Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 2903 (Cy. 282)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Gwnaed

12 Tachwedd 2013

Yn dod i rym yn unol â darpariaethau rheoliad 1(2) a (3).

Yn unol ag adran 26(4) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

(2Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym am 00.01 o’r gloch ar 28 Tachwedd 2013.

(3Daw rheoliad 8 i rym ar 28 Tachwedd 2014.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(5Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adroddiad arolygu” (“inspection report”) yw adroddiad ysgrifenedig sy’n rhoi manylion am faterion a ganfuwyd gan swyddog awdurdodedig tra’n cynnal arolygiad sgorio hylendid bwyd mewn sefydliad, er mwyn asesu ei safonau hylendid bwyd yn unol ag adran 3(1) o’r Ddeddf;

ystyr “dadansoddiad sgôr” (“rating breakdown”) mewn perthynas â sefydliad busnes bwyd yw dadansoddiad o’r sgôr a roddwyd i’r sefydliad hwnnw i’w sgoriau cydrannol ar gyfer pob un o’r meini prawf sgorio;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013;

rhaid dehongli “gan gynnwys” (“including”) ac “yn cynnwys” (“includes”) yn ddigyfyngiad;

ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw sefydliad busnes bwyd;

ystyr “sgôr” (“rating”) yw sgôr hylendid bwyd a roddir o dan y Ddeddf, ond nid sgôr anstatudol fel y’i diffinnir yn rheoliad 2(4);

ystyr “y sgôr uchaf” (“the highest rating”) yw sgôr o “5 – Da Iawn” (“5 – Very Good”); ac

ystyr “sticer” (“sticker”) yw sticer sgôr hylendid bwyd.

Sgoriau hylendid bwyd ar gyfer sefydliadau a aseswyd cyn cychwyn y Ddeddf

2.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i sefydliad y rhoddwyd sgôr anstatudol iddo cyn 28 Tachwedd 2013 ac nad aseswyd at ddibenion sgorio ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2Rhaid i’r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y cofrestrwyd neu y cymeradwywyd y sefydliad ynddi roi sgôr i’r sefydliad erbyn 28 Mai 2015 fan hwyraf.

(3Wrth roi sgôr i sefydliad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod bwyd gymhwyso’r meini prawf sgorio i’r asesiad anstatudol.

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “asesiad anstatudol” (“non-statutory assessment”) yw asesiad o’r safonau hylendid bwyd mewn sefydliad, a wnaed gan awdurdod bwyd ac sy’n cynnwys yr holl wybodaeth a ddefnyddiwyd i gyfrifo sgôr anstatudol ar gyfer y sefydliad; ac

ystyr “sgôr anstatudol” (“non-statutory rating”) yw sgôr hylendid bwyd a roddwyd i sefydliad o dan gynllun sgorio hylendid bwyd anstatudol yr ASB a lansiwyd yng Nghymru ym mis Hydref 2010(2).

Ffurf Sticer

3.  Mae Atodlen 1 (Sticer Sgôr Hylendid Bwyd) yn cael effaith.

Gwybodaeth arall sydd i’w hanfon ynghyd â hysbysiad o sgôr hylendid bwyd

4.  Rhagnodir yr wybodaeth ganlynol o dan adran 3(3)(d) o’r Ddeddf (gwybodaeth arall y mae’n rhaid i’r awdurdod bwyd ei hanfon at y gweithredwr wrth roi hysbysiad o sgôr)—

(a)os na roddwyd y sgôr uchaf i’r sefydliad, manylion o’r camau y byddai angen eu cymryd mewn perthynas â phob un o’r meini prawf sgorio cyn y gellid rhoi’r sgôr uchaf;

(b)manylion ynglŷn â pha bryd, ym mhle a sut y bwriedir cyhoeddi’r sgôr;

(c)datganiad sy’n tynnu sylw at ddarpariaethau rheoliad 9 (sticeri sgôr hylendid bwyd – lleoliad a dull arddangos);

