Dehongli yn gyffredinol3
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blas” (“flavour”), ac eithrio ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a Rhan 2 o Atodlen 7, yw blas at adfer—
- a
a geir wrth i ffrwythau gael eu prosesu drwy ddefnyddio prosesau ffisegol addas (gan gynnwys gwasgu, tynnu, distyllu, hidlo, arsugno, anweddu, ffracsiynu a dwysáu) er mwyn cael, diogelu, preserfio neu sefydlogi ansawdd y blas, a
- b
sy’n olew sy’n cael ei wasgu yn oer o groen sitrws neu sy’n gyfansoddion o gerrig ffrwythau neu a geir o rannau bwytadwy’r ffrwyth;
- a
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/112/EC” (“Directive2001/112/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy’n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion penodol tebyg a fwriedir i bobl eu hyfed 12;
ystyr “cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional ingredient”) yw cynhwysyn ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 8;
ystyr “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yw unrhyw rai o’r canlynol—
- a
sudd ffrwythau;
- b
sudd ffrwythau o ddwysfwyd;
- c
sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu;
- d
sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono;
- e
sudd ffrwythau dadhydredig;
- f
sudd ffrwythau powdr; a
- g
neithdar ffrwythau;
- a
ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “ffrwyth” neu “ffrwythau” (“fruit”) yw unrhyw fath o ffrwyth (gan gynnwys tomatos) sy’n iach, yn briodol o aeddfed, ac yn ffres neu wedi ei breserfio drwy gyfrwng—
- a
dull ffisegol, neu
- b
triniaeth, gan gynnwys triniaeth ar ôl eu cynaeafu;
- a
mae i “mêl” yr ystyr a roddir i “honey” ym mhwynt 1 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy’n ymwneud â mêl 13;
mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny
ystyr “mwydion neu gelloedd” (“pulp or cells”) yw—
- a
o ran ffrwythau sitrws, y codenni sudd a geir o’r endocarp, neu
- b
o ran unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o’r rhannau bwytadwy o’r ffrwyth heb dynnu’r sudd;
- a
ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw’r cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy brosesau ffisegol addas megis hidlo, malu neu felino’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan neu’r ffrwyth wedi ei bilio heb dynnu’r sudd;
ystyr “piwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu” (“concentrated fruit purée”) yw’r cynnyrch a geir o biwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o’r dŵr sydd ynddo, ac, os oes blas wedi ei adfer iddo, y mae’r blas hwnnw wedi ei adennill o’r un rhywogaeth o ffrwyth;
ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Rheoliad1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n dirymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC14;
ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd15;
ystyr “siwgrau” (“sugars”) yw unrhyw rai o’r canlynol—
- a
siwgrau fel y’u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy’n ymwneud â siwgrau penodol a fwriedir i bobl eu bwyta16;
- b
surop ffrwctos;
- c
siwgrau sy’n deillio o ffrwythau;
- a
ystyr “sylwedd ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional substance”) yw sylwedd ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 9; ac
ystyr “triniaeth awdurdodedig” (“authorisedtreatment”) yw triniaeth a restrwyd yn Atodlen 10.
2
Mae i unrhyw ymadrodd arall sydd heb ei ddiffinio yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Gyfarwyddeb honno.
3
Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau’r UE a restrwyd yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o dro i dro.