121
Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 5 i’r graddau a bennir yn yr ail golofn.
I22ATODLEN 1Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1333/2008
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 4.1 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 11.3 ac 11.4, 12, 13.2 a 18.1(a), 18.2 a 18.3) | Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008 a osodir ar y farchnad fel y cyfryw, ac y’u defnyddir yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Erthyglau hynny a’r Atodiad hwnnw. |
Erthygl 4.2 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12, 13.2 a 18.3) | Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad III i Reoliad 1333/2008 y caniateir eu defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion a hynny o dan yr amodau defnyddio a bennir yn yr Atodiad hwnnw. |
Erthygl 4.5 | Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd gydymffurfio â’r manylebau y cyfeirir atynt yn Erthygl 14 o Reoliad 1333/2008. |
Erthygl 5 | Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ychwanegion bwyd neu fwyd sy’n cynnwys ychwanegion bwyd, os nad yw defnyddio’r ychwanegyn bwyd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008. |
Erthygl 11.2 | Gofyniad bod rhaid defnyddio ychwanegion bwyd yn unol ag egwyddor quantum satis pan nad oes lefel uchaf rhifiadol wedi ei phennu ar gyfer yr ychwanegyn o dan sylw. |
Erthygl 15 | Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd nas prosesir ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008. |
Erthygl 16 | Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc (gan gynnwys bwydydd dietegol i fabanod a phlant ifanc at ddibenion meddygol arbennig) ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008. |
Erthygl 17 | Gofyniad bod rhaid defnyddio dim ond y lliwiau bwyd hynny a restrir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008, at ddibenion marcio iechyd ar gig neu gynhyrchion cig, lliwio addurniadol ar blisgyn wyau neu stampio plisgyn wyau. |
Erthygl 18.1(b) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2) | Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwyd yr ychwanegwyd ychwanegyn bwyd, ensym bwyd neu gyflasyn bwyd ato, onid yw’r ychwanegyn yn un a ganiateir yn yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn o dan Reoliad 1333/2008, ei fod wedi ei gludo drosodd i’r bwyd drwy gyfrwng yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn, ac nad oes iddo swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol. |
Erthygl 18.1(c) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2) | Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwydydd sydd i’w defnyddio yn unig i baratoi bwyd cyfansawdd, oni fydd y bwyd cyfansawdd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008. |
Erthygl 18.4 | Gofyniad na chaniateir defnyddio ychwanegion bwyd yn felysyddion mewn bwydydd cyfansawdd sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is, bwydydd dietegol cyfansawdd a fwriedir ar gyfer dietau calorïau isel, bwydydd cyfansawdd gwrth-gariogenig a bwydydd cyfansawdd sydd ag oes silff estynedig, oni fydd y melysydd yn un a ganiateir yn unrhyw un o gynhwysion y bwyd cyfansawdd. |
Erthygl 26.1 | Gofyniad bod rhaid i gynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd hysbysu’r Comisiwn ar unwaith ynghylch unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar yr asesiad o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd o dan sylw. |
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22) | Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol gael eu labelu, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad 1333/2008, yn weladwy, yn glir i’w darllen ac yn annileadwy mewn iaith a ddeellir yn hawdd gan y prynwyr. |
Erthygl 23.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.2 and 23.5) | Gwaharddiad ar farchnata ychwanegion bwyd, a werthir yn unigol neu’n gymysg â’i gilydd a/neu’n gymysg â chynhwysion bwyd eraill, ac y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol, oni ddangosir gwybodaeth benodedig ar eu pecynnau. |
Erthygl 23.3 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.5) | Gofyniad bod y labeli ar felysyddion pen-bwrdd sy’n cynnwys polyolau a/neu aspartame a/neu halen aspartame – acesulfame yn cynnwys rhybuddion penodedig |