(d)copi o’r adroddiad arolygu a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r sgôr;

(e)manylion o’r weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn y sgôr, a rhaid i’r manylion hynny gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(i)enw a manylion cyswllt y swyddog a wnaeth yr arolygiad;

(ii)o fewn pa gyfnod y bydd rhaid gwneud apêl;

(iii)sut y gellir cael y ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud apêl;

(iv)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y ffurflen ato ar ôl ei llenwi; a

(v)y broses a ddilynir wrth benderfynu apêl a hysbysu’r gweithredwr a apeliodd o’r canlyniad;

(f)gwybodaeth am hawl y gweithredwr o dan adran 11 o’r Ddeddf (yr hawl i ateb) i wneud sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â sgôr y sefydliad, a rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys—

(i)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y sylwadau ato;

(ii)manylion o’r broses a ddilynir ar gyfer anfon y sylwadau ymlaen at yr ASB; a

(iii)esboniad y caiff yr ASB gyhoeddi’r sylwadau ar ei gwefan yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf;

(g)gwybodaeth am hawl y gweithredwr o dan adran 12 o’r Ddeddf (ailsgoriadau hylendid bwyd) i ofyn am arolygiad ac asesiad pellach o safonau hylendid bwyd y sefydliad, at y diben o alluogi’r awdurdod bwyd i benderfynu a ddylid newid y sgôr, a rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys—

(i)datganiad i’r perwyl y ceir gwneud cais o’r fath ar unrhyw adeg, a bod rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â’r cais os bodlonir yr amodau a bennir yn adran12(4), a phan fo’n gymwys, adran 12(5) o’r Ddeddf;

(ii)manylion o’r amodau hynny;

(iii)datganiad i’r perwyl y caiff yr awdurdod bwyd, o dan y Ddeddf, adennill costau rhesymol yr ailsgorio;

(iv)manylion o’r costau hynny a sut a pha bryd y bydd rhaid i’r gweithredwr eu talu;

(v)sut y gellir cael y ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud y cais;

(vi)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y ffurflen ato ar ôl ei llenwi;

(vii)manylion o’r broses ar gyfer ymdrin â’r cais a hysbysu’r gweithredwr o’r canlyniad; a

(h)datganiad sy’n tynnu sylw at ddarpariaethau adrannau 3(4) a 7(5) o’r Ddeddf (sy’n darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan fydd sgoriau a sticeri, yn eu trefn, yn peidio â bod yn ddilys).

Sefydliadau busnes bwyd esempt

5.—(1Mae’r categorïau canlynol o sefydliadau yn esempt rhag eu sgorio o dan y Ddeddf—

(a)sefydliad—

(i)lle nad yw gwerthu bwyd yn brif weithgaredd y sefydliad; a

(ii)lle mae’r unig fwyd a roddir ar gael i ddefnyddwyr yn fwyd sydd—

(aa)yn silff-sefydlog ar y tymheredd amgylchynol; a

(bb)wedi ei lapio neu’i becynnu cyn dod â’r bwyd i’r sefydliad, a’r deunydd lapio neu’r deunydd pecynnu yn parhau’n seliedig drwy gydol y cyfnod cyn cyflenwi’r bwyd i ddefnyddwyr;

(b)sefydliad a ddefnyddir gan unrhyw un o’r personau canlynol at y diben o ddarparu gwasanaethau gofal, pan fo’r sefydliad hwnnw’n cael ei ddefnyddio hefyd fel annedd breifat—

(i)gwarchodwyr plant;

(ii)personau sy’n bersonau rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 42(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3) at y diben o ddarparu gofal mewn lleoliadau i oedolion;

ond nid yw hyn yn cynnwys sefydliad a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau arlwyo sy’n cyflenwi bwyd o annedd breifat.

