RHAN 2Absenoldeb newydd-anedig

Amodau rhagnodedig

9.—(1At ddibenion adran 25(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw bod yr aelod—

(a)naill ai—

(i)yn dad i’r plentyn ac yn gyfrifol am fagu’r plentyn, neu’n disgwyl bod â chyfrifoldeb o’r fath; neu

(ii)yn briod â mam y plentyn, yn bartner sifil iddi neu’n bartner iddi, ond heb fod yn dad i’r plentyn, ac yn bennaf gyfrifol (heblaw am unrhyw gyfrifoldeb ar y fam) am fagu’r plentyn, neu’n disgwyl bod â chyfrifoldeb o’r fath; a

(b)yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i’r cyfnod o absenoldeb newydd-anedig ddechrau.

(2Mae aelod i’w drin fel pe bai’n bodloni’r amod ym mharagraff (1)(a)(ii) pe bai’r aelod hwnnw wedi bodloni’r amod heblaw am y ffaith bod mam y plentyn wedi marw.

(3Mae aelod i’w drin fel pe bai’n bodloni’r naill amod neu’r llall ym mharagraff (1)(a) pe bai wedi bodloni’r amod heblaw am y ffaith bod y plentyn yn farw-anedig ar ôl 24 o wythnosau o feichiogrwydd neu wedi marw.

Rhychwant yr hawl i absenoldeb newydd-anedig

10.—(1Mae gan aelod hawl i ddwy wythnos olynol o absenoldeb newydd-anedig.

(2Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i’r un beichiogrwydd, nid oes gan aelod yr hawl i absenoldeb newydd-anedig ond mewn perthynas â’r plentyn cyntaf-anedig.

Pryd y caniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig

11.  Ni chaniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig ond os yw’n cael ei gymryd yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau ar ddyddiad geni’r plentyn; a

(b)sy’n dod i ben 56 o ddyddiau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Diddymu absenoldeb newydd-anedig

12.  Caiff aelod ddiddymu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig o dan yr amgylchiadau canlynol—

(a)nid yw’r cyfnod o absenoldeb newydd-anedig wedi dechrau hyd yn hyn; a

(b)mae’r aelod wedi hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i ddiddymu’r absenoldeb.

Aelod i ddewis dyddiad dechrau’r absenoldeb newydd-anedig

13.  Ar yr amod y bydd y cyfnod o absenoldeb newydd-anedig yn dod i ben o fewn y cyfnod a ragnodir gan reoliad 11, caiff aelod ddewis ar ba ddyddiad y bydd ei absenoldeb newydd-anedig yn dechrau.