NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud addasiadau i ddeddfiadau y bernir eu bod yn briodol mewn cysylltiad â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaeth arbed sy’n ymddangos yn briodol mewn cysylltiad â’r Mesur.

Mae Rhan 3 o’r Mesur (trefniadau llywodraethu sydd ar gael) (adrannau 34 i 36) yn gwneud newidiadau i’r trefniadau llywodraethu a ganiateir i awdurdodau lleol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yng Nghymru. Mae adran 34 o’r Mesur yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) i ddileu model y weithrediaeth maer a rheolwr cyngor o blith y mathau o drefniadau gweithrediaeth sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol arall. Mae adran 35 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru sy’n defnyddio trefniadau amgen roi’r gorau i wneud hynny a dechrau defnyddio math o drefniant gweithrediaeth a ganiateir yn eu lle a hynny yn unol â darpariaethau Atodlen 1. Mae adran 36 o’r Mesur yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth ac mae hefyd yn cynnwys darpariaethau arbed.

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn (trefniadau amgen a threfniadau gweithrediaeth: addasiadau a darpariaethau eraill) (Erthyglau 2 i 9) yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ganlyniadol a darpariaeth arbed mewn cysylltiad â Rhan 3 o’r Mesur.

Mae erthygl 2 yn gwneud addasiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 er mwyn hepgor paragraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 3 sy’n cynnwys cyfeiriadau at ddarpariaethau ynglŷn â threfniadau llywodraethu yn Neddf 2000 sydd wedi’u diddymu gan y Mesur.

Mae erthygl 3 yn gwneud addasiad canlyniadol i reoliad 2(a)(i) o Reoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991 er mwyn hepgor rheolwr cyngor o’r rhestr o bersonau y bernir eu bod yn gysylltiedig ag awdurdod lleol ac na fernir eu bod yn annibynnol ar yr awdurdod.

Mae erthygl 4 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliad 10 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 5 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 8 a 9 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 6 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 3, 17, 20 a 24 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 7 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 3 ac 11 o Reoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.

Mae erthygl 8 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 5 a 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor a threfniadau amgen.

Mae erthygl 9 yn gwneud darpariaeth arbed ynglŷn ag awdurdodau lleol sy’n defnyddio trefniadau amgen ac y mae’n ofynnol o dan adran 35 o’r Mesur iddynt ddefnyddio yn hytrach fath o drefniadau gweithrediaeth sy’n cyd-fynd ag Atodlen 1 i’r Mesur. Effaith erthygl 9 yw caniatáu i unrhyw awdurdod sy’n defnyddio trefniadau amgen pan ddaw Rhan 2 o’r Gorchymyn i rym barhau i wneud hynny nes ei fod wedi cydymffurfio â’i ddyletswydd o dan adran 35 o’r Mesur.

Mae Rhan 7 o’r Mesur (cymunedau a chynghorau cymuned) yn gwneud newidiadau i’r fframwaith o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chymunedau a chynghorau cymuned, yn benodol drwy ddiwygio darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”). Mae Pennod 2 o Ran 7 (trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau) yn gwneud newidiadau i’r trefniadau ynglŷn â threfnu cymunedau a’u cynghorau drwy ddiddymu adrannau 28 i 29B o Ddeddf 1972, mewnosod adrannau newydd 27A i 27M yn Neddf 1972, gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1972 a darpariaeth drosiannol.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn (trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau: addasiadau) (erthyglau 10 ac 11) yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed i Ddeddf 1972 gan Ran 7 o’r Mesur. Mae erthygl 10 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 er mwyn gosod cyfeiriad at adran 27D o Ddeddf 1972 yn lle cyfeiriad at adran 28, cyfeiriad at adran 27F neu 27H yn lle cyfeiriad at adran 29 a chyfeiriad at adran 27J neu 27L yn lle cyfeiriad at adran 29A. Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 4(2) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1979 er mwyn gosod cyfeiriad at adrannau 24F neu 27H yn lle cyfeiriad at adran 29.