(2Ym mharagraff (1)(b)(i), mae “gwarchodwyr plant” yn cynnwys—

(a)gwarchodwyr plant a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(4) neu a gofrestrwyd o dan ddarpariaethau cyfwerth eraill ar gyfer cofrestru gwarchodwyr plant; a

(b)gwarchodwyr plant y byddai’n ofynnol iddynt fod wedi eu cofrestru fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) pe na bai’r plant y darperir gofal iddynt yn hŷn nag wyth mlwydd oed.

Ffurflen ar gyfer gwneud apêl

6.  Mae Atodlen 2 (ffurflen ar gyfer gwneud apêl) yn cael effaith.

Gwybodaeth arall sydd i’w hanfon ynghyd â hysbysiad o benderfyniad ar apêl

7.  Rhagnodir yr wybodaeth ganlynol o dan adran 5(10)(d) o’r Ddeddf (gwybodaeth arall y mae’n rhaid i’r awdurdod bwyd ei hanfon at y gweithredwr wrth roi hysbysiad o’i benderfyniad ar apêl)—

(a)os na roddwyd y sgôr uchaf i’r sefydliad, manylion o’r camau y byddai angen eu cymryd mewn perthynas â phob un o’r meini prawf sgorio cyn y gellid rhoi’r sgôr uchaf;

(b)manylion ynglŷn â pha bryd, ym mhle a sut y bwriedir cyhoeddi’r sgôr;

(c)datganiad sy’n tynnu sylw at ddarpariaethau rheoliad 9 (sticeri sgôr hylendid bwyd –lleoliad a dull arddangos);

(d)enw a manylion cyswllt y person a benderfynodd yr apêl;

(e)os cynhaliwyd arolygiad o’r sefydliad at y diben o ystyried materion a godwyd gan yr apêl, copi o’r adroddiad arolygu mewn perthynas â’r arolygiad hwnnw;

(f)gwybodaeth am hawl y gweithredwr o dan adran 11 o’r Ddeddf (yr hawl i ateb) i wneud sylwadau ysgrifenedig ynghylch sgôr y sefydliad, a rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys—

(i)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y sylwadau ato;

(ii)manylion o’r broses a ddilynir ar gyfer anfon y sylwadau ymlaen at yr ASB; a

(iii)esboniad y caiff yr ASB gyhoeddi’r sylwadau ar ei gwefan yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf;

(g)gwybodaeth am hawl y gweithredwr o dan adran 12 o’r Ddeddf (ailsgoriadau hylendid bwyd) i ofyn am arolygiad ac asesiad pellach o safonau hylendid bwyd y sefydliad at y diben o alluogi’r awdurdod bwyd i benderfynu a ddylid newid y sgôr, a rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys—

(i)datganiad i’r perwyl y ceir gwneud cais o’r fath ar unrhyw adeg, a bod rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â’r cais os bodlonir yr amodau a bennir yn adran12(4) a phan fo’n gymwys, adran 12(5) o’r Ddeddf;

(ii)manylion o’r amodau hynny;

(iii)datganiad i’r perwyl y caiff yr awdurdod bwyd, o dan y Ddeddf, adennill costau rhesymol yr ailsgorio;

(iv)manylion o’r costau hynny a sut a pha bryd y bydd rhaid i’r gweithredwr eu talu;

(v)sut y gellir cael y ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud y cais;

(vi)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y ffurflen ato ar ôl ei llenwi;

(vii)manylion o’r broses ar gyfer ymdrin â’r cais a hysbysu’r gweithredwr o’r canlyniad; a

(h)datganiad sy’n tynnu sylw at ddarpariaethau adrannau 3(4) a 7(5) o’r Ddeddf (sy’n darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan fydd sgoriau a sticeri, yn eu trefn, yn peidio â bod yn ddilys).

Cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol

8.—(1Wrth hysbysu’r ASB o sgôr sefydliad yn unol ag adran 6(1) o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod bwyd anfon at yr ASB gopi hefyd o’r dadansoddiad sgôr mewn perthynas â’r sgôr honno.

(2Yr wybodaeth arall a ragnodir o dan adran 6(3) o’r Ddeddf (gwybodaeth arall y mae’n rhaid i’r ASB ei chyhoeddi) yw—

(a)y dadansoddiad sgôr y cyfeirir ato ym mharagraff (1);

(b)datganiad sy’n esbonio ystyr y dadansoddiad sgôr; ac

(c)datganiad i’r perwyl y caiff unrhyw un ofyn i’r awdurdod bwyd am gopi o’r adroddiad arolygu a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r sgôr ar gyfer sefydliad a leolir yn ardal yr awdurdod bwyd, ac mai mater i’r awdurdod bwyd fydd penderfynu a ddatgelir yr adroddiad arolygu ai peidio.

Sticeri sgôr hylendid bwyd – lleoliad a dull arddangos

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan yw’n ofynnol bod gweithredwr sefydliad yn arddangos sticer yn y sefydliad, yn unol ag adran 7(1) o’r Ddeddf.

(2Rhaid arddangos sticer sy’n dangos sgôr ddilys y sefydliad yn, neu gerllaw, pob mynedfa i’r sefydliad sydd ar gael i’w defnyddio gan gwsmeriaid; a hynny mewn man amlwg, lle y gall cwsmeriaid ddarllen y sticer yn hawdd cyn mynd i mewn i’r sefydliad pan fo’r sefydliad yn agored ar gyfer busnes.

(3Os yw’r sefydliad yn un sy’n darparu bwyd i gwsmeriaid, ond na chaniateir, neu na wahoddir, cwsmeriaid i fynd i mewn iddo, neu os nad oes modd, at bob diben ymarferol, i gwsmeriaid fynd i mewn iddo, rhaid arddangos y sticer sy’n dangos sgôr ddilys y sefydliad mewn man amlwg yn y sefydliad, lle y gall cwsmeriaid ei ddarllen yn hawdd pan fo’r sefydliad yn agored ar gyfer busnes.

(4Pan ddarperir bwyd i gwsmeriaid gan neu ar ran gweithredwr mewn safleoedd gwerthu sydd i ffwrdd o sefydliad y gweithredwr (megis stondinau marchnad neu gerbydau) ac sy’n rhan o fusnes y gweithredwr, ac nad yw’r safleoedd gwerthu hynny yn gymwys i’w sgorio yn eu rhinwedd eu hun, rhaid arddangos sticer sy’n dangos y sgôr ddilys ar gyfer y sefydliad, mewn man amlwg ym mhob safle gwerthu, lle y gall cwsmeriaid ei ddarllen yn hawdd pan fo’r safle’n agored ar gyfer busnes.

(5Rhaid arddangos pob sticer y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—

(a)ar ffenestr sy’n rhan o’r fynedfa berthnasol; neu

(b)ar ffenestr allanol yn gyfagos i’r fynedfa berthnasol; neu

(c)oddi mewn i’r sefydliad, ond fel bod modd ei ddarllen drwy ffenestr o’r fath; neu

(d)os nad oes ffenestr o’r fath, yn rhywle arall yn y fynedfa berthnasol neu gerllaw iddi; neu

(e)pan nad oes arwyneb ar gael sy’n addas ar gyfer arddangos y sticer yn unol ag is-baragraffau (a) i (d), ar fur neu arwyneb arall lle y gall cwsmeriaid ei ddarllen yn hawdd.

(6Ym mharagraff (5) ystyr “y fynedfa berthnasol” (“the relevant entrance”) yw pob mynedfa lle mae’n rhaid arddangos, ynddi neu gerllaw iddi, sticer sy’n dangos sgôr ddilys sefydliad yn unol â pharagraff (2).