Erthygl 23.4 | Gofyniad bod rhaid i weithgynhyrchwyr melysyddion pen-bwrdd drefnu, drwy fodd priodol, fod yr wybodaeth ar gael sy’n angenrheidiol er mwyn i ddefnyddwyr eu defnyddio’n ddiogel. |
Erthygl 24.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 24.2) | Gofyniad y dylai labeli’r bwyd sy’n cynnwys y lliwiau a restrir yn Atodiad V gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodiad hwnnw. |
Erthygl 26.2 | Gofyniad bod cynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd, ar gais y Comisiwn, yn ei hysbysu ynghylch y defnydd gwirioneddol o’r ychwanegyn bwyd o dan sylw |
I23ATODLEN 2Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1334/2008
Atod. 2 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1334/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 4 | Gofyniad bod rhaid i’r defnydd ar gyflasynnau bwyd neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn beidio â pheri risg i ddiogelwch na chamarwain y defnyddiwr. |
Erthygl 5 | Gwaharddiad ar osod cyflasynnau nad ydynt yn cydymffurfio neu fwyd nad yw’n cydymffurfio ar y farchnad. |
Erthygl 6.1 (fel y’i darllenir gyda Rhan A o Atodiad III) | Gwaharddiad ar ychwanegu sylweddau penodol a bennwyd fel y cyfryw mewn bwydydd. |
Erthygl 6.2 (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad III) | Gofyniad na ddylai sylweddau penodol sy’n bresennol yn naturiol mewn cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn fod yn uwch na lefelau penodedig mewn bwydydd cyfansawdd o ganlyniad i ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn. |
Erthygl 7.1 (fel y’i darllenir gyda Rhan A o Atodiad IV) | Gwaharddiad ar ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell penodol i gynhyrchu cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn. |
Erthygl 7.2 (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad IV) | Cyfyngiadau ar ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn a gynhyrchir o ddeunyddiau ffynhonnell penodol. |
Erthygl 10 | Cyfyngiad ar osod ar y farchnad neu ddefnyddio cyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell sydd heb eu cynnwys ar restr yr Undeb. |
Erthygl 19.2 | Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr cyflasyn a gymeradwywyd sy’n cael ei baratoi drwy ddulliau cynhyrchu neu drwy ddefnyddio deunyddiau cychwynnol sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynhwyswyd yn yr asesiad risg gyflwyno’r data angenrheidiol i’r Comisiwn i ganiatáu gwerthusiad o ran y dull cynhyrchu neu’r priodweddau diwygiedig cyn marchnata’r cyflasyn. |
Erthygl 19.3 | Gofyniad ar weithredwyr busnesau bwyd i hysbysu’r Comisiwn ar unwaith os cânt wybod am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar asesiad diogelwch sylwedd cyflasu. |
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1334/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 14.1 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15 ac 16) | Gofynion ynghylch labelu cyflasynnau na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol. |
Erthygl 17 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15.1(a) ac (16) | Gofynion ynghylch labelu cyflasynnau y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol. |
I24ATODLEN 3Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 2065/2003
Atod. 3 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 2065/2003 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 4.2 | Gwaharddiad ar farchnata cyflasyn mwg nad yw ar y rhestr o gyflasynnau mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o’r fath yn bresennol ynddo neu arno. |
Erthygl 4.2 | Gwaharddiad ar farchnata cyflasyn mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o’r fath yn bresennol ynddo neu arno, ac eithrio yn unol ag unrhyw amodau defnyddio a osodwyd yn yr awdurdodiad. |
Erthygl 5.1, yr is-baragraff cyntaf | Gwaharddiad ar ddefnyddio pren wedi ei drin, oni ellir dangos drwy dystysgrif neu ddogfennaeth briodol nad yw’r sylwedd a ddefnyddir i drin y pren yn peri sylweddau a allai fod yn wenwynig wrth iddo ymlosgi. |
Erthygl 5.1, yr ail is-baragraff | Gofyniad bod rhaid gallu dangos drwy ddogfennaeth neu dystysgrif y cydymffurfiwyd â’r gwaharddiad ym mharagraff cyntaf Erthygl 5.1 |
Erthygl 5.2, y frawddeg gyntaf | Gofyniad bod rhaid cydymffurfio â’r amodau yn Atodiad 1 wrth gynhyrchu cynhyrchion sylfaenol (cyddwysiadau mwg sylfaenol neu ffracsiynau tar sylfaenol) |
