Labelu sudd ffrwythau a wnaed yn rhannol o ddwysfwyd12

1

Rhaid i berson beidio â masnachu mewn sudd ffrwythau sy’n cynnwys cymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd oni bai bod ei label yn dwyn y geiriau “partially from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially from concentrates”.

2

Rhaid i’r geiriad y mae paragraff (1) yn gofyn amdano ymddangos yn agos i enw’r cynnyrch mewn nodau sy’n eglur i’w gweld ac sy’n cyferbynnu’n dda â’r cefndir y mae’n ymddangos arno.