Ffurflen ar gyfer cais am arolygiad ailsgorio hylendid bwyd

10.  Mae Atodlen 3 (ffurflen ar gyfer cais am arolygiad ailsgorio) yn cael effaith.

Gwybodaeth arall sydd i’w hanfon ynghyd â hysbysiad o ailsgorio

11.  Rhagnodir yr wybodaeth ganlynol o dan adran 12(9)(d) o’r Ddeddf (gwybodaeth arall y mae’n rhaid i’r awdurdod bwyd ei hanfon at y gweithredwr wrth roi hysbysiad o newid sgôr (“y sgôr newydd”) (“the new rating”) yn dilyn cais am ailsgorio)—

(a)os na roddwyd y sgôr uchaf i’r sefydliad, manylion o’r camau y byddai angen eu cymryd mewn perthynas â phob un o’r meini prawf sgorio cyn y gellid rhoi’r sgôr uchaf;

(b)manylion ynglŷn â pha bryd, ym mhle a sut y bwriedir cyhoeddi’r sgôr newydd;

(c)copi o’r adroddiad arolygu a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r sgôr newydd;

(d)datganiad sy’n tynnu sylw at ddarpariaethau rheoliad 9 (sticeri sgôr hylendid bwyd –lleoliad a dull arddangos);

(e)manylion o’r weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn y sgôr newydd, a rhaid i’r manylion hynny gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(i)enw a manylion cyswllt y swyddog a wnaeth yr arolygiad;

(ii)o fewn pa gyfnod y bydd rhaid gwneud apêl;

(iii)sut y gellir cael y ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud apêl;

(iv)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y ffurflen ato ar ôl ei llenwi; a

(v)y broses a ddilynir wrth benderfynu apêl ac wrth hysbysu’r gweithredwr a apeliodd o’r canlyniad;

(f)gwybodaeth am hawl y gweithredwr o dan adran 11 o’r Ddeddf (yr hawl i ateb) i wneud sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â sgôr y sefydliad, a rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys—

(i)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y sylwadau ato;

(ii)manylion o’r broses a ddilynir i anfon y sylwadau ymlaen at yr ASB; a

(iii)esboniad y caiff yr ASB gyhoeddi’r sylwadau ar ei gwefan yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf;

(g)gwybodaeth am hawl y gweithredwr o dan adran 12 o’r Ddeddf (ailsgoriadau hylendid bwyd) i ofyn am arolygiad pellach ac asesiad o safonau hylendid bwyd y sefydliad at y diben o alluogi’r awdurdod bwyd i benderfynu a ddylid newid y sgôr, a rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys—

(i)datganiad i’r perwyl y ceir gwneud cais o’r fath ar unrhyw adeg, a bod rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â’r cais os bodlonir yr amodau a bennir yn adran12(4), a phan fo’n gymwys, adran 12(5) o’r Ddeddf;

(ii)manylion o’r amodau hynny;

(iii)datganiad i’r perwyl y caiff yr awdurdod bwyd, o dan y Ddeddf, adennill costau rhesymol yr ailsgorio;

(iv)manylion o’r costau hynny a sut a pha bryd y bydd rhaid i’r gweithredwr eu talu;

(v)sut y gellir cael y ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud y cais;

(vi)enw a manylion cyswllt y person y mae’n rhaid anfon y ffurflen ato ar ôl ei llenwi;

(vii)manylion o’r broses ar gyfer ymdrin â’r cais a hysbysu’r gweithredwr o’r canlyniad; a

(h)datganiad sy’n tynnu sylw at ddarpariaethau adrannau 3(4) a 7(5) o’r Ddeddf (sy’n darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan fydd sgoriau a sticeri, yn eu trefn, yn peidio â bod yn ddilys).

Gwybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwyr sefydliadau busnes bwyd newydd yn ei ardal

12.  Yr wybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwyr sefydliadau busnes bwyd newydd yn ei ardal yn unol ag adran 15(1) a (2) o’r Ddeddf yw esboniad o’r materion canlynol—

(a)y sgoriau y ceir eu rhoi i sefydliad;

(b)y modd y cyfrifir sgoriau, gan gynnwys pa lefelau cyrhaeddiad sy’n ofynnol ar gyfer pob sgôr;

(c)pwy fydd yn cynhyrchu’r sgôr ar gyfer sefydliad a pha bryd y gwneir hynny gyntaf;

(d)pa bryd, ym mhle, a sut y bydd rhaid arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd ar gyfer sefydliad;

(e)y ffaith yr hysbysir gweithredwr sefydliad o’r sgôr a roddir i’r sefydliad cyn cyhoeddi’r sgôr;

(f)hawl y gweithredwr i—

(i)apelio yn erbyn sgôr,

(ii)gwneud cais am ailsgorio,

(iii)gwneud sylw ynglŷn â sgôr; a

(g)sut y gellir cael rhagor o wybodaeth am y materion y cyfeirir atynt uchod.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

12 Tachwedd 2013

Rheoliad 3

ATODLEN 1STICER SGÔR HYLENDID BWYD

1.  Rhaid i ffurf sticer sgôr hylendid bwyd fod yn un o’r ffurfiau a ddangosir isod.

2.  Ffurf briodol y sticer ar gyfer sefydliad yw pa un bynnag o’r ffurfiau a ddangosir ym mharagraff 1.sy’n dangos y sgôr gyfredol ar gyfer y sefydliad hwnnw.

3.  Rhaid i bob sticer gydymffurfio â’r manylebau canlynol—

(a)Cyfeirnodau lliw: Green: c43 m0 y100 k0& Black

(b)Dimensiynau’r sticeri (0-5) yw 190 mm(lled) x 158 mm (uchder)

Rheoliad 6

ATODLEN 2FFURFLEN AR GYFER GWNEUD APÊL

1.  Rhaid i’r ffurflen a ddefnyddir gan weithredwr busnes bwyd wrth apelio yn erbyn sgôr, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau rhesymol a allai fod yn ofynnol oherwydd amgylchiadau, fod yn y ffurf a bennir isod.

Rheoliad 10

ATODLEN 3FFURFLEN AR GYFER CAIS AM AROLYGIAD AILSGORIO

1.  Rhaid i’r ffurflen a ddefnyddir gan weithredwr busnes bwyd wrth wneud cais am arolygiad ailsgorio, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau rhesymol a allai fod yn ofynnol oherwydd amgylchiadau, fod yn y ffurf a bennir isod.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynllun sgorio hylendid bwyd ar gyfer Cymru o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”) (2013 dccc 2).

Mae rheoliad 1 yn cynnwys darpariaeth i’r Rheoliadau hyn ddod i rym am 00.01 o’r gloch ar 28 Tachwedd 2013, ac eithrio rheoliad 8, a ddaw i rym ar 28 Tachwedd 2014.

Mae rheoliad 2 yn darparu ar gyfer rhoi sgôr newydd o dan y Ddeddf, erbyn 28 Mai 2015 fan hwyraf, i sefydliad busnes bwyd yr oedd ganddo eisoes sgôr hylendid bwyd o dan y cynllun sgorio anstatudol a lansiwyd yng Nghymru gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“yr ASB”), cyn cychwyn y Ddeddf.