Erthygl 5.2, yr ail frawddeg | Gwaharddiad ar ddefnyddio’r cyfnod olewaidd annhoddadwy mewn dŵr wrth gynhyrchu cyflasynnau mwg. |
Erthygl 9.4 | Gofyniad bod rhaid i ddeiliad awdurdodiad neu unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, sy’n defnyddio cynnyrch awdurdodedig, neu gyflasyn mwg deilliedig a gynhyrchir o gynnyrch awdurdodedig, gydymffurfio ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad |
Erthygl 9.5 | Gofyniad bod rhaid i ddeiliad awdurdodiad hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy’n ymwneud â chynnyrch awdurdodedig, ac a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y cynnyrch awdurdodedig hwnnw |
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 2065/2003 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 13.1 | Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau y trosglwyddir yr wybodaeth benodedig i’r gweithredydd busnes bwyd sy’n derbyn y cynnyrch pan osodir y cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf |
Erthygl 13.2 | Gofyniad, yn sgil gosod cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf, fod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sy’n gosod y cynhyrchion ar y farchnad drosglwyddo’r wybodaeth benodedig yn Erthygl 13.1 i’r gweithredwyr busnes bwyd sy’n derbyn y cynnyrch, bob tro y rhoddir y cynnyrch ar y farchnad |
I25ATODLEN 4Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1332/2008
Atod. 4 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1332/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 4 | Gofyniad na chaniateir gosod ensymau bwyd ar y farchnad fel y cyfryw na’u defnyddio mewn bwydydd oni bai eu bod yn ymddangos yn rhestr yr Undeb o ensymau awdurdodedig y darperir ar ei chyfer yn Erthygl 17 ac yn unol â’r manylebau a’r amodau defnyddio penodedig. |
Erthygl 5 | Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ensymau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio neu fwydydd sy’n cynnwys ensymau o’r fath nad ydynt yn cydymffurfio â Rheoliad 1332/2008 a’i fesurau gweithredu. |
Erthygl 14.1 | Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr ensym bwyd hysbysu’r Comisiwn ar unwaith am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar ei asesiad diogelwch. |
Erthygl 14.2 | Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr ensym bwyd a gymeradwywyd sy’n cael ei baratoi drwy ddulliau cynhyrchu neu drwy ddefnyddio deunyddiau cychwynnol sy’n wahanol i’r rhai a gynhwyswyd yn yr asesiad risg gyflwyno’r data angenrheidiol i’r Comisiwn i ganiatáu gwerthusiad o ran y dull cynhyrchu neu’r priodweddau diwygiedig cyn marchnata’r ensym. |
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1332/2008 | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 10.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 11) | Gofynion ynghylch labelu ensymau a pharatoadau bwyd na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol. |
Erthygl 12.1 | Gofynion ynghylch labelu ensymau a pharatoadau bwyd y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol. |
I26ATODLEN 5Dirymu
Atod. 5 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
Enw’r offeryn | Graddfa’r dirymu |
---|---|
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/1440) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/2257) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1849 (Cy.199)) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1350 (Cy.98)) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/2315 (Cy.186)) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Ensymau Bwyd 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy.299)) | Rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7(2)(b) ac 8 |
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300)) | Pob darpariaeth ac eithrio rheoliadau 1, 2, 18(4) a 19 |
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/655 (Cy.93)) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/1450 (Cy.172)) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) (O.S. 2012/1198 (Cy.148)) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2922 (Cy.243)) | Pob darpariaeth ac eithrio rheoliadau 1, 2 a 7. |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Atod. 1 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1