Mae rheoliad 3 yn rhoi effaith i Atodlen 1, sy’n rhagnodi ffurf sticer hylendid bwyd.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi gwybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwr sefydliad busnes bwyd wrth hysbysu’r gweithredwr o’r sgôr hylendid bwyd a roddwyd i’r sefydliad yn dilyn arolygiad sgorio hylendid bwyd. Mae’r wybodaeth honno’n ychwanegol at yr hysbysiad ysgrifenedig o’r sgôr, y datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau am y sgôr a’r sticer sgôr hylendid bwyd y mae’n rhaid i’r awdurdod eu hanfon oll at y gweithredwr yn unol ag adran 3(3)(a) i (c) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi’r categorïau o sefydliadau busnes bwyd sy’n esempt rhag eu sgorio o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 6 yn rhoi effaith i Atodlen 2, sy’n rhagnodi’r ffurflen sydd i’w defnyddio i apelio yn erbyn sgôr hylendid bwyd.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi gwybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwr sefydliad busnes bwyd wrth hysbysu’r gweithredwr o’i benderfyniad i newid sgôr hylendid bwyd y sefydliad o ganlyniad i apêl. Mae’r wybodaeth hon yn ychwanegol at yr hysbysiad ysgrifenedig o’r sgôr hylendid bwyd newydd, y datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau am y sgôr newydd a’r sticer hylendid bwyd ar gyfer y sgôr newydd y mae’n rhaid i’r awdurdod eu hanfon oll at y gweithredwr yn unol ag adran 5(10)(a) i (c) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer anfon at yr ASB, gan yr awdurdod bwyd, ddadansoddiad o sgôr sefydliad (“dadansoddiad sgôr”) sy’n dangos y sgoriau cydrannol ar gyfer pob un o’r meini prawf sgorio a gyhoeddwyd gan yr ASB o dan adran 14(1)(c) o’r Ddeddf. Rhaid i’r ASB gyhoeddi datganiad sy’n esbonio ystyr y dadansoddiad sgôr, a datganiad i’r perwyl y caiff aelodau’r cyhoedd ofyn i’r awdurdod bwyd am gopi o’r adroddiad arolygu mewn perthynas â sefydliad, ac mai mater i’r awdurdod bwyd fydd penderfynu a ddatgelir yr adroddiad arolygu ai peidio.

Mae rheoliad 9 yn rhagnodi ym mhle a sut y mae’n rhaid arddangos sticer hylendid bwyd, mewn gwahanol fathau o sefydliad busnes bwyd.

Mae rheoliad 10 yn rhoi effaith i Atodlen 3, sy’n rhagnodi’r ffurflen sydd i’w defnyddio i wneud cais am arolygiad ailsgorio.

Mae rheoliad 11 yn rhagnodi gwybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwr sefydliad busnes bwyd wrth hysbysu’r gweithredwr o’i benderfyniad i newid sgôr hylendid bwyd y sefydliad o ganlyniad i gais gan y gweithredwr am ailsgorio’r sefydliad yn unol ag adran 12 o’r Ddeddf. Mae adran 12(9)(d) yn gwneud yn ofynnol anfon yr wybodaeth hon at y gweithredwr o fewn 14 diwrnod ar ôl cwblhau’r arolygiad ailsgorio. Mae’r wybodaeth a ragnodir gan reoliad 11 yn ychwanegol at yr hysbysiad ysgrifenedig o’r sgôr hylendid bwyd newydd, y datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau am y sgôr newydd a’r sticer hylendid bwyd ar gyfer y sgôr newydd, y mae’n ofynnol bod yr awdurdod bwyd yn eu hanfon oll at y gweithredwr o fewn 14 diwrnod ar ôl cwblhau’r arolygiad ailsgorio, yn unol ag adran 12(9)(a) i (c) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwr sefydliad busnes bwyd newydd o fewn ei ardal, o fewn 14 diwrnod ar ôl cofrestru’r sefydliad o dan Erthygl 6 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 neu’i gymeradwyo o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) 853/2004 (neu unrhyw ofyniad cyfatebol) i gofrestru neu gymeradwyo sefydliadau busnes bwyd, yn unol ag adran 15(1) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y drafft o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n pennu gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t 37) a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/96/EC (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t 81).

(2)

“The Food Hygiene Rating Scheme for England, Wales and Northern Ireland” sydd ar gael yn http://ratings.food.gov.uk/.